Ganwyd Gwyn Francis ar 17 Medi 1930 yn Llanelli, yn fab i Daniel Brynmor Francis a'i wraig Margaret Jane (ganwyd Jones). Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llanelli ac aeth ymlaen i ennill gradd anrhydedd mewn Botaneg Fforestydd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor yn 1952. Ar ôl graddio gwnaeth ddwy flynedd o wasanaeth cenedlaethol gyda'r Peirianwyr Brenhinol.
Yn 1954 priododd Meryl Jeremy o Gaerfyrddin, a ganwyd iddynt dri o blant, Richard, Kay a David. Ar ôl marwolaeth Meryl yn 1985 priododd Audrey Gertrude Gemmel (g. Gill) o Toronto, Canada.
Wedi cwblhau ei wasanaeth cenedlaethol yn 1954, ymunodd â'r Comisiwn Coedwigaeth fel Swyddog Rhanbarthol yng Nghastell-nedd, gyda chyfrifoldeb dros fforestydd ifainc helaeth y Comisiwn yng nghymoedd Afan, Nedd a Dulais yn Sir Forgannwg fel yr oedd. Yn 1960, penodwyd ef yn Brifathro Ysgol Goedwigaeth Gwydr, coleg preswyl y Comisiwn i hyfforddi fforestwyr ger Betws y Coed. Mynnodd safonau uchel, gan foderneiddio'r gwaith cwrs a chodi bri'r ysgol yn fawr. Un o flaenoriaethau hyfforddi y 1960au oedd cyflwyno dulliau gwaith mecanyddol. Sylweddolodd Francis faint y gallai'r diwydiant ei ddysgu oddi wrth arferion cynaeafu Gogledd America, ac yn 1964 cymerodd flwyddyn allan i astudio am radd MSc mewn technoleg gynaeafu ym Mhrifysgol Toronto.
Pan ddychwelodd i'r DU yn 1965 anfonwyd ef i Ardal Ruthin y Comisiwn Coedwigaeth fel Swyddog Rhanbarthol gyda chyfrifoldeb dros reoli fforestydd Gogledd-ddwyrain Cymru gan gynnwys fforest helaeth Clocaenog. Cam anochel wedyn oedd iddo ddechrau ymhel â rheoli a datblygu marchnadoedd pren. Gan gychwyn yn 1969 yng Nghaerdydd lle bu'n gofalu am fforestydd De Cymru, ac wedyn yn 1976 ym mhencadlys y Comisiwn ar gyfer y DU yng Nghaeredin bu'n gyfrifol am gynaeafu a marchnata, yn y pen draw ar draws holl fforestydd y Comisiwn trwy Brydain. Yn 1983 daeth yn Gomisynwr Coedwigaeth, ac yn 1986 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol a Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn Coedwigaeth.
Ychydig flynyddoedd ar ôl i Francis symud i Gaeredin wynebodd y Comisiwn argyfwng difrifol pan gollwyd amryw farchnadoedd ar gyfer pren crwn bach yn sgil dirwasgiad economaidd y cyfnod. Gan adeiladu ar waith entrepreneuraidd gan y Grŵp Fforestiaeth Economaidd, negododd Francis allforio coed mwydion a dyfwyd ym Mhrydain i Sweden. Yn y 1980au, cychwynnodd ar raglen ddatblygu a ddenodd i Brydain gwmnïau fel United Paper Mills o Sweden yn Shotton, Sir y Fflint, Norbord ger Inverness, ac yn ddiweddarach y buddsoddiad at i mewn mwyaf erioed yn yr Alban, Caledonian Paper Mills yn Irvine dan berchnogaeth o'r Ffindir, dros un biliwn o bunnoedd o fuddsoddiad yn gyfan gwbl.
Er mai effeithiolrwydd y sefydliad ac economeg galed oedd ei brif bethau bob amser, roedd Francis hefyd yn effro iawn i ochr feddalach coedwigaeth, a'r buddiannau i bobl a bywyd gwyllt a ddeuai yn ei sgil. Wrth i'r Comisiwn wrando ar ei feirniaid ac ymaddasu i syniadau newydd yn ystod ei gyfnod fel Cyfarwyddwr, cafwyd rhai o'r newidiadau mwyaf sylweddol mewn polisi coedwigaeth ers y rhyfel. Gyda chychwyn y cynllun plannu coed newydd yn 1988, a llawer a ddaeth yn sgil hwnnw, o'r diwedd gosodwyd amcanion cymdeithasol ac amgylcheddol coedwigaeth yn gyfuwch â'r swyddogaeth draddodiadol seiliedig ar bren a fu gan y Comisiwn ers ei sefydlu yn 1919.
Digwyddodd y datblygiadau hyn yng nghyd-destun newidiadau gwleidyddol a fygythiai holl fodolaeth y Comisiwn Coedwigaeth, gan dynnu ei reolwyr i mewn i ymrafael llafurus a lusgodd ymlaen am dros ddegawd. Yn 1981 y cymerodd llywodraeth y DU y camau cyntaf tuag at breifateiddio fforestydd y Comisiwn. Gwelai Francis hyn fel ymarferiad cyfyngu niwed, ac roedd ar ei orau yn feddyliol wrth chwilio am atebion ymarferol i ofynion gweinidogion y llywodraeth. Er gwaetha'r bygythiad i werthu fforestydd, un o'i gampau bychain cyn ymddeol oedd cael y llywodraeth i gytuno yn 1990 i gadw status quo sefydliadol y Comisiwn mewn ymateb i adroddiad gan Bwyllgor Amaeth Tŷ'r Cyffredin yn argymell gwahanu ei ddwy brif ran, Menter y Fforest ac Awdurdod y Fforest. Roedd Francis yn benderfynol na fyddai'r Comisiwn yn cael ei ddatgymalu yn ystod ei gyfnod ef wrth y llyw, er i ddigwyddiadau diweddarach mewn byd cyfnewidiol o wasgu ariannol a datganoli wyrdroi hyn wedyn.
Credai Gwyn Francis yn ddiwyro fod gan y Comisiwn ran allweddol i'w chwarae wrth greu diwydiant coedwigaeth llwyddiannus ym Mhrydain. Roedd y Comisiwn yn ffodus iawn o gael elwa dros gyfnod maith ar ei weledigaeth, ei gadernid bwriad a'i broffesiynoldeb. Dyfarnwyd CB iddo yn 1990 am ei wasanaeth i goedwigaeth.
Roedd Gwyn Francis yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Cymry Caeredin, gan wasanaethu fel Llywydd yn 1993/4. Wedi ymddeol ymroddodd i'w ddiddordeb mewn adar, a daeth yn aelod o gyngor yr RSPB ac yn gadeirydd ei bwyllgor yn yr Alban. Bu farw ar 27 Tachwedd 2015 yng nghartref gofal Murrayfield House yng Nghaeredin.
Dyddiad cyhoeddi: 2020-07-31
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.