Ganwyd Gwyn Daniel ar 1 Awst 1904 ym mhentref y Bryn, Port Talbot, plentyn cyntaf Thomas Daniel (1875-1952), glöwr, a'i wraig Sarah (g. Walters, 1879-1922). Ganwyd yr ail blentyn, Mary Margaret (May) ym 1909. Addolai'r teulu yng Nghapel Bryn Seion y Methodistiaid Calfinaidd.
Bu'n ddisgybl yn yr ysgol gynradd leol ac yn Ysgol Sir y Bechgyn ym Mhort Talbot. Ystyriai Gwyn Daniel fod ei deulu wedi chwarae rhan yn Seisnigo ysgol a chymdeithas ei bentref genedigol a dymunai wneud iawn am hynny. Aeth ymlaen i astudio Daearyddiaeth a Chymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, a chwaraeodd yn ganolwr ym mhrif dîm rygbi'r coleg. Sawl blwyddyn wedyn bu ef a'i gyfaill, Eic Davies (1909-1993), yn bathu termau Cymraeg y gêm honno, termau a ddaeth yn rhan o rygbi Cymru. Ym 1929, bu'n gyfrwng i sefydlu Cylch Afan a Margam, Urdd Gobaith Cymru. Dylanwad mawr arno o ddyddiau coleg oedd yr Athro T. Gwynn Jones, a bu barn yr Athro ar Gymru a'r Gymraeg a'i agwedd at ryfel a heddwch yn dyngedfennol.
Yn y coleg yn Aberystwyth y cyfarfu ag Annie Evans (1904-1979) o Ystrad Rhondda. Priododd y ddau ym 1936 ac ymgartrefu yng Nghaerdydd lle ganwyd iddynt dair merch, Nia, Ethni a Lona. Aelodau yng Nghapel Ebeneser yr Annibynwyr oeddynt a Gwyn Daniel yn ddiacon ac athro Ysgol Sul.
Ym 1932, apwyntiwyd ef ac eraill yn athrawon Cymraeg yn ysgolion Caerdydd, a lleolwyd ef yn Ysgol y Grange ac Ysgol Herbert Thompson, Trelái. Rhwng 1934 a 1937 ef oedd llywydd Cylch Ysgolion Elfennol Caerdydd Urdd Gobaith Cymru, ac ym 1937 yn ysgrifennydd Mabolgampau Cenedlaethol yr Urdd a gynhaliwyd yn Stadiwm Maendy. Ym 1939, ef oedd ysgrifennydd Caerdydd y Ddeiseb Genedlaethol dros ymgyrch Senedd i Gymru.
Yr oedd yn un o ymddiriedolwyr cyntaf Tŷ'r Cymry, Heol Gordon, pan gyflwynwyd y tŷ hwnnw i Gymry Caerdydd ym 1936. O'r ganolfan honno bu'n cydweithio ag athrawon, rhieni a gweinidogion i sefydlu Ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd. Rhan o'r ymgyrch oedd yr Ysgol Fore Sadwrn (1943) a Gwyn Daniel yn un o'r athrawon. Wedi pwyso hir, ym 1949, dan nawdd y Pwyllgor Addysg, agorwyd Ysgol Gymraeg mewn dwy ystafell yn Ysgol Parc Ninian. Ef oedd cadeirydd cyntaf Rhieni Dros Addysg Gymraeg. Trwy weithgaredd rhwydweithiol a olygai lythyru, cynnal cyfarfodydd ac ymweld â phobl ar hyd ac ar led Cymru, fe lwyddwyd i sefydlu Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC), ym 1940. Gwyn Daniel oedd llywydd y cyfarfod sefydlu, ac ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf yr Undeb.
Diswyddwyd ef gan Bwyllgor Addysg Caerdydd am ei safiad fel gwrthwynebydd cydwybodol adeg yr Ail Ryfel Byd. Wedi cyfnod fel clerc, cafodd swydd athro gan Bwyllgor Addysg Morgannwg yn Ysgol Cogan, Penarth. Ym 1952 apwyntiwyd ef yn brifathro Ysgol Gwaelod y Garth.
Bu Gwyn Daniel farw wedi trawiad y galon ym Mangor ar 31 Hydref 1960 tra ar ymweliad â changhennau UCAC yn y gogledd. Fe'i claddwyd ym mynwent Trelái, Caerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-05-12
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.