DILLWYN, ELIZABETH AMY (1845 - 1935), nofelydd, diwydiannydd ac ymgyrchydd ffeminyddol

Enw: Elizabeth Amy Dillwyn
Dyddiad geni: 1845
Dyddiad marw: 1935
Rhiant: Elizabeth Dillwyn (née de la Beche)
Rhiant: Lewis Llewelyn Dillwyn
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: nofelydd, diwydiannydd ac ymgyrchydd ffeminyddol
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Diwydiant a Busnes
Awdur: Kirsti Bohata

Ganwyd Amy Dillwyn ar 16 Mai 1845 mewn teulu cefnog a nodedig yn Abertawe, yn ferch i Lewis Llewelyn Dillwyn a'i wraig Elizabeth (Bessie) Dillwyn (née De La Beche). Roedd ei thad yn wyddonydd ac yn ddiwydiannydd; bu'n AS Rhyddfrydol dros Abertawe am gyfnod hir ac ymgyrchodd dros Ddatgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru. Dywedir bod ei mam wedi cyfrannu i ddyluniadau Crochenwaith Cambrian a oedd yn eiddo i'w gŵr. Ewythr i Amy Dillwyn oedd John Dillwyn-Llewelyn o Benllergare [sic] a fu'n arloeswr ffotograffiaeth gynnar ynghyd â'i wraig Emma Thomasina Talbot, ei chwaer Mary Dillwyn a'i ferch, cyfnither Amy, Theresa Story Maskelyne. Ei dau daid oedd y naturiaethwr Lewis Weston Dillwyn a'r daearegwr Henry De La Beche. Crynwyr oedd y teulu Dillwyn yn wreiddiol, a'i hen-daid oedd William Dillwyn, yr ymgyrchydd gwrth-gaethwasiaeth o Pennsylvania, UDA.

Amy Dillwyn oedd y trydydd o bedwar o blant. Bu ei chwaer hŷn Mary (Minnie) Nichol o Ferthyr Mawr yn entomolegydd, yn deithwraig, yn ddringwraig ac yn fam i bump o blant. Roedd Amy yn arbennig o agos at ei hunig frawd Henry (Harry), a oedd flwyddyn yn hŷn na hi; roedd hwnnw'n fargyfreithiwr anhapus, yn aelod cychwynnol o'r Century Club a hyrwyddai wleidyddiaeth Ryddfrydol flaengar, a bu farw'n ifanc yn sgil alcoholiaeth. Cafodd ei chwaer iau Sarah (Essie) ysgariad wedi iddi adael ei gŵr alcoholig a'i phum plentyn. Daeth yn actores ac ailbriododd, ond bu farw mewn amgylchiadau tlawd, gan adael un ferch o'r ail briodas a fu'n brif gymyndderbynnydd ewyllys Amy Dillwyn.

Yn ei hieuenctid, roedd bywyd Dillwyn yn ôl pob golwg ar ddilyn patrwm debutantes cyfoethog. Cafodd ei chyflwyno i gymdeithas mewn Derbyniad Brenhinol yn 1863 lle cynrychiolid y Frenhines Victoria alarus gan ei merch, Tywysoges Goronog Prwsia. Er iddi ddyweddïo am gyfnod byr, ni fu fyth yn briod. Bu farw ei dyweddi, Llewelyn Thomas o Lwyn Madoc, yn Chwefror 1864 ychydig cyn iddynt briodi, gan ei rhyddhau o briodas ddigariad (o'i rhan hi o leiaf). Gwrthododd yn ffyrnig sawl cais arall i'w phriodi gan glerigwr o Abertawe. Cariad ei harddegau a'i chyfeilles gyson drwy gydol ei hugeiniau oedd Olive Talbot (1842-1894) o Fargam a Penrice, y daeth Dillwyn i'w hystyried fel ei gwraig.

Ar ôl marwolaeth ei mam yn 1866, ymgymerodd Dillwyn yn anfoddog â dyletswyddau cynnal y cartref gan weithredu fel cymdeithes i'w thad yn llawer o'i alwadau cymdeithasol yn Abertawe a Llundain. Buont yn westeion yn nerbyniadau Tywysog Cymru ym Mhalas Buckingham sawl tro, gan fynychu dawnsfeydd diplomatig moethus fel yr un ar gyfer Swltan Twrci yn 1867 yn Swyddfa India a digwyddiadau cyson yn y Swyddfa Dramor (a ddarluniwyd yn ddychanol yn un o'i nofelau). A hithau'n chwilio am bwrpas i'w bywyd, bu Dillwyn ar un adeg yn ystyried ymuno â Chwaeroliaeth Anglicanaidd cysylltiedig â'i heglwys hoff, All Saints, Margaret Street yn Llundain. Pan oedd gartref yng Nghymru, dysgai mewn ysgol Sul yng Nghilâ a gwirfoddolai yn ysgol ddyddiol y pentref. Wrth chwilio am ffyrdd o godi arian i'r ysgol ac elusennau eraill dechreuodd ysgrifennu alegorïau, a chyhoeddwyd rhai ohonynt gan y Gymdeithas Wybodaeth Gristnogol (yn ddiweddarach yr SPCK). Fe'i rhwystrwyd gan ei thad rhag dysgu dosbarthiadau nos, ond serch hynny cyfrannodd at sefydlu Ystafell Ddarllen ar gyfer gweithwyr yng Nghilâ a chymerodd ran yno mewn cyngherddau gyda chantorion lleol. Yn wir, cerddoriaeth oedd ei chariad cyntaf. Roedd ganddi lais contralto gwych a hyfforddwyd gan yr enwog Syr John Goss (1800-1880), er mai anghymeradwyo ei harbrofion fel cyfansoddwraig a wnaeth ei thiwtor gan amlaf.

Cyfyngwyd ar ei symudiadau gan afiechyd mynych, gynecolegol yn ôl pob tebyg, ac efallai seicosomatig, a bu'n gaeth i'r cartref teuluol yn Hendrefoilan [sic] am y rhan fwyaf o'i thridegau a'i phedwardegau. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n rheolwraig ar fferm y plas a chyhoeddodd saith nofel a llond dwrn o straeon byrion a cherddi. Adolygai yn gyson ar gyfer The Spectator o 1880 hyd ddiwedd 1896, a chyfrannai i'r cyfnodolyn byrhoedlog The Red Dragon: The National Magazine of Wales (1882-1887).

Fel nofelydd, gwerthfawrogai ei chyfoedion ei darlun ansentimental o'r dosbarth gweithiol, ei lleisiau person-cyntaf ffres a chredadwy a'i hiwmor sych. Tynnodd ei nofel gyntaf, The Rebecca Rioter: A Story of Killay Life (1880) ar Derfysgoedd Beca 1843. Bu ei thad a'i hewythr yn ymwneud yn bersonol fel ynadon â'r gwaith o ddal rhai o'r terfysgwyr ym Mhontarddulais, ond adroddir stori Dillwyn o bersbectif un o'r terfysgwyr. Oherwydd persbectif radicalaidd y nofel fe'i cyfieithiwyd yn syth i Rwsieg. Mae ei hail nofel, Chloe Arguelle (1881), yn ddychan ar y dosbarth llywodraethol sydd eto'n cynnwys gwrthdaro dosbarth treisgar a therfysgoedd trefnedig, a chyhoeddwyd honno hefyd yn Rwsia fel 'Y Celwydd'. Ochr yn ochr â'i diddordeb mewn cyfiawnder cymdeithasol y mae ffocws ffeminyddol cyson yn ei gwaith sy'n ymwrthod â normau rhyweddol benywaidd dosbarth uchel ac yn rhoi lle amlwg i ferched cryf, dyfeisgar ac annibynnol. Er bod rhai o'i harwresau'n priodi, mae nofelau Dillwyn yn canolbwyntio'n aml ar natur ddyrchafol cariad nas dychwelir, a hynny'n fynych rhwng menywod. Yn A Burglary, or Unconscious Influence (1883) mae Imogen fachgennaidd mewn cariad â'i chyfnither, etifeddes gyfoethog ychydig hŷn na hi, ac yn y cyfamser mae Sylvester - lleidr o fonheddwr - yn cael ei achub yn raddol trwy ei gariad cyfrinachol tuag at Imogen. Ei nofel fwyaf llwyddiannus yn fasnachol oedd ei phedwerydd, Jill (1884). Yn hon mae menyw ifanc yn ymwisgo fel morwyn ac yn rhedeg i ffwrdd i Lundain lle mae'n syrthio mewn cariad â'i meistres. Nofel bicarésg yw hon sy'n cynnwys dadl angerddol dros amlosgi, nad oedd eto'n gyfreithlon ym Mhrydain, ac sy'n gorffen gyda Jill yn etifeddu ystad ei thad ymddieithredig heb unrhyw sôn am ŵr priod. Efallai oherwydd llwyddiant Jill, lluniodd Dillwyn ddilyniant, Jill and Jack (1887) lle mae'r hen ferch wrywaidd Jill yn dod yn gymar i'r dandi Jack. Gan gystadlu â'i gilydd ar y dechrau mewn gwasanaeth sifalrïaidd i riain mewn cyfyngder, llithra'r pâr gelyniaethus i mewn i bartneriaeth sy'n gorffen gyda phriodas. Ymddangosodd nofel gyfres, Nant Olchfa, yn The Red Dragon (1886-1887) a chyhoeddwyd nofel wedi anelu at gynulleidfa iau, Maggie Steele's Diary, yn 1892.

Pan fu farw ei thad yn 1892, trowyd Amy Dillwyn allan o Hendrefoilan (a entaeliwyd i'r llinach wrywaidd) a symudodd hi i lety rhad yn West Cross. Fel etifeddes gweddill ystad ei thad, derbyniodd Dillwyn waith sinc ar lan afon Tawe; aeth ati i achub y gwaith rhag dyledion gan ei werthu yn y pen draw am swm sylweddol i gwmni meteleg Almaenig ym mis Hydref 1905. Cyflogodd reolwr i redeg y gwaith o ddydd i ddydd, ond gweithiodd yn ei swyddfeydd bob dydd yn delio â gohebiaeth yn Ffrangeg ac Almaeneg ac yn goruchwylio'r cyllid. A hithau bron yn drigain oed, arweiniodd daith i Algeria yn Chwefror 1905 i chwilio am ffynhonnell calamein (mwyn sinc) o ansawdd uchel. Gan archwilio clodfeydd a theithio i mewn i fynyddoedd Atlas trwy'r eira ar gefn asyn, dysgodd ei nai a'i hetifedd, Rice Nichol, yng nghymhlethdodau trwyddedau allforio a chrefft bargeinio.

Yn ystod ei chyfnod fel menyw fusnes ac am yr ugain mlynedd nesaf, gwasanaethodd mewn sawl swyddogaeth dinesig yn Abertawe, gan gynnwys aelodaeth o bwyllgor trefnu'r Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn Abertawe yn 1906, ac fel cadeirydd Bwrdd yr Ysbyty (gan godi arian ar gyfer adain ymadfer). Safodd mewn etholiad i'r Cyngor yn 1906 ac i Fwrdd Harbwr Abertawe (methodd yn y ddau, ac yn ôl y wasg leol ei rhywedd oedd ei rhwystr pennaf). Roedd yn gefnogwr hael i fudiad milwriaethus Urdd Rhyddid Merched o'i ddyddiau cynnar yn 1907, ac yn ddiweddarach bu'n llywydd ar gangen Abertawe o'r NUWSS cyfansoddiadol. Ymgyrchodd dros wniadwragedd a fu ar streic yn 1911, gan rannu llwyfan â'r undebwraig a darpar AS a gweinidog Llafur Margaret Bondfield (1873-1953) a Mary MacArthur (1880-1921) a oedd hefyd yn undebwraig ac etholfreintwraig. Daliodd Dillwyn i fod yn weithgar mewn gwleidyddiaeth Ryddfrydol dros ei phedwar ugain oed.

Fel diwydiannydd benywaidd prin, roedd 'Miss Dillwyn' yn wrthrych llawer o sylw cyhoeddus ar droad y ganrif. Roedd yn adnabyddus am ei gwisg anghonfensiynol, a oedd yn ymarferol, yn wydn ac yn 'wrywaidd', yn ogystal ag am ei medrau gweinyddol aruthrol a'i natur ddarbodus. Roedd sôn amdani yn y wasg yn aml, gan gynnwys gwawdlun yng nghartŵn poblogaidd Ally Sloper yn 1904, ac o 1902 ymlaen cafwyd llu o erthyglau amdani ar draws y byd. Gan nodi ei llwyddiant mewn busnes, rhyfeddodd newyddiadurwyr at ei harfer o smygu 'sigâr dyn'. Pan fu Amy Dillwyn farw ar 13 Rhagfyr 1935, cyhoeddwyd ysgrifau teyrnged o Gymru i Awstralia, a rhoddwyd lle amlwg yn y rheini i'w het Trilby a'i sigâr - arwydd o unigolyn a wrthododd gydymffurfio ac a lwyddodd mewn byd dan reolaeth dynion. Amlosgwyd ei chorff a chladdwyd ei llwch ym mynwent Eglwys St Paul, Sgeti.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2019-10-02

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.