Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd Martha Hughes Cannon yn Stryd Madoc, Llandudno ar 1 Gorffennaf, 1857, yn ail o dair merch Peter Hughes (c.1825-1861), saer, a'i wraig Elizabeth (ganwyd Evans, c.1833-1923). Ar y pryd roedd cymuned fechan o Formoniaid yn hen bentref Llandudno ar Ben-y-Gogarth, ac mae'n debyg bod Peter ac Elizabeth Hughes yn aelodau ohoni. Eu cyfeiriad olaf yng Nghymru, a gofnodwyd yn rhestr teithwyr 'The Underwriter', y llong a'u cludodd ar draws Môr Iwerydd yn 1860, oedd Tanygraig sydd i fyny yn yr hen bentref. Profiad dirdynnol i'r teulu oedd croesi o afon Missouri i Salt Lake City mewn cert ychen yn 1861. Bu farw Annie, chwaer iau Martha, ar y Gwastadeddau, a bu ei thad farw dridiau ar ôl cyrraedd Utah.
Pan gyrhaeddodd Martha oedran gadael ysgol, penderfynodd ar yrfa yn gofalu am gleifion. Roedd cynlluniau ar droed ar gyfer ysbyty mamolaeth yn y ddinas, ac ystyrid y dylai afiechydon merched gan eu trin gan feddygon o ferched. Galwyd Martha gan yr Eglwys i ddilyn cwrs meddygaeth, yn un o'r tair merch gyntaf yn Utah a alwyd i wneud hynny. Yn 1878, aeth i Brifysgol Michigan i astudio am radd MD. Cychwynnodd wedyn ar radd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Pennsylvania, a chwblhaodd ei haddysg â chwrs mewn areithio cyhoeddus, gan dderbyn gradd 'Batchelor of Oratory' o'r 'National School of Elocution and Oratory' yn Philadelphia. Yn ôl pob golwg roedd gyrfa lwyddianus a buddiol o'i blaen, ond nid felly roedd hi i fod. Ni fyddai bywyd fyth yn rhwydd i Martha Hughes. Roedd yn ferch gymhleth a diildio, wedi ei rhwygo ddwy ffordd, gan ei ffydd geidwadol ddofn ar yr un llaw a'i gwleidyddiaeth radicalaidd danllyd ar y llall. Wedi pedair blynedd llwyddiannus yn yr ysbyty, yn 1886 cefnodd yn sydyn ar ei gyrfa, a ffoi o Salt Lake City i Ewrop, gan fynd â Lizzie, ei merch saith mis oed, gyda hi, a gadael o'i hôl y gŵr yr oedd wedi ei briodi'n gyfrinachol ddeunaw mis ynghynt. Roedd Angus Munn Cannon yn un o gyfarwyddwyr yr ysbyty, yn ddinesydd Mormon blaenllaw ac yn frawd i un o'r Cworwm o Ddeuddeg Apostol. Roedd dair blynedd ar hugain yn hŷn na Martha ac yn dad i ddau ar bymtheg o blant. Martha oedd ei bedwaredd wraig.
Camgymeriad fyddai tybio i Martha gael ei gorfodi i briodas amlwreiciol gan gymdeithas batriarchaidd orthrymus. Roedd yn fenyw ddeallus, oleuedig a phendant ei barn, ac mae'r modd y mynnodd addysg a gyrfa iddi ei hun yn adlewyrchu ei hysbryd annibynnol a'i ffeminyddiaeth ddigyfaddawd. Gwyddai'n iawn beth oedd o'i blaen. Gwyddai na fyddai'n cael bywyd cartef confensiynol. Gwyddai na châi ond ambell ymweliad gan ei gŵr. Ond credai â'i holl galon yn nysgeidiaeth ei heglwys ac yn sancteiddrwydd priodas amlwreiciol. 'Plural marriage,' ysgrifennodd, 'would be unendurable without a thorough knowledge from God that the principle for which we are battling and striving to maintain in its purity upon the earth is ordained by Him.'
Ni allasai fod wedi cychwyn ar briodas amlwreiciol ar adeg fwy anffodus. Roedd llifeiriant o deimlad gwrth-Formonaidd yn golchi trwy'r Unol Daleithiau a'r llywodraeth ffederal yn Washington yn benderfynol o waredu'r genedl rhag ffordd o fyw a ystyriai'n farbaraidd. Gosodwyd ditectifs i wylio rhai o'r dinasyddion mwyaf dylanwadol, ac un o'r rhai cyntaf a arestiwyd oedd Angus. Gwysiwyd Martha i roi tystiolaeth yn ei erbyn ac yn erbyn dynion eraill hefyd y bu eu gwragedd dan ei gofal yn yr ysbyty mamolaeth. Er mwyn osgoi tystiolaethu, ffodd dramor, gan fynd â'i phlentyn newydd-anedig gyda hi.
Daeth i Brydain, gan aros yn gyntaf gyda perthnasau ei mam yn Birmingham a'r cyffiniau. Teithiodd i Landdoged, ger Llanrwst yn Sir Ddinbych, i chwilio am deulu ei thad. Aeth ymlaen i Ffrainc, y Swistir a'r Almaen, gan ymweld ag ysbytai ac ysgolion nyrsio, yn fwyfwy digalon ac unig ac yn hiraethu o hyd am ei chartref ac am Angus. Ysgrifennai ato heb geisio cuddio dim. Cadwodd Angus ei llythyrau i gyd, ac wedi iddo farw aethant i Archif yr Eglwys yn Salt Lake City, lle gellir eu darllen heddiw - cofnod gonest a phoenus o fywyd mewn amlwreiciaeth.
Nid oes awgrym bod tair gwraig gyntaf ei gŵr yn broblem iddi. Roedd y tair yn llawer hŷn na hi. Ond ychydig ddyddiau cyn iddi adael am Ewrop, priododd Angus, yn gyfrinachol iawn, am y pumed tro. Ysgifennodd at Martha gan ddweud ei fod wedi gosod ei ddefosiwn i'r Eglwys uwchlaw popeth. Atebodd Martha, 'I wish we could look at the divine part of these things only, but with so much earthiness in our nature this is not always easily accomplished.' O'r diwedd, yn Rhagfyr 1887, darfu'r warant i'w harestio a dychwelodd Martha adref, ond cyn iddi gyrraedd roedd Angus wedi cymryd chweched wraig, heb yn wybod iddi hi na'r gwragedd eraill.
Wedi dychwelyd, bu Martha'n weithgar yn y mudiad hawliau merched. Roedd wedi ymhel ag ysbryd a chredoau'r mudiad o oedran ifanc. Yn ei harddegau gweithiodd fel cysodydd yn argraffdy'r 'Woman's Exponent', cylchgrawn i ferched Mormonaidd a oedd yn frwd dros briodas amlwreiciol a thros bleidlais i ferched. Roedd merched Utah mewn sefyllfa anghyffredin iawn. Am ddwy flynedd ar bymtheg, o 1870 i 1887, bu ganddynt yr hawl i bleidleisio, hawl a enillwyd yn bennaf trwy ymdrechion lobi gwrth-amlwreiciaeth yn Washington. Eu dadl oedd y byddai merched Mormonaidd, o gael y bleidlais, yn siŵr o'i defnyddio i dorri'n rhydd o hualau amlwreiciaeth. Ond pleidleisiodd y chwiorydd fel un dros y status quo, gan fynnu nad oedd mandad gan y llywodraeth i ymyrryd. Dadleuent fod ysgariad yn hawdd ei gael yn Utah i wraig oedd yn anhapus yn ei phriodas. Rhoddodd eu gwrthwynebwyr y gorau iddi yn y diwedd ac, wedi caniatáu'r bleidlais i ferched Utah am ddeunaw mlynedd, tynnwyd yr hawl oddi wrthynt yn ddisymwth. Sbardunodd hyn adwaith chwyrn ac ymgyrch rymus i adennill y bleidlais, a bwriodd Martha iddi'n frwd.
Trwy gydol y 1880au, tynhaodd y llywodraeth ffederal ei gafael ar y Seintiau amlwreiciol, gan eu gwasgu'n ddidrugaredd. Carcharwyd cannoedd ohonynt, cafodd cannoedd mwy ddirwyon trwm, ac atafaelwyd mwy a mwy o eiddo'r Eglwys. Yn y pen draw, yn 1890, tair blynedd ar ddeg ar ôl marwolaeth Brigham Young, ildiodd yr Eglwys a chyhoeddodd Wilford Woodruff, y Proffwyd ar y pryd, fod Duw wedi deddfu mai un wraig yn unig oedd i bob Sant o hynny ymlaen. Yn gyfreithiol felly, dylai perthynas Angus a Martha fod wedi dod i ben, ond roedd yn amlwg yn fuan ei bod yn parhau.
Ar ôl dychwelyd i Salt Lake City yn 1888, cychwynnodd Martha ar yrfa newydd. Sefydlodd goleg hyfforddi nyrsys, y cyntaf yn Utah. Ond ymhen dim, bu rhaid iddi roi'r gorau i'w gyrfa newydd. Unwaith eto, roedd hi'n feichiog. Unwaith eto, er mwyn amddiffyn Angus, cefnodd ar ei hamcanion a ffoi, y tro hwn i Galiffornia, gan fynd ag Elizabeth a'i mab newydd-anedig, James (1890-1950) gyda hi. 'Oh for a home, for a husband of my own and a father for my children', ysgrifennodd, 'and all the little auxiliaries that make life worth the living. Will they ever be enjoyed by this storm-tossed exile?'
Ymhen dwy flynedd, dychwelodd yn dawel i Salt Lake City ac ailafael yn ei phractis meddygol a'i phriodas amlwreiciol. 'That Martha and Angus loved each other is evident,' ysgrifennodd un o wyrion Angus, 'but equally manifest were their disputes. Theirs was a bittersweet relationship. Love letters and valentines interspersed with complaints about neglect and threats of divorce.'
Daeth yn aelod blaenllaw o'r Utah Women's Suffrage Association a gwnaeth enw iddi ei hun fel areithydd, nid yn unig yn Utah, ond ar draws y wlad. Fe'i gwahoddwyd i siarad yn Ffair y Byd yn Chicago yn 1893, a nododd y Chicago Record 'Mrs Dr. Martha Hughes Cannon … is considered one of the brightest exponents of the women's cause in the United States'. Nid oedd Utah eto'n dalaith, ond roedd wedi cael addewid o statws talaith petai'n rhoi'r gorau'n ffurfiol i amlwreiciaeth. Cadwyd yr addewid yn 1896, ac yng nghyfansoddiad y dalaith newydd roedd cymal yn adfer y bleidlais i ferched. Ni fyddai merched yn ennill yr hawl i bleidleisio yng ngweddill yr Unol Daleithiau am bum mlynedd ar hugain eto. Wedi ennill y frwydr honno, chwiliodd Martha am achos arall i'w ymladd.
Bu'n ymwybodol ar hyd ei gyrfa nad oedd safonau meddygol yn uchel yn Utah. Tyfai Salt Lake City yn gyflym, gan ddyblu yn ei maint rhwng 1880 a 1890. Roedd afiechydon fel colera, TB, y pâs a'r frech goch yn rhemp. Roedd angen dŵr glanach, system carthffosiaeth well, a gwell amodau gwaith i'r gweithlu. Yn etholiad cyntaf senedd newydd y dalaith, rhoddodd Martha ei henw gerbron fel un o'r Democratiaid yn y gystadleuaeth am un o seddi Salt Lake City. Yn sefyll yn ei herbyn yr oedd ei gŵr, Angus yn un o ymgeiswyr y Blaid Weriniaethol. Pan ddaeth diwrnod yr etholiad ym mis Tachwedd 1896, enillodd Martha a'r Democratiaid fuddugoliaeth ysgubol. Hi oedd y wraig gyntaf i'w hethol i senedd talaith Utah, a dyna pam y saif ei cherflun heddiw yng nghwrt Adeilad Capitol Utah. Hi hefyd oedd y wraig gyntaf i'w hethol i unrhyw senedd yn y genedl gyfan, yn daleithiol neu ffederal, a dyna pam y mae cerflun ohoni i'w godi yn y National Statuary Hall yn Washington D.C. Daeth llawer o anrhydeddau eraill i'w rhan, gan gynnwys stamp coffa yn 1992 ac enwi adeilad Adran Iechyd Utah 'The Dr. Martha Cannon Building' yn 1986.
Bu'n llwyddianus iawn fel seneddwraig. Fel y gellid disgwyl, ym maes iechyd cyhoeddus y gwnaeth ei gwaith gorau. Yn ystod ei mis cyntaf yn y swydd, cyflwynodd fesur i sefydlu awdurdod iechyd cyhoeddus a gyfrannodd at osod safonau glanweithdra uwch ledled y dalaith, gan wella'r cyflenwad dŵr, trwyddedu doctoriaid a cheisio rheoli afiechydon heintus. Etholwyd Martha yn aelod o fwrdd yr awdurdod newydd. Ar yr un pryd llywiodd ddeddf 'i ddiogelu iechyd gwragedd a merched cyflogedig' i'r llyfrau statud ac un arall 'yn gorfodi'r awdurdodau i roi addysg i blant dall a mud a byddar'. Noddodd fesur hefyd i sefydlu safonau glanweithdra gwell yn y diwydiant cynhyrchu bwyd. Yn 1899, cafwyd ymgais i'w henwebu i sedd yng Nghynghres yr Unol Daleithiau, ond nid oedd i fod.
Unwaith eto, a'i gyrfa ar i fyny, chwalwyd ei chynlluniau gan feichiogrwydd arall. Y tro hwn nid oedd modd ei gadw'n gyfrinach. Arestiwyd Angus a chafodd ddirwy o $100, ond talodd Martha yn ddrutach. Pan anwyd Gwendolyn yn Ebrill 1899 ymddeolodd Martha o fywyd cyhoeddus, er nad oedd ond yn ei deugeiniau. Parhaodd mewn practis preifat a gwnaeth astudiaeth o afiechydon nerfol, gan ddod yn awdurdod ar ddibyniaeth ar gyffuriau, ond treuliodd fwy a mwy o'i hamser gyda'i phlant. Dirywiodd ei pherthynas ag Angus nes gadael fawr mwy na mân gecran a llythyrau dibaid yn gofyn am bres.
Mae tystiolaeth y llythyrau yn awgrymu iselder cynyddol. Er gwaethaf ei hymddygiad hunan-hyderus yn gyhoeddus, dioddefai yn breifat o ddiffyg hyder. 'People have said I had no feeling when in reality my pent up feeling, like a cankerous worm, was gnawing me internally'. Bu farw Gwendolyn yn 1928, yn naw ar hugain mlwydd oed. Torrodd hyn ei chalon. Ni fedrai ei gŵr roi iddi'r cartref y dyheai amdano na'r sicrwydd emosiynol oedd angen arni. Yn y diwedd, gadawodd Utah a symud i fyw at ei mab yn Los Angeles. Ac yno y bu farw ar 10 Gorffennaf 1932. Un o'i dymuniadau olaf oedd bod ei holl bapurau personol a'i dyddiaduron yn cael eu llosgi.
Am lawer blwyddyn bu bron i'w henw a'i gyrfa fynd yn anghof, ond cododd ei seren eto pan sylweddolwyd ei bod wedi ymladd llawer o'r brwydrau yr oedd gwragedd ifanc Mormonaidd, a gwragedd ifanc ymhobman, yn eu hymladd heddiw. Pleidiwyd ei hachos gan nifer o grŵpiau ffeministaidd. Trwy gydol ei bywyd brwydrodd am yr hawl i ferched gael byw bywydau cyfoethocach, cyflawnach ac mwy boddhaus. Eto, iddi hi, brwydr ydoedd a gymhlethwyd gan ei chred mewn priodas amlwreiciol a'i ffydd yn y ffordd Formonaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 2020-08-06
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.