Ganwyd Bryn Goldswain ar 3 Awst 1922 ym Merthyr Tudful yn fab i Reginald Stephen Goldswain, glöwr ac yna plismon a fu farw yn ŵr ifanc, a'i briod Catherine (née Jones, 1897-1981). Symudodd y teulu i fyw i Aber-craf, yng Nghwm Tawe, pan oedd Bryn yn bedair oed. Addysgwyd ef yn lleol ac yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera. Chwaraeodd rygbi'r undeb i dîm Aber-craf, cyn mynd i weithio i gwmni o gyfrifyddion yn Llundain. Ond ym 1939, pan dorroddd y rhyfel, gwirfoddolodd i'r Lluoedd Arfog. Yn ogystal â'i ddyletswyddau fel cyfeiriwr awyrennau, daeth cyfle i'w ran i chwarae rhywfaint o rygbi a phêl-droed tra'n gwasanaethu yn yr RAF. Fel aelod disglair o'r Bomber Command bu Wolverhampton Wanderers yn cadw llygad barcud arno am gyfnod, a bu yn Molyneux am dreialon o dan reolwr enwog y clwb, Major Frank Buckley (1882-1964). Ond roedd ei fryd ar chwarae rygbi unwaith eto, ac ar ôl rhoi cyfle i'w law wella yn dilyn anaf, fe'i perswadiwyd gan swyddog yn y Llu Awyr i roi cynnig arall arni. Roedd y swyddog hwn, gŵr o'r enw Ted Bedford, yn gyfaill personol i Sam Adams, rheolwr Hull Kingston Rovers, ac ar argymhelliad Bedford aeth y Cymro ifanc am gyfnod prawf i'r clwb ar ddiwedd y rhyfel.
O fewn ychydig wythnosau arwyddodd Goldswain gytundeb parhaol gyda Hull KR fel chwaraewr proffesiynol. Anghofiodd am y tro am ei fwriad i ddilyn cwrs athro gan fod rygbi'r gynghrair yn talu'n well. Yn ei gêm gyntaf i Hull KR sgoriodd ddau gais, ac yn fuan iawn datblygodd yn un o flaenwyr ail reng medrusaf rygbi'r gynghrair. Yn ystod ei dymor cyntaf enillodd ddau gap dros Gymru, mewn gemau rhyngwladol a chwaraewyd ar faes Sain Helen, Abertawe. Yn 1948, ar ôl chwarae 122 o weithiau i Hull KR roedd tîm enwog Oldham yn edrych i gryfhau eu carfan a thalwyd swm sylweddol i Hull KR er mwyn sicrhau llofnod Goldswain. Fel rhan o'i gytundeb gyda'i glwb newydd daeth cyfle iddo ddilyn cwrs athro yn Lerpwl. Daeth yn ffefryn mawr yn Oldham ac fe'i dyrchafwyd yn gapten y clwb ym Medi 1950. Chwaraeodd 228 o gemau i'r clwb rhwng 1949 a 1956, a bu'n gapten y tîm am wyth mlynedd hynod lwyddiannus. Yn yr un cyfnod ychwanegwyd at nifer ei gapiau rhyngwladol, ac erbyn 1955 roedd wedi chwarae 16 o weithiau dros ei wlad, ac wedi bod yn gapten arni nifer o weithiau. Ar ôl 1955 nid oedd gan Gymru dîm rhyngwladol am flynyddoedd, a gorfodwyd i Goldswain chwarae dros dîm 'Other Nationalities'.
Ymadawodd â thim Oldham yn 1958 ar ei benodiad yn rheolwr Blackpool Borough RLFC. Gorffennodd ei yrfa fel rheolwr ar dîm Rochdale Hornets RLFC, ac yn ddiweddarach Doncaster. O'r flwyddyn 1954 syrthiodd yn ôl ar ei gymwysterau fel athro. Bu'n dysgu yn Swydd Gaerhirfryn yn Hollins Secondary Modern School, Oldham. Ymddeolodd yn 1982 fel prifathro Red Bank Community Home, Newton-le-Willows, ysgol breswyl i droseddwyr ifanc ar gyrion Lerpwl.
Priododd Margaret Magdalen Muriel Vaughan (1921-2000) yn Eglwys Sant Mihangel, Aberystwyth ar 24 Gorffennaf 1942. Yng nghofrestr yr eglwys nodwyd cyfeiriad Goldswain fel 15 Morgans Street, Aber-craf, ac roedd ei briod yn ferch i Roderick Charles Vaughan, postmon, 8 Gogerddan Cottages, Aberystwyth. Ymddengys fod eu hunig blentyn, - Roderick W. (Rod) Goldswain (g. 1954 yn Oldham), a fu'n brifathro Northampton School for Boys - wedi ei enwi ar ôl ei dad-cu. Bu yntau hefyd yn chwarae rygbi'r undeb fel un o olwyr Northampton Saints RFC.
Ymddeolodd Bryn Goldswain a'i briod i 60 Bryncastell, Bow Street, Ceredigion yn Ionawr 1983, ond bu farw yntau ar 24 Ebrill 1983 yn 60 oed ar ôl salwch byr. Yn dilyn gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Mihangel, Aberystwyth ar 27 Ebrill fe'i claddwyd ym mynwent gyhoeddus Aberystwyth, lle mae ei briod a'i fam hefyd wedi eu claddu.
Dyddiad cyhoeddi: 2020-09-22
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.