DAVIES, JOHN SALMON (1940 - 2016), gwyddonydd

Enw: John Salmon Davies
Dyddiad geni: 1940
Dyddiad marw: 2016
Priod: Ann Davies (née Jones)
Plentyn: Eleri Davies
Plentyn: Meinir Davies
Rhiant: Megan Davies
Rhiant: Theophilus Salmon Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwyddonydd
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Neville Evans

Ganwyd John Davies ar 7 Mehefin 1940 yn Llandudoch, Sir Aberteifi, yn fab i Theophilus Salmon Davies a'i wraig Megan (ganwyd Davies). Yng nghartref ei fam y cafodd ei eni, ond fe'i magwyd yn Nhrelech, Sir Gaerfyrddin, lle bu ei dad yn dilyn crefft gof cyn troi at ffermio.

Aeth John i ysgol gynradd Trelech ac yna i Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin lle'r eginodd ei ddiddordeb mewn gwyddoniaeth. Astudiodd gemeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe, gan raddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 1960. Arhosodd yn Abertawe i ddilyn rhaglen ymchwil dan arweiniad yr Athro Cedric Hassall, ac enillodd radd Ph.D. yn 1963 am draethawd yn dwyn y teitl 'Specific Cleavage of Peptides'. Treuliodd y flwyddyn ddilynol yn gymrawd ymchwil yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) yn UDA. Dychwelodd i swydd darlithydd mewn cemeg yn Abertawe yn 1964 ac yno y bu am weddill ei yrfa gan ymddeol yn uwch-ddarlithydd yn 2007. Gwasanaethodd yn Bennaeth Adran ac fel Deon y Gyfadran Wyddoniaeth, ac roedd yn uchel ei barch gan fyfyrwyr a chydweithwyr oherwydd trylwyredd ei baratoi a'i natur amyneddgar a chadarn.

Priododd John ag Ann Jones yn 1964, gan ymgartrefu yng Nghilâ, Abertawe. Ganwyd dwy ferch iddynt, Eleri a Meinir.

Cemeg organig oedd maes ei arbenigedd, a bu'n ymchwilio peptidau, sef cyfansoddion yn seiliedig ar asidau amino sydd i'w cael yn naturiol yn y corff dynol, yn enwedig celloedd croen. Gyda chymorth grwpiau o ymchwilwyr dros y blynyddoedd rhoddodd John bwyslais ar ailwampio strwythur peptidau gan eu gwneud yn fwy deniadol i'r diwydiant fferyllol. Bu'n awdur cydnabyddedig gyda dros 60 o bapurau ymchwil, ac yn sgil ei arbenigedd bu'n Brif Olygydd (1993-2006) ar 'Amino Acids, Peptides and Proteins', sef adroddiadau cyfnodol y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, yn Ysgrifennydd (1994-2000) i'r Gymdeithas Beptid Ewropeaidd, ac yn Ysgrifennydd (1992-2009) i'r Symposiwm Ewropeaidd ar Gemeg Bio-organig a gynhelid yn flynyddol yng Ngregynog. Bu'n weithgar hefyd yn hybu diddordeb mewn cemeg ymhlith y cyhoedd yn ehangach, gan gyfrannu'n frwd i weithgareddau'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol megis y 'Chemical Olympiad'.

Yn ogystal â'i gyfraniad proffesiynol mewn cemeg bu John yn hael iawn ei wasanaeth i hybu'r defnydd o'r Gymraeg mewn gwyddoniaeth, fel aelod o Banel Canolog Gwyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol a thrwy weithgareddau gyda'r Urdd ac mewn ysgolion. Cyfrannodd yn gyson i sawl cylchgrawn gwyddonol Cymraeg, megis Y Gwyddonydd, Atom, Delta a Gwerddon. Arloesodd hefyd gyda dysgu cyfrwng Cymraeg mewn cyrsiau cemeg ym Mhrifysgol Abertawe. Am hyn a llawer mwy dyfarnwyd iddo Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg yn 2012.

Roedd John yn ddyn cymdeithasgar iawn, a chyfrannodd lawer i'w gymuned leol yn Abertawe. Ef oedd Ysgrifennydd Eglwys Annibynnol Bethel, Sgeti, am dros 30 mlynedd, ac ymgyrchodd gyda rhieni eraill i sefydlu Ysgol Gyfun Gŵyr yn 1984. Bu'n aelod o Gorff Llywodraethol yr ysgol am flynyddoedd maith, ac ef oedd y cadeirydd adeg ei farwolaeth sydyn.

Bu farw John Davies ar 22 Ionawr 2016, a chynhaliwyd ei angladd yn amlosgfa Abertawe ar 4 Chwefror gyda gwasanaeth coffa yng nghapel Bethel, Sgeti yr un diwrnod. Claddwyd ei lwch ym mynwent Eglwys Penllergaer.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2020-07-29

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.