HAYWARD, Syr ISAAC JAMES ('Ike') (1884 - 1976), glöwr, undebwr a gwleidydd lleol

Enw: Isaac James Hayward
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1976
Priod: Alice Hayward (née Mayers)
Priod: Violet Charlotte (née Cleveland)
Plentyn: William Alexander Hayward
Plentyn: Haydn Hayward
Plentyn: Stanley Joshua Hayward
Plentyn: Thomas James Hayward
Rhiant: Mary Elizabeth Hayward (née French)
Rhiant: Thomas Hayward
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: glöwr, undebwr a gwleidydd lleol
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Carole Powell

Ganwyd Isaac Hayward ar 17 Tachwedd 1884, mewn tŷ teras dwy stafell wely yn King Street, Blaenafon, sir Fynwy, y trydydd o bump a oroesodd o'r wyth o blant a anwyd i Thomas Hayward (1848-1925), ffitiwr peiriannau, a'i wraig Mary Elizabeth (g. French, 1848-1925). Roedd ganddo ddau frawd a dwy chwaer: Thomas, Elizabeth, Alice Louisa, a William Frederick.

Magwyd Isaac yn Fedyddiwr, a dysgodd gan ei rieni bwysigrwydd gwerthoedd Anghydffurfiol dirwest ac addysg. Serch hynny, bu'n rhaid iddo adael yr ysgol yn ddeuddeg oed, yn unol â'r arfer, i weithio yn y pwll lleol (y Pwll Mawr erbyn hyn). Byddai Isaac a'i frodyr a'i chwiorydd yn eu haddysgu eu hunain bob nos, gan fenthyg llyfrau o Neuadd y Gweithwyr. Yn bymtheg oed cychwynnodd brentisiaeth fel peiriannydd glofaol.

Daeth yn weithgar yn un ar bymtheg oed gyda'r Blaid Lafur ac undeb y gweithwyr, a chadwodd ei dystysgrifau aelodaeth gyda chryn falchder hyd ddiwedd ei oes. Ei freuddwyd fawr oedd gwella cyflogau ac amodau gwaith pobl gyffredin. Daeth yn gynghorydd ar Gyngor Trefol Blaenafon, cafodd sedd ar Gyngor Sir Mynwy ac fe'i penodwyd yn ynad. Yn 1917 daeth yn swyddog llawn-amser gydag Undeb Cenedlaethol y Peirianwyr, Tanwyr, Mecanwyr a Gweithwyr Trydanol. Diwygiwr cymhedrol ydoedd yn hytrach na radical tanllyd, gyda synnwyr tegwch cynhenid wrth negodi.

Priododd Alice Mayers, gwniadwraig o Flaenafon, yn 1913, a chawsant bedwar mab: William Alexander (a laddwyd yn Normandy, 1944), Haydn (tad i Ronald a David), Stanley Joshua, a Thomas James (tad i Carole).

Trwy ei waith gyda'r undeb daeth Hayward yn gyfaill agos i Ernest Bevin ac i Herbert Morrison. Ar eu cais hwy y symudodd Hayward a'i deulu i Lundain yn 1924. Erbyn hynny adwaenid ei undeb fel Grŷp y Gweithwyr Pŷer o fewn y TGWU, gyda Hayward fel ysgrifennydd ardal Llundain, ac yn ddiweddarach yn Ysgrifennydd Cyffredinol (1938-1946). Ar yr un adeg dechreuodd trywydd newydd yn ei yrfa wrth iddo ddychwelyd i lywodraeth leol gan ennill sedd ar Gyngor Sir Llundain (LCC) dros Bermondsey a Rotherhithe yn 1928, a Deptford yn ddiweddarach.

Yn 1934 daeth yn gadeirydd y pwyllgor Cymorth Cyhoeddus, gan drawsnewid yr hen Ddeddf y Tlodion yn system les fodern a goruchwylio diddymu'r tlotai atgas. Fel llawer o Gymry hunan-addysgedig o'r un cefndir ag ef, rhoddai bris mawr ar addysg; 'Why should not the crossing sweeper have a university degree?', meddai. Fel cadeirydd y pwyllgor Addysg hyrwyddodd bolisi dadleuol ysgolion cyfun er mwyn rhoi cyfleoedd cyfartal i bawb.

Yn 1947, yn 63 oed, etholwyd Hayward yn arweinydd Cyngor Sir Llundain. Dyma ddechrau ei gyfnod digymar yn y swydd honno (1947-1965) a barodd iddo gael ei lysenwi'n 'Ike, London's Prime Minister' yn y wasg genedlaethol. Ar ôl i'r Blitz ddinistrio llawer o adeiladau Llundain roedd Hayward yn gyfrifol am y cartrefi newydd, yr ysgolion a'r ysbytai y credai fod y bobl yn eu haeddu. Gweithiodd yn agos gydag Aneurin Bevan i gyfuno'r system iechyd a oedd gan Lundain gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol newydd.

Goruchwyliodd Hayward Ŵyl Brydain a chreu Canolfan Celfyddydau Southbank yn 1951, a sicrhaodd fod y Royal Festival Hall yn cael ei adeiladu ar amser ac o fewn ei gyllideb. Dros y ddwy flynedd ar bymtheg nesaf daeth Neuadd y Frenhines Elizabeth, y Purcell Rooms ac Oriel Hayward (a enwyd ar ei ôl yn 1968). Chwaraeodd Hayward ran fawr yn ffurfiant y Theatr Genedlaethol ar ôl ymgyrch hir i'w sefydlu, gan ddyfarnu grant LCC o £1 miliwn. Cyfrannodd ei weledigaeth hefyd at sefydlu Canolfan Chwaraeon Genedlaethol Crystal Palace.

Yn sgil ei hunan-addysg meddai Hayward ar ddealltwriaeth wybodus o'r celfyddydau, ac roedd yn bleidiwr brwd 'celfyddyd i bawb'. Arloesodd trwy wneud yr awdurdod cyhoeddus yn noddwr i'r celfyddydau, a bu grantiau i opera, cerddorfeydd, bale, cerflunwyr ac arlunwyr yn achubiaeth i'r byd artistig. Wrth i dai cyngor ac ysgolion gael eu hadeiladu, anogodd gomisiynu gweithiau celf modern ar gyfer pob datblygiad, dros 70 i gyd gan artistiaid megis Henry Moore ('Two-piece reclining figure number 3'), Siegfried Charoux ('Neighbours') ac eraill. Mae llawer o'r darnau hyn yno o hyd ac ar gael i bawb.

Roedd Hayward yn ddyn addfwyn a braidd yn swil, un a fyddai'n osgoi cyhoeddusrwydd gan adael i eraill gael y clod am waith y cyngor. Glynai'n egwyddorol wrth y drefn gywir bob tro. Cadwai'r cyngor dan reolaeth dynn, ac adroddir i Attlee ddisgrifio'r LCC dan arweiniad Hayward, fel 'the nearest approach to a totalitarian state in Western Europe' (Rhodes, 32).

Yn ystod chwe blynedd olaf ei arweinyddiaeth bu Hayward yn ymladd i achub yr LCC rhag ei ddiddymu yn yr ailstrwythuro ar lywodraeth leol. Oherwydd ei fod yn ymfalchïo gymaint yn yr hyn a gyflawnwyd gan y cyngor ni allai dderbyn yr angen am ddiwygio, ac felly gwrthododd yn lân â chydweithio â'r Comisiwn Brenhinol. Collodd y frwydr honno pan ffurfiwyd y Greater London Council (GLC) yn 1965. Roedd wedi bwriadu ymddeol yn 1964, yn 80 oed, ond fe'i darbwyllwyd i aros am flwyddyn arall, er bod ei 'bossism' awdurdodaidd bellach yn gas gan lawer o'r to ifanc yn y Blaid Lafur a deimlai ei fod wedi aros yn rhy hir.

Cafodd Hayward ei urddo'n farchog yn 1959; dyfarnwyd LLD er anrhydedd iddo gan Brifysgol Llundain yn 1952, a gwasanaethodd ar ei Llys a'i Senedd 1945-1969; fe'i gwnaed yn rhyddfreiniwr Bermondsey (1955) a Deptford (1961), ac yn gymrawd anrhydeddus yr RIBA (1970). Yn 1963 roedd ei enw ar restr y Sunday Mirror o'r ugain o bobl fwyaf pwerus ym Mhrydain.

Bu farw ei wraig gyntaf yn Hydref 1944, a phriododd Violet Cleveland yn 1951, gan ymgartrefu yn 140 Chudleigh Road, Crofton Park. Bu Isaac Hayward farw yno ar 3 Ionawr 1976 yn 91 oed, ac fe'i claddwyd ym mynwent Grove Park, Lewisham. Gosodwyd plac yn nes ymlaen ar y tŷ yn King Street lle cafodd ei eni. Er iddo adael Cymru hanner can mlynedd ynghynt, nid anghofiodd ei famwlad, a dychwelai mor aml ag y gallai i ymweld â theulu a chyfeillion. Yn y lle blaenaf ar wal ei swyddfa yn Neuadd y Sir roedd llun o Flaenafon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-02-22

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.