HAM, PETER WILLIAM ('PETE') (1947 - 1975), cerddor a chyfansoddwr caneuon

Enw: Peter William Ham
Dyddiad geni: 1947
Dyddiad marw: 1975
Partner: Beverley Ellis
Partner: Anne Ferguson
Plentyn: Petera Ham
Rhiant: William Ham
Rhiant: Catherine Ham (née Tanner)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor a chyfansoddwr caneuon
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Barddoniaeth; Perfformio
Awdur: William Ham Bevan

Ganwyd Pete Ham yn Abertawe ar 27 Ebrill 1947, yr ieuengaf o blant William Ham (1908-1985), paentiwr llongau yn nociau Abertawe, a'i wraig Catherine (g. Tanner, 1912-1976) a oedd wedi gweithio fel agorydd platiau yn y gweithfeydd tunplat. Bu eu mab cyntaf, William (g. 1935) farw'n faban. Magwyd Pete yn Gwent Gardens, ar droed stad Townhill, gyda brawd hŷn, John (1937-2015) a chwaer, Irene (1943-1991).

Dangosodd Pete ddawn ryfeddol fel cerddor yn Ysgol Gynradd Gors, gan ddenu torf mewn sesiynau harmonica byrfyfyr ar y buarth. Ar ôl symud ymlaen i Ysgol Uwchradd Townhill dechreuodd chwarae'r gitâr. Gydag anogaeth John, a oedd yn drympedwr jazz medrus, ymdaflodd Pete i sîn roc bywiog Abertawe. Tra'n bwrw prentisiaeth fel peiriannydd teledu a radio, chwaraeodd mewn grŵp lled-broffesiynol dan yr enwau The Panthers, The Black Velvets a The Wild Ones, gan agor yn aml ar gyfer actau teithiol mawr.

Yn 1965, cymerodd y grŵp yr enw The Iveys - ar ôl stryd ger Gorsaf Stryd Fawr Abertawe - gyda aelodaeth sefydlog yn cynnwys Pete, ail gitarydd David Jenkins, basydd Ron Griffiths a'r drymiwr Mike Gibbins. Derbyniasant gynnig gan Bill Collins i fod yn rheolwr iddynt, gan symud yn 1966 i fyw yn ei dŷ yng Ngogledd Llundain. Wedi dwy flynedd tlawd o gigio, cyfansoddi a recordio demos (a newid personél, gyda Tom Evans o Lerpwl yn disodli Jenkins) cafodd yr Iveys lwyddiant pan arwyddwyd y grŵp gan label recordiau y Beatles, Apple, yng Ngorffennaf 1968. Roedd cyfansoddiadau cynnar Pete, a oedd wedi dal clust Paul McCartney, yn ffactor wrth sicrhau'r cytundeb.

Ni chafodd recordiau cyntaf yr Iveys fawr o effaith y tu allan i gyfandir Ewrop a'r Dwyrain Pell, ond daeth llwyddiant pan gynigiodd McCartney ei gân Come and Get It i'r grŵp, cân a gyfansoddwyd ar gyfer y ffilm The Magic Christian. Cyn rhyddhau'r sengl a'r albwm cysylltiedig, Magic Christian Music (1970), newidiodd y grŵp ei enw i Badfinger. Disodlwyd Ron Griffiths (a oedd wedi chwarae ar y ddau) gan y gitarydd o Lerpwl Joey Molland, gan greu cydbwysedd rhwng elfennau Abertawe a Glannau Merswy yn y band. Ar y llwyfan ac oddi arno, roedd personoliaeth dawel Pete yn gyferbyniad i hwyl afieithus Evans a Molland.

Bu Come and Get It yn llwyddiant rhyngwladol. Er bod awduraeth y gân yn cryfhau'r syniad bod Badfinger yn fand a feithrinwyd gan y Beatles - achos rhwystredigaeth i Pete - cyfansoddiadau gwreiddiol Ham fyddai pob un o'u senglau llwyddiannus wedyn. O'r albwm No Dice yn 1970 daeth hit mawr bydeang, No Matter What, a gydnabyddir yn glasur arloesol y genre 'power pop'. Pwysicach byth oedd y trac LP Without You, gyda chytgan gan Tom Evans ynghyd â phenillion a luniodd Pete ar gyfer ei gariad, Beverley Ellis. Daeth y gân yn rhif un trawsatlantig mewn recordiad gan Harry Nilsson, gan ennill enwebiad Grammy a dwy wobr Ivor Novello i Pete. Mae'n dal i fod yn un o'r caneuon a ddynwaredir amlaf o holl ganeuon pop y 1970au, a daeth Without You yn ôl i frig siartiau'r DU mewn fersiwn gan Mariah Carey yn 1994.

Er gwaethaf adolygiadau cymysg ar y pryd, Straight Up (1971) - a gynhyrchwyd yn rhannol gan George Harrison - yw albwm cryfaf Badfinger yn ôl y farn gyffredin erbyn hyn. Roedd parch y cyn-aelod o'r Beatles i ddawn gerddorol Pete yn hysbys ddigon. Ar y sengl Day After Day mae'r ddau'n cydchwarae gitâr sleid, a dewiswyd Pete gan Harrison ar gyfer deuawd acoustig o gân y Beatles Here Comes the Sun yn y cyngerdd dros Bangladesh yn Madison Square Garden, Efrog Newydd, lle roedd Badfinger yn cyfeilio. Cymerodd Pete ran hefyd mewn sesiynau ar gyfer albymau Harrison All Things Must Pass a Living in the Material World, a sengl rhif-un Ringo Starr It Don't Come Easy. Yn wahanol i'w gydaelodau Evans a Molland, gwrthododd y cyfle i chwarae ar LP John Lennon Imagine, er mwyn dychwelyd i Abertawe ar gyfer pen-blwydd ei nith.

Cyrhaeddodd Baby Blue, yr ail sengl o Straight Up, yr 20 uchaf yn yr Unol Daleithiau, ac enillodd y ddwy gân wobr gan ASCAP (American Society of Composers, Authors and Publishers) i Pete. O hyn ymlaen, dechreuodd pethau fynd o chwith yn ddifrifol. Roedd y grŵp wedi cael rheolwr Americanaidd, Stan Polley - a oedd, heb yn wybod i Pete, yn dwyllwr gyda chysylltiadau â throseddwyr trefnedig - a chymerodd hwnnw reolaeth dros eu cyllid. Wrth i ymerodraeth Apple y Beatles ymddatod, negododd Polley gytundeb recordio newydd gyda Warner Brothers. Ymddangosodd albymau ar y ddau label o fewn ychydig fisoedd i'w gilydd, gan ddrysu prynwyr recordiau. Ni wnaeth Ass (Apple, 1973) na Badfinger (Warner, 1974) unrhyw argraff ar y siartiau. Er ei fod wedi ei recordio dan bwysau, roedd Wish You Were Here (1974) yn welliant mawr, gyda chyfraniadau gan Pete a ail-greodd naws ac ynni melodig ei senglau Apple.

Un ymddiriedus ei natur oedd Pete, ac wrth i Stan Polley dynhau ei afael ar ei fywyd a'i fywoliaeth, roedd ei ffyddlondeb i'r band a'r rheolwyr yn anffodus iddo. Pan ddarganfu Warner Brothers fod y blaendaliadau a dalwyd i Polley ar gyfer Badfinger wedi mynd ar goll, tynnwyd yr albwm Wish You Were Here o'r siopau ac aeth pethau'n ffradach llwyr i'r band. Ceisiodd Pete adael Badfinger, ond teimlai fod rhaid iddo ddod yn ôl pan glywodd na fyddai Warner yn cynnal ei gydaelodau hebddo. Cymerodd Bob Jackson le Joey Molland ar gyfer cynnig olaf ar albwm, Head First (1975), a fyddai'n aros heb ei ryddhau tan 2000. Dim ond dwy gân a darn offerynnol byr a gyfrannwyd gan Pete.

Yn ystod y sesiynau ar gyfer Wish You Were Here, roedd Pete wedi dechrau perthynas ag Anne Ferguson, a symudodd y pâr - a oedd erbyn hynny'n disgwyl babi - i mewn i dŷ yn Woking, Surrey. Dechreuodd sieciau cyflog fownsio, a llithrodd Pete yn bellach i ddyled ac iselder. Yn oriau mân y bore ar 24 Ebrill 1975, fe'i crogodd Pete Ham ei hun yn ei garej; cafwyd hyd i nodyn hunanladdiad gerllaw yn beio Stan Polley. Gwasgarwyd ei lwch yn Amlosgfa Abertawe ar 1 Mai 1975. Ganwyd merch Pete ac Anne, Petera, ar 31 Mai.

Dan bwysau anghydfod a chyfreitha parhaus, a'r atgof am farwolaeth ei gyfaill yn hunllef iddo, cyflawnodd Tom Evans hunanladdiad ar 19 Tachwedd 1983. Am flynyddoedd lawer, golygai hunanladdiad dau awdur Without You fod camp gerddorol Pete wedi ei bwrw i'r cysgod gan hanes trasig y grŵp. Ond erbyn troad yr 21ain ganrif roedd ei waith yn cael cydnabyddiaeth gyhoeddus gan do newydd o gerddorion o Gymru, ac yn eu plith James Dean Bradfield (Manic Street Preachers), Cerys Matthews (Catatonia) a Gruff Rhys (Super Furry Animals). Ar 27 Ebrill 2013, Pete Ham oedd y cyntaf i dderbyn plac glas gan Ddinas a Sir Abertawe i anrhydeddu dinasyddion enwog. Mae'r gofeb i'w gweld wrth y fynedfa i Orsaf Abertawe ar Ivey Place.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-04-15

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.