Ganwyd Edgar Evans ar 7 Mawrth 1876 yn Fernhill Top Cottage, Middleton ger Rhosili ar Benrhyn Gŵyr, yr hynaf o bedwar o blant Charles Evans, morwr, a'i wraig Sarah (g. Beynon). Symudodd y teulu i Abertawe, lle aeth Edgar i Ysgol y Bechgyn Sain Helen nes oedd yn 13 oed. Gweithiodd wedyn am gyfnod byr yng ngwesty'r Castle ac yn swyddfa'r post Abertawe, ond roedd yn chwennych antur ac yn 1891, yn 15 oed, rhedodd i ffwrdd i ymuno â'r Llynges Frenhinol.
Gwasanaethodd ar nifer o longau, gan gynnwys yn 1897 yr HMS Majestic, lle bu iddo gwrdd â Robert Falcon Scott (1868-1912) a oedd yn swyddog torpedos. Daeth y ddau'n gyfeillion, a phan ddechreuodd Scott arwain cyrchoedd i'r Antarctig, gwahoddodd Evans i ymuno ag ef. Bu Evans yn aelod o gyrch cyntaf Scott, 'Discovery' (enw'r llong a'u cludodd i'r de) rhwng 1901 a 1904. Yn ystod y cyrch hwnnw gwnaeth saith taith fforiol o'r gwersyll cychwyn - dim ond Scott ei hun wnaeth fwy o deithiau. Un o'r rheini oedd taith gar llusg hir gan dîm o dri dan arweinyddiaeth Scott i fewndir Antarctica i archwilio Victoria Land.
Ar ôl yr antur hon dychwelodd i Brydain, ac yn 1904 priododd Lois Beynon o Rosili, nith i'w fam. Aethant i fyw yn Portsmouth, lle cwblhaodd Evans raglen hyfforddiant i fod yn hyfforddwr gynyddiaeth. Ganwyd iddynt dri o blant, Muriel, Ralph a Norman. Ond ni allai Evans fodloni ar fywyd tawel; yn is-swyddog (dosbarth cyntaf) yn y llynges, roedd yn dal i ddyheu am antur. Gwahoddwyd ef i ymuno â chyrch trychinebus Scott, 'Terra Nova' yn 1910, a chafodd ganiatâd gan y llynges i fynd. Cychwynnodd y cyrch o ddociau Caerdydd ym Mehefin 1910, ac roedd llawer o'r gefnogaeth ariannol angenrheidiol wedi ei chodi oddi wrth wŷr busnes y ddinas honno. Ar ôl arhosiad yn Seland Newydd, bwriodd y llong ymlaen am yr Antarctig yn Nhachwedd 1910. Yn gynnar yn 1911, sefydlwyd gwersyll cychwyn ar lannau Antarctica. Tua diwedd y flwyddyn yn yr haf deheuol byr cychwynnodd tîm o bump, wedi ei arwain gan Scott, mewn ymgais i fod y cyntaf i gyrraedd Pegwn y De. Dewiswyd Edgar Evans yn aelod o'r tîm oherwydd ei gryfder a'i fedrau. Ef oedd yn gyfrifol am sicrhau effeithiolrwydd y ceir llusg, y pebyll, y sachau cysgu a'r harneisi.
Cymerodd y tîm un wythnos ar ddeg i gerdded i'r Pegwn, gan dynnu ceir llusg wedi eu llwytho â phebyll a bwydydd. Cyrhaeddasant eu nod ar 17 Ionawr 1912, gan ddarganfod bod tîm Norwyaidd wedi ei arwain gan Roald Amundsen wedi achub y blaen arnynt o bum wythnos. Cychwynasant ar eu ffordd yn ôl i'r lan, ond roedd y daith yn ôl o Begwn y De yn anodd iawn, gydag amodau tywydd echrydus. Cafodd Edgar Evans nifer o ddamweiniau, gan gynnwys cwymp ar Rewlif Beardmore a achosodd anaf i'w ben. Dirywiodd ei gyflwr corfforol a meddyliol wrth i'r amgylchiadau fynd yn waeth byth ac wrth i'r cyflenwad bwyd ddod i ben. Ni allai fynd gyda'r lleill i ymofyn cyflenwadau a adawyd mewn man casglu. Pan ddaethant yn ôl roedd yn ddifrifol wael, ac er cael ei gludo i gysgod pabell, bu farw wrth droed Rhewlif Beardmore ar 17 Chwefror 1912. Bwriodd aelodau eraill y cyrch ymlaen, ond bu farw pob un o oerfel a newyn. Ni chafwyd fyth hyd i gorff Edgar Evans. Dyfarnwyd £1,500 i'w wraig a'i blant gan Bwyllgor yr Arglwydd Faer, a phensiwn blynyddol o £48 gan y Morlys.
Coffeir Edgar Evans gan blac ar Eglwys Rhosili, ac un arall ar oleudy coffa Scott yn llyn Parc y Rhath, Caerdydd. Enwyd Rhewlif Evans yn Victoria Land, Antarctica, ar ei ôl. Ym Medi 2014 dadorchuddiwyd plac i'w goffáu yn Abertawe.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-04-01
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.