GRIDLEY, JOHN CRANDON (1904 - 1968), diwydiannwr

Enw: John Crandon Gridley
Dyddiad geni: 1904
Dyddiad marw: 1968
Priod: Joan Marion Gridley (née Merrett)
Plentyn: Richard Crandon Gridley
Plentyn: Christopher John Gridley
Rhiant: Mary Ellen Gridley (née Michell)
Rhiant: William Joseph Gridley
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwydiannwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Richard Gridley

Ganwyd John Gridley ar 28 Mai 1904 yng Nghaerdydd, unig fab William Joseph Gridley a'i wraig Mary Ellen (ganwyd Michell). Cafodd ei addysg yng Nghaerdydd ac yn Queen's College Taunton, Gwlad yr Haf. Chwaraeodd rygbi dros glwb Crwydriaid Morgannwg. Derbyniodd ei hyfforddiant masnachol cynnar mewn swyddfa allforio glo yng Nghaerdydd a ddaeth yn is-gwmni i Powell Duffryn, cwmni cynhyrchu a dosbarthu glo mwyaf Ewrop cyn yr Ail Ryfel Byd, a bu'n gweithio dros y cwmni am rai blynyddoedd yn Ffrainc a Sbaen, gan ddod yn un o gyfarwyddwyr Powell Duffryn a rhai o'i is-gwmnïau yn y 1930au.

Yn 1933 priododd Joan Marion Merrett, merch Herbert Henry Merrett, a ganwyd dau fab iddynt, Richard Crandon a Christopher John. Daeth y briodas i ben gydag ysgariad yn 1950, ac ailbriododd John Gridley yn 1951.

Yn 1943-44 gwasanaethodd y llywodraeth fel Cyd-gadeirydd Prydeinig y Genhadaeth Economaidd Eingl-Americanaidd yng Ngogledd Affrica, ac yn ddiweddarach daeth yn Ymgynghorydd Economaidd i Lysgennad Prydain ym Mharis. Am ei wasanaeth yng Ngogledd Affrica a Ffrainc penodwyd ef yn CBE yn 1945. Pan agorodd y Sefydliad Glo Ewropeaidd ei bencadlys yn Llundain yn 1945 ef oedd ei gadeirydd cyntaf, gan ymadael yn 1946 i ddod yn Gyfarwyddwr Marchnata cyntaf y Bwrdd Glo Cenedlaethol newydd. Yn 1949 ymunodd â Mobil Oil fel cadeirydd ei gwmni yn y DU, ac arhosodd yn y swydd hon tan ei farwolaeth yn 1968. Yn 1962-63 ef oedd llywydd y Sefydliad Petrolewm, gan arwain ei ddathliadau jiwbilî.

Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn addysg ar hyd ei oes. O 1954 i 1962 bu'n aelod o Bwyllgor Grantiau'r Prifysgolion, pwyllgor a ymgynghorai ar ddosbarthu arian cyhoeddus i'r prifysgolion. Yn 1959 daeth yn aelod o Gomisiwn Marshall Aid, corff sy'n dyfarnu Ysgoloriaethau Marshall i raddedigion Americanaidd ym mhrifysgolion Prydain. Yn 1962 daeth yn aelod trwy enwebiad y goron o Lys Prifysgol Llundain, a daeth yn is-gadeirydd arno wedyn. Er nad oedd aelodau o Brifysgol Llundain yn gymwys i dderbyn graddau anrhydeddus fel rheol, yn 1967 dyfarnodd y Llys radd anrhydeddus Doethur yn y Gyfraith iddo 'fel arwydd o'r edmygedd a'r parch cyffredinol sydd iddo'.

Bu farw John Gridley ar 25 Tachwedd 1968 yn Cwrt-yr-Ala House, Llanfihangel-y-pwl, Morgannwg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2020-08-18

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.