ELDRIDGE, MILDRED ELSIE (ELSI) (1909 - 1991), artist

Enw: Mildred Elsie Eldridge
Dyddiad geni: 1909
Dyddiad marw: 1991
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: artist
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Tony Brown

Ganwyd Mildred Eldridge ar 1 Awst 1909 yn 35 Dunmore Road, Wimbledon, Llundain, yn ferch i Frederick Charles Eldridge (1874-1960), gemydd, a'i wraig Mildred Mary (ganwyd Chevalier, 1871-1961). Roedd ganddi un brawd, Frederick (1906-1980), a gafodd yrfa mewn yswiriant. Yn 1925 symudodd y teulu i 3 Bridge Street, Leatherhead, lle buont yn byw uwchben siop gemwaith ei thad.

Câi ei hadnabod fel 'Elsie' gan ei theulu, ac wedi iddi symud i Gymru a phriodi arferai'r ffurf Gymraeg 'Elsi'; yn ei gwaith proffesiynol defnyddiai'r ffurfiau 'Mildred E. Eldridge' (fel darlunydd llyfrau, yn bennaf ar gyfer Faber) ac 'M. E. Eldridge' (ar ei lluniau).

Cafodd Eldridge ei haddysg (1916-28) yn Wimbledon Hill School (Wimbledon High School yn ddiweddarach). Wedi iddi ennill gwobrau cenedlaethol gan y Royal Drawing Society yn 1927 a 1928, aeth i Ysgol Gelf Wimbledon ac yn 1930 enillodd Efrydiaeth Rad i'r Coleg Celf Brenhinol; yn y fan honno astudiodd yn yr Ysgol Baentio lle roedd Eric Ravilious, Edward Bawden a Gilbert Spencer ymhlith ei thiwtoriaid. Dyfarnwyd A.R.C.A. iddi yn 1933. Bu Ysgoloriaeth Deithio gan y Coleg Brenhinol yn fodd iddi deithio yn yr Eidal (Mawrth-Gorffennaf 1934), gan arlunio a phaentio yn Rhufain, Naples, Capri, Assisi, Ravenna, Fenis ac, yn enwedig, yn Poggio Gherardo, fila ger Fflorens, lle bu'n aros gyda'r artist Aubrey Waterfield a'i wraig, aelodau blaenllaw o gymuned Seisnig y ddinas, gan ymweld â'r connoisseur a chasglwr celf Bernard Berenson yn I Tatti gerllaw.

Ar ôl iddi ddychwelyd i Loegr cydweithiodd â dwy gyd-fyfyrwraig o'r Coleg Brenhinol (Evelyn Dunbar a Violet Martin), dan gyfarwyddyd ei chyn-diwtor Cyril Mahoney, ar gyfres o furluniau yn Ysgol Sir Brockley (erbyn hyn Ysgol Prendergast), sy'n dal i fodoli; mae cyfraniad Eldridge, The Birdcatcher and the Skylark, yn fynegiant cynnar o'i phryder am y modd y mae'r ddynoliaeth yn erlid byd yr anifeiliaid. O 1934 bu Eldridge hefyd yn arddangos ei gwaith yn yr Academi Frenhinol a daliodd i wneud hynny i mewn i'r 1950au. Ymwelodd â Chymru yn y 1930au, gan baentio ac arlunio yn Sir Drefaldwyn, ac yn 1939 fe'i comisiynwyd i ddylunio'r gwydr lliw yn ffenestr ddwyreiniol Eglwys Llanpumsaint yn Sir Gaerfyrddin. Yn 1937 cynhaliodd sioe ar ei liwt ei hun yn oriel y Beaux Arts yn Bond Street, Llundain, a fu'n ddigon llwyddiannus i'w galluogi i brynu car Bentley codi to mawr.

Serch hynny, am resymau aneglur, roedd wedi ymadael â Llundain a symud i Groesosowallt, lle bu'n dysgu yn Ysgol Uwchradd y Merched, ac yna i'r Waun, lle bu'n dysgu yn Ysgol Moreton Hall. Yno yn 1937 y bu iddi gwrdd â'r curad lleol, y Parch. R. S. Thomas, a phriodasant yn y Bala yn 1940. Roedd hi wedi cael llawer mwy o brofiad o'r byd na'i gŵr newydd - bu iddi deithio yn Ffrainc yn ogystal â'r Eidal - ac roedd wedi darllen mwy o lenyddiaeth Saesneg. Cafodd effaith amlwg ar ei farddoniaeth - tan yr adeg honno cerddi natur Sioraidd di-nod ac ail-law, ac anghyhoeddedig. Hi a'i hysgogodd ef i ddarllen W. B. Yeats, a bu'r ymateb sylwgar i'r byd naturiol yn ei gwaith ei hun yn sgil ei hyfforddiant artistig yn ddylanwad amlwg ar fanwl-gywirdeb y darlun o gefn gwlad Cymru yng ngherddi ei gasgliad cyntaf, The Stones of the Field, 1942 (y darluniwyd ei siaced lwch gan Eldridge).

Ar ôl dwy flynedd (1940-42) yn Tallarn Green (Sir y Fflint yr adeg honno) lle roedd R. S. Thomas yn gurad â chyfrifoldeb dros Eglwys y Santes Fair Fadlen, symudodd y ddau i Fanafon yn Sir Drefaldwyn lle daeth Thomas yn rheithor Eglwys St Michael. Yno y ganwyd eu hunig blentyn, Gwydion Andreas (1945-2016). Cyfrannodd Eldridge at incwm y teulu trwy ddysgu dosbarthiadau celf ar ran Adran Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a thrwy ddarlunio nifer o lyfrau ar gyfer Faber, gan gynnwys cyfres o lyfrau i blant gan Dorothy Richardson (1945-48), llysieulyfrau gan C. F. Leyel (1946-52) a delweddau goruwchnaturiol trawiadol ar gyfer argraffiad o The Star Born (1948) gan Henry Williamson. Yn ystod y rhyfel cyfrannodd Eldridge i'r prosiect 'Recording Britain' a gychwynnwyd gan Syr Kenneth Clark. Comisiynwyd artistiaid i greu 'cofnodion cydymdeimadol' o adeiladau, tirweddau a ffyrdd o fyw bregus. Mae ugain o luniau Eldridge ar gyfer y prosiect hwn - adeiladau a gweithgareddau gwledig yng nghanolbarth a gogledd Cymru - ar gadw yn archif Recording Britain yn amgueddfa'r Victoria and Albert.

Yn 1951 comisiynwyd Eldridge i baentio'r hyn a ddaeth yn ganolbwynt ei gyrfa artistig, murlun ar gyfer ffreutur y nyrsiau yn Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt yng Ngobowen: gwaith hynod a baentiwyd nid yn uniongyrchol ar y muriau ond ar gyfres o chwe phanel, pum troedfedd o uchder a chyfanswm o ryw 120 troedfedd ar led. Yn dwyn y teitl The Dance of Life, mae'r gwaith yn tynnu ar themâu a delweddau y bu Eldridge yn eu darlunio ers y tridegau gan bortreadu'r ddynoliaeth wedi colli cytgord â'r byd naturiol, dieithriad bodau dynol mewn byd o gyfryngau torfol, dinasoedd a rhyfela. Yn sail i'r cwbl, fel yn llawer o'i gwaith diweddarach, y mae pryder am y modd yr oedd y ddynoliaeth yn ecsbloetio'r amgylchfyd naturiol, gan achub y blaen o rai degawdau ar gonsyrn poblogaidd dros y fath faterion. Yn y murlun mae'r byd naturiol, gan gynnwys adar ac anifeiliaid, yn ogystal â phlant sy'n aros mewn cytgord â'r byd gwledig, yn cael ei ddarlunio gyda manylder hynod, yn enwedig o ystyried graddfa enfawr y gwaith. Ar ôl bod mewn storfa am rai blynyddoedd, mae'r gwaith, sydd ymhlith y murluniau pwysicaf a wnaed ers y rhyfel, bellach i'w weld yn Oriel Sycharth ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam.

Yn ystod y cyfnod y bu Eldridge yn gweithio ar y murlun (1951-6), daeth ei gŵr yn ficer eglwys St. Michael, Eglwys fach, Ceredigion. Gadawodd Eldridge y ficerdy a'i ardd ym Manafon gyda chryn ofid, gan fynd â chynfas rholedig y panel yr oedd yn gweithio arno: cwblhawyd paneli pump a chwech yn Eglwys fach. Yno daeth yn gyfeillgar â'r casglwyr celf Louis a Mary Behrend, a gomisiynodd Stanley Spencer ar ddiwedd y 1920au i baentio'r murluniau yng Nghapel Coffa Sandham, Hampshire; roeddent wedi ymgartefu yn Llanwrin ar ôl y rhyfel a thrwyddynt hwy y daeth Eldridge i adnabod Spencer a anfonodd ati lythyr llawn edmygedd pan welodd y murlun yng Ngobowen yn 1958.

Yn ystod y blynyddoedd yn Eglwys fach (1954-1967), yn ogystal â pharhau gyda'r dosbarthiadau allanol ymroddodd Eldridge i'r lluniau dyfrlliw manwl o adar, planhigion a phryfed y bu'n bennaf adnabyddus amdanynt yn ei blynyddoedd olaf. Gwerthodd ddwsinau lawer o'r ymarferiadau manwl a chelfydd hyn trwy'r Gymdeithas Ddyfrlliwiau Frenhinol a thrwy'r arwerthwyr Spink yn Llundain, ac ychwanegodd at incwm y teulu ymhellach trwy werthu llawer o'r lluniau hyn i Medici i'w hatgynhyrchu ar gardiau cyfarch.

Yn 1967 symudodd Eldridge a Thomas i Aberdaron ym Mhen-llŷn, pan ddaeth Thomas yn ficer Eglwys Hywyn Sant; wedi iddo ymddeol yn 1978, symudasant i hen fwthyn cerrig yn Sarn y Plas, Rhiw, a lesiwyd iddynt gan y chwiorydd Keating o Blas yn Rhiw. Daliodd hi ati i beintio yno, gan lwyddo i werthu yn Llundain trwy Abbott and Holder yn ogsytal â'r Gymdeithas Ddyfrlliwiau, er iddi gwyno weithiau fod y lluniau o adar a phlanhigion yn gwerthu o hyd, ac nad oedd y lluniau mwy haniaethol, a oedd yn fwy diddorol iddi hi, yn null yr hunan-bortread trawiadol a wnaeth yn 1970, ddim yn gwerthu.

Ar ôl symud i Sarn ymneilltuodd hi fwyfwy o'r gymdeithas a chafodd sawl pwl o afiechyd, gan gynnwys problemau gyda chataractau yn ei degawd olaf. Serch hynny, yn ogsytal â pheintio ac arlunio, parhaodd i fod yn arddwraig brysur a gwybodus iawn am blanhigion. Yn ei llythyrau a'i dyddiaduron yn ystod y 1980au sgrifennodd yn ddeifiol am y llwythi o dwristiaid a fu'n heidio i Ben-llŷn bob haf, ac yn fwy cyffredinol am agwedd anystyriol yr oes fodern tuag at fyd natur. Bu farw ar 10 Mawrth 1991 ac fe'i claddwyd ym mynwent eglwys Llanfaelrhys ger Aberdaron.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2018-11-09

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.