COOMBES, BERT LEWIS (1893 - 1974), glöwr ac awdur

Enw: Bert Lewis Coombes
Dyddiad geni: 1893
Dyddiad marw: 1974
Priod: Mary Coombes (née Rogers)
Plentyn: Rose Coombes
Plentyn: Peter Coombes
Rhiant: James Coombs Griffiths
Rhiant: Harriett Griffiths (née Thompson)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: glöwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Diwydiant a Busnes
Awdur: Seth Armstrong Twigg

Ganwyd B. L. Coombes ar 9 Ionawr 1893 yn Wolverhampton, unig blentyn James Coombs Griffiths - groser ar y pryd - a'i wraig Harriett (g. Thompson). Fe'i bedyddiwyd yn Bertie Louis Coombs Griffiths, ond yn nes ymlaen mabwysiadodd y teulu y cyfenw Cumbes neu Coombes. Treuliodd Coombes y rhan fwyaf o'i blentyndod yn Swydd Henffordd, ond pan oedd tua deg oed bu'n byw am gyfnod yn Nhreharris, Morgannwg, lle gweithiai ei dad a'i ewythrod yng nglofa Deep Navigation. Derbyniodd y cwbl o'i addysg ffurfiol yng Nghwm Taf Bargoed, ac yna symudodd Coombes a'i deulu yn ôl i Madley, Swydd Henffordd, lle cawsant denantiaeth ar fferm fechan. Felly, pan ymadawodd Coombes â Lloegr yn derfynol yn ddwy ar bymtheg oed i weithio ym mhyllau glo caled Resolfen, Glyn Nedd, dychwelyd a wnaeth yn hytrach na dechrau o'r newydd.

Roedd Resolfen yn ardal fwy gwledig na Threharris, ac mae'n amlwg bod hynny wrth fodd y bachgen a fagwyd yn Swydd Henffordd. Priododd ferch leol o'r un oedran, Mary Rogers, yn Eglwys Dewi Sant, Resolfen, ym Medi 1913. Cymraeg oedd iaith y gymuned, a Mary hithau yn Gymraes, a dysgodd Coombes ddigon o'r iaith i sgyrsio yn Gymraeg. Ganwyd iddynt un ferch, Rose, yn 1914 a mab, Peter, yn 1924. Er i Coombes gychwyn gwaith dan ddaear yn gymharol ifanc, aeth dros ddau ddegawd heibio cyn iddo deimlo'r cymhelliad i sgrifennu, yn ddeugain oed.

Y profiad trawmatig o weld marwolaeth dau gyfaill agos mewn damwain yn y lofa a gymhellodd Coombes i ddechrau sgrifennu. Galwyd arno, yn ôl yr arfer, i roi tystiolaeth yn y cwest, digwyddiad allweddol y byddai Coombes yn ei ddogfennu'n nes ymlaen yn y stori fer bwerus, 'Twenty Tons of Coal' (1939). Wrth iddo siarad yn y cwest, sylweddolodd Coombes yn sydyn 'that neither coroner, solicitors, or hardly any one present had the least idea of what happens underground'. Roedd hyn yn drobwynt i'r glöwr, ac ysgrifennodd yn ddiweddarach mewn hunangofiant anghyhoeddedig, Home on the Hill (1959): 'I must do something to let the world know more about our way of life.' Wedi pendroni'n hir dros y camau posibl, penderfynodd Coombes mai sgrifennu fyddai'r ateb gorau i anwybodaeth y cyhoedd.

Y peth cyntaf a gyhoeddodd oedd beirniadaeth ar bolisi 'Distressed Areas' y Llywodraeth Genedlaethol yn y cylchgrawn gwleidyddol Welsh Labour Outlook, yn Ionawr 1935. Dwy flynedd wedyn, daeth uchelgais llenyddol Coombes yn amlwg pan gyhoeddwyd ei stori fer gyntaf, 'The Flame', yn y cylchgrawn New Writing. Gwnaeth dilysrwydd ymddangosiadol darluniau Coombes o fywyd y gweithwyr ym maes glo de Cymru gryn argraff ar y cyhoeddwyr adain-chwith yn Llundain. Mynegodd John Lehmann - sylfaenydd New Writing - awydd i gyhoeddi darn estynedig gan Coombes mewn cyfres newydd. Pan aeth hyn i'r gwellt, derbyniodd y cyhoeddwr Victor Gollancz lawysgrif y glöwr, a ailwampiwyd yn helaeth i greu'r hyn a alwai Coombes yn 'nofel hunangofiannol'.

Pan gyhoeddwyd These Poor Hands: The Autobiography of a Miner Working in South Wales ym Mehefin 1939 bu'n llwyddiant yn syth, gan werthu 50,000 o gopïau erbyn diwedd y flwyddyn. Llwyddodd hefyd i gyflawni'r gamp amhosibl bron o ennill clod eang gan y glowyr eu hunain fel portread cywir o fywyd y lofa. Er bod These Poor Hands wedi cael ei darllen yn bennaf o safbwyntiau cymdeithasol a gwleidyddol, mae hefyd yn berthnasol iawn i drafodaethau cyfoes ar yr amgylchedd. Trwy ei darlun llwm o gymunedau llygredig a glowyr afiach, mae'r nofel - ynghyd â gweithiau eraill llên ddiwydiannol Cymru - yn cyfleu canlyniadau llwyrddibyniaeth y gymdeithas ar danwydd ffosiliau.

These Poor Hands yw gwaith mwyaf arwyddocaol Coombes. Serch hynny, daliodd yr awdur ati i gyhoeddi straeon byrion a darnau dogfennol yn ystod y rhyfel, gan lunio sgriptiau ar gyfer darllediadau radio hefyd a chychwyn ei gyswllt hirdymor â'r Neath Guardian. Ac yntau'n sosialydd ymrwymedig, defnyddiodd Coombes ei waith llên i bleidio'r achos dros newidiadau gwleidyddol a fyddai'n sicrhau cymdeithas well wedi'r rhyfel, megis gwladoli'r pyllau glo. Yn 1944, cyfrannodd i The Life We Want, pamffled a noddwyd gan y Blaid Ryddfrydol, ond ni fu'n aelod o unrhyw blaid wleidyddol. Yn yr un flwyddyn, cyhoeddodd ei ail lyfr, Those Clouded Hills, a'r flwyddyn wedyn, argraffwyd Miners Day gan Penguin, a'r ddau'n gyfraniadau pwysig i lên y pyllau glo. Parhaodd Coombes i weithio fel glöwr trwy gydol y cyfnod creadigol hwn, a chyhoeddodd erthyglau mewn ystod eang o gylchgronau a chyfnodolion. Ymddeolodd o'r lofa o'r diwedd yng nghanol y 1950au yn dilyn niwed difrifol i'w gefn, ond daliodd ati i sgrifennu, gan ennill cystadleuthau llenyddol a chynnal ei golofn wythnosol yn y Neath Guardian. Yn 1963, cafodd ei anrhydeddu gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr am gyfraniadau rhagorol i lenyddiaeth ddosbarth gweithiol. Bu Mary Coombes farw ar 3 Gorffennaf 1970, ac roedd y golled honno'n ergyd drom i'w gŵr, a fuasai'n gofalu amdani ers rhai blynyddoedd. Bu B. L. Coombes farw ar 4 Mehefin 1974, yn un a phedwar ugain oed. Fe'i claddwyd wrth ochr Mary yn yr un eglwys lle'r oedd y ddau wedi priodi dros drigain mlynedd ynghynt.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-10-14

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.