EVANS, SAMUEL ISLWYN (1914 - 1999), addysgydd

Enw: Samuel Islwyn Evans
Dyddiad geni: 1914
Dyddiad marw: 1999
Priod: Mary Ellen Evans (née Williams)
Plentyn: Eryl Cydwel Evans
Plentyn: Erfyl Dilwyn Evans
Plentyn: Wyneira Delyth Watts (née Evans)
Rhiant: Samuel Evans
Rhiant: Mary Ann Evans (née Walters)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: addysgydd
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Dafydd Johnston

Ganwyd Islwyn Evans yng Nghydweli ar 29 Rhagfyr 1914, y trydydd o ddeuddeg o blant Samuel Evans (1885-1958), glöwr, a'i wraig Mary Ann (ganwyd Walters, 1886-1942).

Cafodd ei addysg gynradd yn Ysgol y Castell, Cydweli, ac yn 1926 enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Ganolradd y Sir, Llanelli, ond ymadawodd yn ei flwyddyn gyntaf ar ôl i un o'r athrawon ei gywilyddio am ei dlodi. Treuliodd y ddwy flynedd nesaf yn osgoi'r swyddog triwantiaeth nes ei fod yn ddigon hen i ymuno â'i dad a'i frawd hynaf yn y pwll glo ym Mynydd y Garreg. Tra bu yno mynychodd goleg technegol yn Llanelli hefyd. Yn 1935 enillodd ysgoloriaeth les y glowyr er mwyn astudio ym Mhrifysgol Sheffield. Torrodd y rhyfel ar draws ei astudiaethau, ac yn 1940 ymrestrodd yn yr RAF, gan wasanaethu fel Awyr-lefftenant yng Ngwlad yr Iâ a Gogledd Iwerddon.

Cwrddodd â'i wraig, Mary Ellen Williams (1919-1993), nyrs RAF o Dŷ Croes, Rhydaman, yn Llundain. Priodasant yn 1944, a ganwyd iddynt dri o blant, Eryl Cydwel (g. 1946), Erfyl Dilwyn (g. 1950), a Wyneira Delyth (g. 1955).

Dychwelodd Islwyn i Brifysgol Sheffield yn 1946 gan ennill gradd anrhydedd ddosbarth cyntaf mewn gwyddoniaeth gymwysedig a symud ymlaen i wneud doethuriaeth. Tra yn y brifysgol fe'i cyflogwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg Technegol Rotherham. Enillodd PhD yn 1950 gyda thraethawd ar 'Radiation from Non-luminous Gases' a gyhoeddwyd wedyn ym Mwletin y British Coal Utilisation Research Association.

Yn 1952, fe'i penodwyd gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn brif wyddonydd ar gyfer ardal Nottingham. Tair blynedd wedyn fe'i dyrchafwyd i swydd prif wyddonydd adrannol â gofal dros weithgareddau gwyddonol deuddeg o ardaloedd y Bwrdd. Roedd ganddo'n ogystal gyfrifoldeb dros labordy ymchwil mawr gyda nifer o brosiectau pwysig yn ymwneud â'r diwydiant glo. Yn 1959, fe'i gwnaed yn Gymrawd y Sefydliad Ffiseg ac yn Gymrawd y Sefydliad Peirianneg.

Yn 1961, derbyniodd swydd Cyfarwyddwr Sefydliad Technoleg De Awstralia a Deon Cyfadran Technoleg a Gwyddoniaeth Gymwysedig ym Mhrifysgol Adelaide, a symudodd gyda'i deulu i Adelaide, Awstralia.

Cwta flwyddyn cyn hynny, adwaenid Sefydliad Technoleg De Awstralia fel 'the School of Mines'. Coleg technegol ydoedd a weithredai o un campws gan ganolbwyntio ar bynciau galwedigaethol yn arwain at dystysgrifau a diplomâu. Etifeddodd Islwyn Evans sefydliad gyda fframwaith gweinyddol hynafol a heb strwythur academaidd cadarn. Aeth ati i ailwampio'r gweithdrefnau academaidd a sefydlu gweinyddiaeth effeithiol er mwyn sicrhau bod y sefydliad newydd yn gallu ateb anghenion y gymuned, busnes a diwydiant. Cymerwyd drosodd raglenni proffesiynol a ddarperid gan golegau lleol, a chychwynnwyd cyrsiau newydd â gwedd gymwysedig megis fferyllyddiaeth, peirianneg a phensaernïaeth. Er mwyn gwasanaethu busnesau a myfyrwyr mewn cymunedau pellennig, agorwyd campysau eraill mewn canolfannau rhanbarthol yn 1962 a 1971. Yn ogystal, sefydlwyd parc technoleg lle byddai cwmnïau tenant yn ymgysylltu â'r sefydliad er mwyn datblygu cynnyrch masnachol yn deillio o wybodaeth ac ymchwil academaidd. Ar y pryd roedd hyn yn syniad arloesol. Dan ei stiwardiaeth daeth y sefydliad i gymharu'n ffafriol â phrifysgolion o ran ei swyddogaeth academaidd a'i safle yn y gymuned, ac yn 1973 rhoddwyd iddo'r pŵer i ddyfarnu graddau israddedig ac olraddedig.

Tynnwyd sylw Islwyn at yr angen i frodorion Awstralia gael eu gweithwyr cymunedol eu hunain, ac o ganlyniad sefydlwyd cwrs mewn datblygiad cymunedol ar gyfer brodorion yn 1973. Hwn oedd y cwrs cyntaf o'i fath yn Awstralia, ac yn sgil ei lwyddiant cafwyd cyrsiau cyffelyb mewn canolfannau addysg uwch eraill.

Ymddeolodd Islwyn Evans yn 1978, wedi iddo drawsnewid coleg technegol yn sefydliad trydyddol dylanwadol a gynigiai fodel ar gyfer cyrff addysg datblygol. Câi'r sefydliad ei gydnabod yn rhyngwladol am ei lwyddiant yn gwasanaethu ac ymgysylltu â'i gymuned trwy ei ddull addysg unigryw gan gadw at ei genhadaeth fel 'prifysgol y bobl'. Yn 1981 dyfarnwyd yr 'Order of Australia' i Islwyn Evans i gydnabod ei gyfraniad i addysg.

Er bod ganddo ddawn dweud yn Saesneg, roedd yn well gan Islwyn siarad Cymraeg bob amser. Cydnabuwyd ei ymroddiad i'r diwylliant Cymraeg pan dderbyniwyd ef i Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1982. Roedd ei enw barddol Mabgwenllian yn gyfeiriad at fan ei eni lle arweiniodd Gwenllian ferch Gruffudd y Cymry yn erbyn y Normaniaid. Er mai addysg wyddonol a gafodd, roedd yn hoff iawn o lenyddiaeth glasurol a byddai'n aml yn dyfynnu barddoniaeth, yn arbennig Shakespeare. Ymhyfrydai mewn cerddoriaeth leisiol a byddai'n ymgolli yn sŵn corau'r cymoedd. Dilynai rygbi Cymru yn frwd ac roedd wedi chwarae dros Gydweli a Phrifysgol Sheffield.

Dyn byr o gorff ydoedd gydag ysgwyddau llydan, a chyda'i wyneb llym rhoddai'r argraff o gryfder mewnol a chorfforol enfawr. Amlygwyd ei gryfder ar ôl symud i Adelaide pan aeth ati ar ei ben ei hun i gloddio pwll nofio mawr ar gyfer ei deulu. Yn ei bumdegau cafwyd hyd i smotyn du ar ei ysgyfaint a chafodd lawdriniaeth i dynnu hanner yr ysgyfant de. Ond nid ôl twbercwlosis oedd hyn, fel yr ofnid, eithr llwch glo o'i ddyddiau cynnar yn y pwll. Ac roedd olion yr un llwch dros ei ddwylo a'i freichiau - tatŵs naturiol y glo a aeth i mewn i friwiau a gafodd dan ddaear.

Bu farw Islwyn Evans ar 5 Mai 1999 yn Adelaide. Llosgwyd ei gorff, a chladdwyd hanner ei lwch yn Adelaide gan fynd â'r hanner arall yn ôl i'w fro gynefin, i'w osod ym medd ei fam a'i dad yng Nghydweli.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-05-20

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.