Ganwyd David Vaughan Davies ar 28 Hydref 1911 yn Dolfonddu, Cemais, Sir Drefaldwyn, mab ieuengaf Joshua Davies (1873-1964), ffermwr, a'i wraig Mary (g. Ryder, 1876-1950). Aeth i Ysgol Sir Tywyn yn 1924, ac yn 1931 aeth ymlaen i Goleg y Brifysgol, Llundain fel 'exhibitioner' ac yna i Ysgol Feddygol Ysbyty Coleg y Brifysgol wedi iddo ennill Ysgoloriaeth Ferriere. Yn ystod y cyfnod hwn daeth yn ddisgybl i'r Athro Anatomeg Glinigol, Cymro arall, Henry Albert Harris (1886-1968) a fu'n ddylanwad mawr ar ei fywyd.
Graddiodd MB, BS ac MRCS, LRCP yn 1935 a threuliodd flwyddyn fel swyddog meddygol dros dro yn yr RAF, gan ddod yn arddangosydd wedyn yn Adran Anatomeg Prifysgol Caer-grawnt (1936) lle roedd Harris wedi ei benodi'n athro, ac fe'i penodwyd yn ddarlithydd yno yn 1939. Dan gyfarwyddyd Harris dechreuodd ar gyfres o astudiaethau o'r system ysgerbydol, yn enwedig y cymalau, gwaith a barhaodd ar hyd ei fywyd. Roedd hefyd yn ymchwilydd gweithgar mewn anatomeg gymharol, embryoleg ac anatomeg y system atgenhedlu. Roedd yn adnabyddus fel addysgwr eglur ond arholwr llafar i'w ofni, yn garedig a chymwynasgar wrth fyfyrwyr oedd yn ei chael yn anodd, ac yn gadarn a llym wrth ffyliaid a segurwyr.
Pan symudodd Harris o Lundain i Gaer-grawnt aeth â'i ysgrifenyddes, Ruby Ernest (1911-2000), gydag ef, ac ymbriododd hi a Davies yn 1940. Ganwyd iddynt dri o blant, Michael David Vaughan Davies (g. 1944), Elizabeth Louise Vaughan Davies (g. 1948) a Christopher Henry Vaughan Davies (g. 1948).
Yn 1944 etholwyd Davies yn Gymrawd Coleg Sant Ioan, Caer-grawnt, ac yn 1948 fe'i penodwyd i gadair anatomeg yn Ysgol Feddygol Ysbyty St Thomas, swydd a ddaliodd tan ei farwolaeth. Aeth ati i roi trefn ar yr adran ac am y flwyddyn gyntaf rhoddodd yr holl ddarlithoedd ac arddangosiadau ei hunan, yn ogystal â goruchwylio'r stafell ddifynio. Recriwtiodd staff dysgu ardderchog a daeth yr adran yn un o'r goreuon yn Llundain.
Yn 1960 sefydlodd y Cyngor Arthritis a Gwynegon uned electron-ficroscopeg yn Ysbyty St Thomas gyda Davies yn Gyfarwyddwr cyntaf. Ei brif ddiddordeb ar hyd ei yrfa ymchwil oedd anatomeg a ffisioleg cymalau synofaidd, ac yn 1961 ef oedd cyd-awdur Synovial Joints, Their Structure and Mechanics. Ysgrifennodd yn helaeth ar arthroleg hefyd a chyfrannodd i The Textbook of Rheumatic Diseases. Mae ei enw'n adnabyddus trwy'r byd yn sgil ei waith fel golygydd Gray's Anatomy, yn gyd-olygydd gyda T. B. Johnston a F. Davies ar 32ain golygiad y canmlwyddiant yn 1958 a'r 33ain golygiad gyda F. Davies yn 1962. Ef oedd unig olygydd y 34ain golygiad a argraffwyd rhwng 1967 a 1972. O 1958 i 1966 bu'n Is-ddeon yr ysgol feddygol, ac o 1960 i 1964 ymgymerodd â golygyddiaeth y Journal of Anatomy gyda chymorth sgiliau ysgrifenyddol a chyfieithu ei wraig.
Roedd ei allu gweinyddol yn amlwg yn ei waith gyda nifer o fyrddau a phwyllgorau, gan gynnwys Bwrdd Llywodraethwyr Ysbyty St Thomas, Cyngor Academaidd Prifysgol Llundain, Cyngor y Gymdeithas Heberden a Phwyllgorau Ymchwil a Hwsmonaeth Anifeiliaid Cymdeithas Söolegol Llundain. Am sawl blwyddyn bu'n aelod o Gyngor Cymdeithas Anatomegol Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, a'i llywydd yn 1966 a 1967.
Ac yntau'n Gymro Cymraeg, rhoddodd gefnogaeth weithredol i Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a Chymdeithas Cymry Llundain a bu'n llywydd Cymdeithas Sir Drefaldwyn yn 1964. Yn 1961 ef oedd Uchel Siryf Sir Drefaldwyn.
Teithiodd yn helaeth fel arholwr Coleg Brenhinol y Llawfeddygon i Swdan, Nigeria, Ghana, India, Pacistan, Sri Lanka, Awstralia ac India'r Gorllewin yn ogystal ag o fewn y DU. Dyfarnwyd DSc (Llundain) iddo yn 1961 a daeth yn Gymrawd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon trwy etholiad yn 1963. Yn 1966 treuliodd chwe mis yn athro gwadd ym Mhrifysgol Auckland.
Bu David Vaughan Davies farw ar 16 Gorffennaf 1969 yn yr Ysbyty Clefydau Nerfol ym Maida Vale o waedlif lledarachnoidaidd, a chynhaliwyd ei angladd yn Eglwys y Santes Fair, Twickenham lle roedd wedi byw ers un mlynedd ar hugain. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yng nghapel Methodistaidd Cemais lle mae ei rieni wedi eu claddu.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-08-19
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.