DAVIES, MYRIEL IRFONA (1920 - 2000), ymgyrchydd dros y Cenhedloedd Unedig

Enw: Myriel Irfona Davies
Dyddiad geni: 1920
Dyddiad marw: 2000
Priod: Max Davies
Rhiant: Sarah Jane Morgan (née Jones)
Rhiant: David Morgan
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: ymgyrchydd dros y Cenhedloedd Unedig
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil; Crefydd
Awdur: T. Hefin Jones

Ganwyd Myriel Davies yn Abertawe ar 5 Mawrth 1920, yn ferch ac ail blentyn i weinidog gyda'r Cynulleidfawyr (Annibynwyr), David Morgan (1883-1959), a'i wraig Sarah Jane (g. Jones, 1885-1953). Ganwyd ei brawd, Herbert Myrddin Morgan (1918-1999), ddwy flynedd ynghynt. Treuliodd ei blynyddoedd cynnar yng Nglyn Nedd, Caerau, Maesteg a Hendy-gwyn cyn symud, yn 12 mlwydd oed, i Fancyfelin, Caerfyrddin.

Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn ac o'r fan honno aeth i weithio fel teleffonydd gyda'r Swyddfa Bost yng Nghaerfyrddin, Dinbych-y-pysgod a Chaerdydd. Fe'i hapwyntiwyd yn brif deleffonydd yn Yr Amwythig; yno y cyfarfu â'r newyddiadurwr a'r sosialydd, Max Davies (m. 1986). Symudodd i Lundain, ond ar ôl priodi ym 1952 bu rhaid iddi adael ei swydd yn y Gwasanaeth Sifil ac aeth i weithio fel teleffonydd yn Selfridges, Llundain. Yn ystod Argyfwng Suez yn 1956 ymunodd â Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig a phan ddaeth yr argyfwng i ben fe'i penodwyd i weithio'n llawn amser fel Swyddog Ymgyrchoedd dros y Gymdeithas.

Yn Gristion o argyhoeddiad roedd ffydd Myriel yn gadernid iddi ar hyd ei hoes a cheisiodd addysgu pobl trwy eu hargyhoeddi o rymuster yr adnod 'Câr dy gymydog fel ti dy hun'. Credai mewn trafodaeth a cheisio datrys anghydfodau mewn ffordd ddi-drais gan gofio, trwy'r amser, am bwysigrwydd hawliau'r unigolyn. Bu'n rheolwraig Siop Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig yn Llundain, yn Ysgrifennydd Rhanbarthol Llundain ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Prydain y Gymdeithas. Bu ei brwdfrydedd gyfryw nes i lawer iawn o bobl ei huniaethu'n llwyr â'r Cenhedloedd Unedig. Teithiodd ar draws y byd yn arwain grwpiau trafod a mynegodd droeon iddi deimlo'n freintiedig wrth gael cyfarfod ag arweinyddion y gwledydd, Ysgrifenyddion Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig a'r Pab Paul VI. Gwnaeth tair taith argraffiadau dwfn arni: Groeg i arsylwi ar dlodi'r wlad, Bangladesh i weld effeithiau diffyg fitaminau ar allu gweld plant, a De'r Affrica ychydig fisoedd ar ôl i'r system 'apartheid' ddod i ben.

Ymddeolodd o'i gwaith fel Dirprwy Gyfarwyddwr y Cenhedloedd Unedig yn 1988 ond parhaodd i wneud y gwaith yn ddi-dâl am ddegawd arall. Roedd yn siaradwraig o fri; meddai ar y ddawn i siarad ag argyhoeddiad gyda'i geiriau yn creu cryn argraff ar ei gwrandawyr.

Yn ddiacon er 1968, o 1982 tan ei marwolaeth roedd yn Ysgrifennydd Eglwys Annibynnol Radnor Walk, Chelsea yn Llundain. Bu'n cynrychioli Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ar Fforwm Heddwch Cyngor Eglwysi Prydain ac Iwerddon ac, yn 1993, penodwyd hi, fel cynrychiolydd Cymru, yn un o gyd-Lywyddion y Cyngor hwnnw. Fel rhan o'i gwaith, fe'i gwahoddwyd i fod yn rhan o ddirprwyaeth a deithiodd i'r Iorddonen i ddatblygu gwell dealltwriaeth rhwng Cristnogion, Mwslemiaid ac Iddewon. Gwasanaethodd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg fel Llywydd ym 1994, a chyflwynodd anerchiad yn Undeb Pen-y-bont ar Ogwr ar 'Bod yn Dystion'. Trwy'r gwaith hwn cafodd gyfle i fynegi ei gofid dwfn ar faterion perthnasol i waith a thystiolaeth yr Eglwys Gristnogol gan danlinellu pwysigrwydd heddwch a diarfogi bob amser. Galwyd arni'n aml gan y cyfryngau, yn arbennig felly Radio Cymru a S4C, i egluro agweddau'r Cenhedloedd Unedig ar wahanol bynciau a byddai bob amser yn gytbwys a thrwyadl yn ei sylwadau.

Ym 1983, anrhydeddwyd hi gan yr Orsedd; ei henw yng Ngorsedd oedd Myriel Dafydd. Ym 1975, derbyniodd MBE am ei gwaith gyda Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig ac yn 2000, ychydig wythnosau cyn ei marw, fe'u hurddwyd ag OBE. Bu farw 20 Rhagfyr 2000 a chladdwyd ei gweddillion ym mynwent Gibeon, Bancyfelin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2020-05-27

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.