Ganwyd Dafydd G. Davies ar 1 Gorffennaf 1922 yn Prysgol, y Ffôr, Pwllheli, unig blentyn John Clement Davies (1896-1982), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a'i wraig Gwen Ellen (g. Griffith, 1894-1970), athrawes Gymraeg. Symudodd y teulu pan alwyd ei dad i fugeilio'r eglwys yng nghapel y Graig, Castellnewydd Emlyn, yn 1922, ac yno y magwyd y mab.
Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Adpar, Castellnewydd Emlyn, ac Ysgol Sir Aberteifi. Yn ddwy ar bymtheg oed teimlodd ei fod yn cael ei alw i'r weinidogaeth ymhlith y Bedyddwyr, a threuliodd y blynyddoedd rhwng 1941 a 1952 yn ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth, yng Ngholeg y Bedyddwyr a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a Choleg Mansfield yn Rhydychen. Enillodd radd B.A. (Economeg) cyn ennill gradd B.A. (Groeg Clasurol), ac wedyn radd B.D. - gradd uwch, ar y pryd - yn 1950. Treuliodd y ddwy flynedd nesaf yn dilyn astudiaethau ymchwil yn y Testament Newydd yng Ngholeg Mansfield wedi iddo gael ei ddewis yn un o Ysgolorion Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Iwerddon. Yn 1952, cyn gorffen ei radd yn Rhydychen, derbyniodd alwad i fugeilio eglwysi Seion Llanfair Mathafarn Eithaf a Moreia Pentraeth, sir Fôn. Yn yr un mis, priododd â Kate ('Kitty') Jones (1919-2005), merch y dechreuodd ei chanlyn wedi mynd i'r Coleg ym Mangor. Cawsant dri o blant: mab, Gwilym Dafydd, a ddilynodd ei dad i'r weinidogaeth, ac efeilliaid, Megan a Gwen. Derbyniodd wahoddiad yn 1955 i ymuno â staff Coleg Bedyddwyr De Cymru yng Nghaerdydd fel tiwtor Groeg y Testament Newydd a darlithydd yng Nghyfadran Ddiwinyddol Coleg y Brifysgol Caerdydd. Dyrchafwyd ef yn Brifathro Coleg y Bedyddwyr yn 1970, a bu yno tan iddo ymddeol yn 1985.
Tra'n brifathro, ceisiodd feithrin perthynas rhwng Coleg y Bedyddwyr a cholegau diwinyddol eraill. Bu'n ymwelydd cyson â cholegau yn Ewrop ac America. Trefnodd gytundeb teirannog rhwng Prifysgol Campbell, Gogledd Carolina, Prifysgol Caerdydd a Choleg y Bedyddwyr. Dyfarnodd Prifysgol Campbell iddo D.Litt. er anrhydedd am ei holl ymdrechion i sefydlu'r berthynas rhwng y colegau. Daeth yn aelod o'r corff rhyngwladol, Studiorum Novi Testamenti Societas (Cymdeithas Astudiaethau'r Testament Newydd) yn 1972.
Nid oedd ei gyhoeddiadau'n niferus, ond yn eu plith roedd esboniad cyfoethog ar yr Epistol at y Rhufeiniaid, Dod a Bod yn Gristion (1984). Wedi iddo gyflwyno darlith Pantyfedwen yn Aberystwyth, cyhoeddwyd y gwaith fel llyfr: Canon y Testament Newydd, Ei Ffurfiad a'i Genadwri (1986). Bu'n aelod o banel cyfieithwyr Y Testament Newydd (1975), rhagflaenydd Y Beibl Cymraeg Newydd (1988).
Dangosodd yn gynnar yn ei hanes ei fod yn arweinydd naturiol. Bu'n brif ddisgybl yn Ysgol Sir Aberteifi ac yn gapten timoedd chwaraeon yn yr ysgol, gan ymddiddori yn y chwaraeon ar hyd ei oes. Fel myfyriwr yn y brifysgol, bu'n gapten y tîm pêl-droed, a hefyd yn gapten tîm colegau Prifysgol Cymru. Yn 1945-46 ef oedd Llywydd Cyngor y Myfyrwyr. Bu'n llywydd hefyd Cymdeithas Ddadlau y Brifysgol ym Mangor. Roedd yn un o sefydlwyr Côr Cambrensis yng Nghaerdydd, a 'Gwŷl y Gair a'r Gân' ymhlith eglwysi'r Bedyddwyr. Roedd yn gredwr mawr mewn dylanwad pregeth, ac yn bregethwr grymus ei hunan a wasanaethodd mewn rhyw 900 o gapeli ar draws Prydain ac America. Bu'n Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru (1986) ac yn arweinydd ymhlith y Bedyddwyr ym Mhrydain. Y dystiolaeth orau i'w allu a'i ddawn yw'r dylanwad a gafodd ar yr eglwysi yn ystod ei weinidogaeth, ac ar genedlaethau o'i fyfyrwyr dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain.
Bu farw Dafydd G. Davies yn ei gartref yng Nghaerdydd ar 13 Rhagfyr 2017. Cynhaliwyd ei wasanaeth angladdol ar 2 Ionawr 2018 yng Nghapel Tonyfelin, Caerffili, ac yn Amlosgfa Thornhill.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-12-08
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.