EVANS, TIMOTHY EDGAR (1912 - 2007), canwr opera

Enw: Timothy Edgar Evans
Dyddiad geni: 1912
Dyddiad marw: 2007
Priod: Nan Evans (née Walters)
Plentyn: Huw Evans
Rhiant: Margaret Evans
Rhiant: William Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: canwr opera
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Rhidian Griffiths

Ganwyd Edgar Evans ar fferm Cwrt, ger Cwrtnewydd, Ceredigion ar 9 Mehefin 1912, yr ieuengaf o 13 plentyn William Evans (bu farw 1927) a'i wraig Margaret (bu farw 1947). Cafodd addysg elfennol yn ysgol y Cwrt dan law y bardd a'r hanesydd lleol David Rees Davies, 'Cledlyn'. Yn 1921 clywodd lais y tenor Eidalaidd Enrico Caruso ar y radio, a chafodd ei swyno gymaint nes ennyn awydd ynddo i fod yn ganwr. Aeth i Ysgol Uwchradd Llandysul ac yna i ysgol breifat yn y Cei Newydd. Oddi yno aeth i weithio yn swyddfa pensaer y sir yn Llandysul a dechrau canu mewn corau. Yn 1934 aeth i Lundain i fyw gyda'i frawd Dai, a oedd â busnes llaeth yno, ac Edgar yn dal i goleddu gobeithion am fynd yn ganwr. Cafodd ei 'ddarganfod' yn 1935 pan ganodd mewn parti yn Llundain yn dilyn gêm ryngwladol rhwng Cymru a Lloegr, ac fe'i cyfeiriwyd at Dawson Freer, athro canu yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Cafodd wersi canu gyda Freer a chynnal ei hun trwy werthu llaeth.

Yng ngwanwyn 1937 cafodd glyweliad gan gwmni opera Sadler's Wells a chael lle yn y corws, yng nghwmni o leiaf un Cymro arall, y bariton Bruce Dargavel. Ddechrau'r rhyfel fe'i gwrthodwyd gan y lluoedd arfog ar sail ei iechyd, a bu'n gwasanaethu yn heddlu'r Metropolitan tan 1942; yna bu'n canu gyda chwmnïau CEMA ac ENSA, gan deithio i wahanol rannau o Brydain i berfformio, a chanu dros 500 o gyngherddau.

Pan ffurfiwyd Cwmni Opera Covent Garden yn 1946 cafodd gytundeb fel un o dri phrif denor y cwmni, a daeth i amlygrwydd am y tro cyntaf ar 25 Mawrth 1947, pan gymerodd ran Des Grieux mewn perfformiad o'r opera Manon gan Massenet, yn dirprwyo i'r tenor Heddle Nash. O hynny tan ei ymddeoliad yn 1974 canodd ryw 45 o rannau gwahanol, weithiau'n perfformio sawl gwaith yr wythnos, a bu hynny'n gryn dreth ar ei lais. Dywedir iddo ganu yn amlach, a chanu mwy o rannau gwahanol, nag unrhyw artist arall yn Covent Garden. Amrywiai ei rannau o gymeriadau safonol megis Pinkerton yn Madama Butterfly a Calaf yn Turandot i weithiau cyfoes, megis Captain Vere yn Billy Budd gan Britten. Ef oedd un o'r cantorion cyntaf o Brydain i ganu dramor wedi'r Ail Ryfel Byd, ac yn 1950 cafodd gyfnod o astudio yn Rhufain gyda Luigi Ricci. Wedi ymddeol o ganu, bu'n athro am ddeng mlynedd yn y Coleg Cerdd Brenhinol.

Yn ogystal â chanu opera, bu'n canu mewn cyngherddau ac oratorio, gan gynnwys perfformiadau yng Nghymru ac ymhlith Cymry Llundain. Ychydig iawn a recordiodd, ond ceir rhai enghreifftiau o'i ddawn mewn rhannau bychain ar recordiau o opera, gan gynnwys rhan y Maer yn Albert Herring gan Britten.

Priododd ar 19 Awst 1939 â Nan Walters (1910-1998), yn enedigol o Gwmtwrch Isaf yng Nghwm Tawe, a gyfarfu yn Llundain lle'r oedd hi'n gweithio fel gwarchodwraig plant. Cawsant un mab, Huw (1942-1999). Bu Edgar Evans farw yn Ysbyty Northwick Park yng ngogledd-orllewin Llundain ar 22 Chwefror 2007, yn 94 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2020-01-20

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/