CHARLES, WILLIAM JOHN (1931 - 2004), pêl-droediwr

Enw: William John Charles
Dyddiad geni: 1931
Dyddiad marw: 2004
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pêl-droediwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Geraint H. Jenkins

Ganwyd John Charles yn 19 Stryd Alice, Cwmbwrla, Abertawe, ar 27 Rhagfyr 1931, y cyntaf o dri mab a dwy ferch a anwyd i Edward Charles (1898-1972), codwr adeiladau dur, a'i wraig Lily (g. Burridge, 1902-1984). Pêl-droediwr rhyfeddol oedd John Charles ac ef oedd y Cymro cyntaf i ennill bri ar lwyfan rhyngwladol. Ef, yn ddiamau, oedd y pêl-droediwr gorau i'w fagu yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif.

Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Cwm-du ac yn Ysgol Uwchradd Manselton. Buan y sylweddolodd ei athrawon nad oedd deunydd sgolor ynddo. Pêl-droed oedd ei unig gariad a synfyfyriai'n aml yn y dosbarth wrth ystyried ei ddyfodol yn y maes hwnnw. 'Deffra Charles! Deffra!', meddai un o'i athrawon blin wrtho, 'Wnei di byth ennill bywoliaeth trwy chwarae pêl-droed!' Gydag ochenaid o ryddhad y ffarweliodd John, yn 14 oed, â gwaith ysgol, gan ymuno â phrentisiaid addawol eraill ar staff clwb pêl-droed Abertawe. Yn ogystal ag ymarfer ar Gae'r Vetch, disgwylid iddo beintio, chwynnu a thacluso'r terasau, ac i ofalu am wisg ac esgidiau sêr y clwb. Am ryw reswm, er bod y clwb yn gwerthfawrogi ei ddoniau fel pêl-droediwr ifanc, ni chafodd wisgo crys gwyn tîm cyntaf Abertawe erioed. Trwy ofer esgeulustod, gadawyd i un a ddaeth yn seren ryngwladol ddisglair lithro o afael y clwb. Ac yntau'n 17 oed, fe'i cipiwyd dan drwyn y rheolwyr gan Alf Pickard, un o sgowtiaid Leeds United, a'i drosglwyddo i ddwylo rheolwr enwog y clwb, yr Uwchgapten Frank Buckley. Cyn pen dim roedd yn serennu fel canolwr yn nhîm cyntaf Leeds. Bu'n gwasanaethu yn y fyddin gyda'r Gwaywyr Brenhinol am ddwy flynedd ac erbyn iddo ddychwelyd, yn gryfach ei gorff ac yn fwy strydgall, roedd Buckley wedi penderfynu ei symud i safle'r blaenwr canol. Bu hynny'n drobwynt pwysig iawn yn ei yrfa. Sgoriodd goliau di-rif o hynny ymlaen. Mewn 297 gêm yn lliwiau Leeds, sgoriodd 150 gôl. Ei ddawn ef o flaen y gôl oedd yn bennaf cyfrifol am ddyrchafiad Leeds i'r Adran Gyntaf ym 1956. Cymaint oedd ei ddylanwad fel y cyfeiriai rhai gohebwyr at dîm Leeds fel 'John Charles United'.

O safbwynt ei fywyd personol, llawn cyn bwysiced oedd diwrnod ei briodas. Ar 16 Mawrth 1953 ymbriododd â Margaret Elsie (Peggy) White, merch i yrrwr trên a chlerc mewn banc yn Leeds. A hithau'n 21 oed, roedd Peggy flwydd yn iau na'i gŵr. Ganwyd iddynt bedwar mab (Terry, Melvyn, Peter a David), gan newid eu bywyd teuluol yn llwyr. Ond nid yn swydd Efrog y magwyd y tyaid hwn o fechgyn. Ers rhai blynyddoedd roedd clybiau gorau Ewrop wedi bod yn llygadu John a'r cyntaf i'r felin oedd Juventus, clwb ariannog yn Turin a oedd yn awyddus i ennill cwpanau mawr eu bri. Tîm go wachul oedd ganddynt ar y pryd ac roedd eu dull negyddol o chwarae (catenaccio) yn ddiflas i'w wylio. Penderfynodd rheolwyr y clwb mai John Charles fyddai eu mab darogan. Ym mis Awst 1957 talwyd £65,000 i Leeds am wasanaeth y Cymro, ffi a oedd yn record ar y pryd. Trwy lofnodi John, gweddnewidiwyd rhagolygon La Vecchia Signora (yr Hen Foneddiges), fel y gelwid clwb Juventus.

Bu John Charles yn llwyddiant ysgubol yn yr Eidal. Trwy ffurfio partneriaeth ffrwythlon ag Omar Sívori, mewnwr dewinol a chwim o'r Ariannin, sgoriodd 28 gôl yn ei dymor cyntaf. Enillodd Juventus y bencampwriaeth ym 1958 ac etholwyd John yn chwaraewr y flwyddyn yn yr Eidal. Aeth y clwb o nerth i nerth, gan ennill Cwpan yr Eidal ym 1959 a 1960 a'r bencampwriaeth ym 1960 a 1961. Dros gyfnod o bum tymor sgoriodd John 93 gôl mewn 155 gêm. O ganlyniad, daeth Il Re John (y Brenin John) yn eilun cenedlaethol.

Yn wahanol i lawer iawn o bêl-droedwyr eraill o Brydain a fentrodd i ffau llewod yr Eidal, gwnaeth John Charles ei orau glas i ymdoddi i'r gymdeithas trwy ddysgu Eidaleg a gwerthfawrogi arferion a thraddodiadau yr Eidalwyr. Mwynhâi wres tanbaid y Môr Canoldir, ynghyd â bwyd maethlon a blasus y brodorion. Fel prif seren y tîm, roedd cryn alw am ei wasanaeth y tu hwnt i'r maes chwarae. Gan fod ganddo lais canu bas gwych, cafodd y cyfle i recordio caneuon poblogaidd fel 'Sixteen Tons' a 'Love in Portofino' ac i gymryd rhan mewn ffilm ddogfen amdano ef ei hun a'i gymar Omar Sívori.

Parhaodd yr hawddfyd hwn am bum mlynedd. Gan fod ei wraig Peggy yn hiraethu am ei chartref, penderfynodd John ddychwelyd i'w hen gynefin yn Elland Road ym 1962. Ac yntau'n 31 oed erbyn hynny a'i ddyddiau gorau wedi mynd heibio, methodd ag addasu ei hun i ddulliau hyfforddi'r rheolwr Don Revie ac i gyflymder y gêm yn Lloegr. Ymhen tri mis roedd wedi ymuno â chlwb Roma. Ond camgymeriad oedd hwnnw hefyd. Chwaraeodd ddeg gêm yn unig cyn dychwelyd i Gymru: ymunodd â Chaerdydd am y swm sylweddol o £20,000, gan dreulio tair blynedd yn cynnal llinell gefn clwb y brifddinas. Pluen yn het clwb Henffordd fu cael ei wasanaeth fel chwaraewr-reolwr rhwng 1966 a 1971 cyn iddo gyflawni'r un swydd dros glwb Merthyr Tudful ym 1972-4. Gorffennodd ei yrfa yng Nghymru ym 1976 ar ôl rheoli tîm ieuenctid dinas Abertawe am ddwy flynedd.

Gwaetha'r modd, nid oedd gan John Charles ben busnes o fath yn y byd. Collodd arian sylweddol ar ei fenter tŷ bwyta yn Turin ac felly hefyd yng Nghaerdydd pan aeth yr hwch drwy ei siop chwaraeon yn Rhiwbeina. Bu ei ysgariad ym 1982 hefyd yn ergyd ariannol dost. Er 1978 roedd wedi cwrdd â'i ddarpar ail wraig Glenda Vero, merch i beiriannydd, a threuliodd John dair blynedd aflwyddiannus fel landlord gwesty Gomersal Park, ger Batley. Er mawr ofid i Glenda, anfonwyd John i'r carchar gan dri ynad heddwch yn Huddersfield am fethu â thalu swm o £943 i'r casglwyr trethi. Ar gais Glenda, talwyd y ddyled ar unwaith gan Leslie Silver, cadeirydd Leeds United. Ond pan briodwyd John a Glenda ar 23 Ebrill 1988, nid oedd gan 'y Brenin John' yr un ddimai goch yn ei boced.

Er iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i oes yn byw y tu hwnt i'w famwlad, Cymro tanbaid oedd John Charles. Glynodd wrth ei acen Gymreig ar hyd ei oes ac fe'i cyfrifai hi'n fraint cael gwisgo crys coch ei wlad. Rhwng 1950 a 1965 enillodd 38 cap dros Gymru, gan arwain y tîm bum gwaith a sgorio 15 gôl. Enillodd ei gap cyntaf, ac yntau'n ddeunaw oed, yn erbyn Gogledd Iwerddon ym 1950 a'i gap olaf yn erbyn Rwsia ym 1965. Byddai wedi ennill llawer mwy o gapiau petai Juventus wedi ei ryddhau'n amlach. Arferai Jimmy Murphy, rheolwr Cymru, ddweud bod gweld John yn cyrraedd ar gyfer gêm ryngwladol yn brofiad yr un mor gyffrous â phetai y Meseia ei hun yn dod i'w plith. Arweiniai drwy esiampl, gan osod safonau uchel bob amser. Ni allai'r un o'i gyd-chwaraewyr lai nag edmygu'r tair gôl a sgoriodd yn erbyn Gogledd Iwerddon yn Belfast ym mis Ebrill 1955. Mawr oedd y disgwyl, felly, pan gyrhaeddodd Cymru, am y tro cyntaf yn ei hanes, rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Sweden yn haf 1958. Gosodwyd Cymru yn yr un grŵp â Hwngari, Mecsico a Sweden, talcen go galed i wlad fach fel Cymru. Nid oedd fawr neb yn disgwyl i'r tîm fynd ymhellach ond, tan arweiniaid y rheolwr tanbaid Jimmy Murphy, llwyddwyd i gael tair gêm gyfartal. Er mwyn cyrraedd y rownd go-gynderfynol bu raid i Gymru chwarae eto yn erbyn Hwngari. Brwydrodd y crysau cochion yn eithriadol o ddewr, gan lawn haeddu buddugoliaeth o ddwy gôl yn erbyn un. Ond trwy gydol y gêm cafodd John Charles ei daclo a'i gicio mor arw fel yr oedd ei gorff yn llawn cleisiau ac anafiadau erbyn y chwiban olaf. Prin y gallai gerdded oddi ar y maes. Bu raid ei ollwng o'r tîm i wynebu Brasil, seren y twrnameint, ac nid oedd neb yn fwy drylliedig na John pan sgoriodd sbrigyn ifanc o'r enw Pelé unig gôl y gêm. Yn ôl chwaraewyr Cymru a sawl sylwebydd profiadol, byddai Cymru wedi ennill y dydd petai John Charles wedi bod yn ddigon iach i arwain y llinell flaen. Ac yntau'n 27 oed ar y pryd, fe'i cyfrifid ymhlith goreuon y byd.

Yn ystod ei ymddeoliad dibynnai John yn drwm iawn ar ei wraig Glenda, yn enwedig wrth i'w iechyd waethygu. Ac yntau wedi ysmygu ar hyd ei oes, nid yw'n syndod iddo ddioddef trawiad ar ei galon ym 1993 a chancr ar ei bledren ym 1997. At hynny, cydiodd clefyd Alzheimer ynddo yn ystod ei flynyddoedd olaf. Ni chwerwodd dim. Daliai i ymddiddori yn hynt Leeds United, Juventus a Chymru, a phan deithiai i Turin i wylio gêmau câi groeso tywysogaidd bob amser. Ym mis Ionawr 2004 aeth John a Glenda i Milan i ymddangos ar raglen deledu. Ychydig cyn dechrau'r rhaglen, syrthiodd John a'i ddwyn ar frys i Ysbyty San Carlo Borromeo. Wrth i'w gyflwr waethygu bu raid torri ymaith ei droed dde, troed a sgoriodd gynifer o goliau gwefreiddiol. Fe'i cyrchwyd adref yn awyren breifat Juventus a bu farw, yn 72 oed, yn Ysbyty Pinderfields, Wakefield, ar 21 Chwefror 2004. Cynhaliwyd ei angladd yn eglwys plwyf Leeds ar Ddydd Gŵyl Dewi a darllenwyd llith o'r Ysgrythur yn Gymraeg yn ystod y gwasanaeth. Ffarweliwyd ag ef hefyd mewn gwasanaeth coffa ar gyfer y cefnogwyr yn stadiwm Elland Road ar yr un diwrnod ac yna, ar 19 Ebrill, yn Neuadd Brangwyn, Abertawe. Amlosgwyd corff John Charles a chladdwyd ei weddillion ar gyrion maes pêl-droed Stadiwm Liberty, Abertawe.

Roedd John Charles yn bêl-droediwr rhyfeddol o ddawnus. Fe'i bendithiwyd â chorff grymus dros ben. Yn ei anterth safai 6' 2" a phwysai 14 stôn. Ni welsai meddyg clwb Juventus gorff cyffelyb gan unrhyw chwaraewr erioed. Dywedodd sawl un arall ei fod fel un o dduwiau'r Groegiaid. Da y dewisodd ei frawd Mel (pêl-droediwr hynod o dalentog ei hun) y teitl In the Shadow of a Giant ar gyfer ei hunangofiant ef ei hun. Roedd John yn feistr corn ar holl sgiliau'r gêm. Gallai gicio pêl yn nerthol a chywir â'i ddwy droed, driblo'n ddeheuig, neidio fel eog a thaclo'n rymus. Ef oedd y pêl-droediwr gorau mewn dau safle - canolwr a blaenwr - a welwyd erioed yn ei ddydd os nad erioed ym Mhrydain. At hynny, fe'i hadwaenid gan bawb fel 'Y Cawr Addfwyn' (Il Buon Gigante). Ni fyddai byth yn colli ei dymer nac yn troseddu'n fwriadol ar gae pêl-droed. Trwy gydol ei yrfa lachar ni chafodd yr un dyfarnwr achos i'w rybuddio, heb sôn am ei yrru oddi ar y maes. Parchai reolau'r gêm a'i gyd-chwaraewyr a pherchid ef hefyd am ei foneddigeiddrwydd a'i hawddgarwch. Yn ôl y cyn-ddyfarnwr Clive Thomas: 'Petai gennych 22 o chwaraewyr tebyg i John, ni fyddai angen dyfarnwyr - dim ond cofnodwyr amser.' 'Daeth â pharch mawr i enw Cymru', meddai'r sgowt enwog Gigi Peronace, 'trwy ei ymddygiad bonheddig.' Ni synnwyd neb pan ddatgelwyd fod y gŵr diymhongar hwn wedi rhoi ei gapiau a'i grysau rhyngwladol i wahanol elusennau.

Ceir darlun byw o yrfa John Charles mewn tri hunangofiant o'i eiddo a gyhoeddwyd ym 1957, 1962 a 2003 ac fe'i anrhydeddwyd gan sawl sefydliad. Dyfarnwyd iddo radd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ym 1999 a gradd doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Metropolitan Leeds flwyddyn yn ddiweddarach. Fe'i codwyd i oriel anfarwolion Chwaraewyr Cymru ym 1993, oriel Pêl-droedwyr Rhyngwladol ym 1998 ac oriel Pêl-droedwyr yr Eidal yn 2001. Derbyniodd Ryddfraint Dinas a Sir Abertawe yn 2002 a choffeir ei enw yn Eisteddle John Charles yn Elland Road. Er iddo dderbyn CBE yn 2001, siom o'r mwyaf i'w gefnogwyr oedd amharodrwydd y sefydliad i'w ddyrchafu'n farchog. Petai'r newyddiadurwr a'r cyflwynydd Michael Parkinson yn cael ei ffordd, byddai cofeb o John Charles i'w gweld y tu allan i bob stadiwm pêl-droed ym Mhrydain er mwyn ysbrydoli'r to ifanc. Os bu unrhyw Gymro yn bêl-droediwr cyflawn, John Charles oedd hwnnw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2020-02-10

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.