HUGHES, DEWI ARWEL (1947 - 2017), diwinydd ac arweinydd Cristnogol

Enw: Dewi Arwel Hughes
Dyddiad geni: 1947
Dyddiad marw: 2017
Priod: Margaret Ruth Hughes (née Hughes)
Plentyn: Rebecca Rhian Hughes
Plentyn: Daniel Rhodri Hughes
Plentyn: Steffan William Hughes
Plentyn: Anna Mari Hughes
Plentyn: Lydia Ruth Hughes
Rhiant: Gruffudd Evans Hughes
Rhiant: Annie Hughes (née Edwards)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwinydd ac arweinydd Cristnogol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Arfon Jones

Ganwyd Dewi Arwel Hughes ar 1 Ionawr 1947 yn Bugeilfod, Llangwm, Sir Ddinbych, yr ieuengaf o bedwar o blant Gruffudd Evans Hughes (1912-1975), gwerthwr nwyddau amaethyddol, a'i wraig Annie (g. Edwards, 1908-1957), gwniadwraig. Roedd ganddo dair chwaer, Elen Haf, Lona Wyn a Gwenan Arwel. Flwyddyn wedi ei eni, symudodd y teulu i Garth Isa, Frongoch ger y Bala. Bu farw ei fam yn 1957, pan oedd Dewi yn ddeg oed, a'r flwyddyn ganlynol symudodd y teulu i'r Garth (sef yr hen 'Bull Bach') ar Stryd Fawr y Bala.

Gadawodd marwolaeth ei fam ei hôl ar fywyd Dewi. Nid oedd Dewi'n agos at ei dad, ond roedd yn meddwl y byd o Haf, ei chwaer hynaf, a roddodd heibio ei gwaith yn Rhydychen i ddod adref i ofalu am ei thad a'i brawd. Yna, pan oedd yn ei arddegau cynnar, cafodd brofiad ysbrydol a newidiodd gyfeiriad ei fywyd - cysegrodd ei fywyd i ddilyn Iesu Grist.

Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Gynradd Cwm Tir Mynach, ac yna yn Tŷ Tan Domen, sef Ysgol Ramadeg y Bechgyn, y Bala, cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor yn 1964 i astudio'r Gymraeg. Roedd ei flwyddyn gyntaf yn y coleg yn gyfnod o amheuon dwfn am ei ffydd, ac aeth drwy gyfnod tywyll iawn o iselder ac ofn marwolaeth - ofn a fyddai'n dod yn ôl i'w boenydio am flynyddoedd lawer.

Ar ôl ennill gradd yn y Gymraeg, ddiwedd Medi y flwyddyn honno priododd fyfyrwraig ifanc o Lerpwl, Margaret Ruth Hughes (g. 1946). Arhosodd ym Bangor i astudio Diwinyddiaeth, ac arweiniodd hynny yn ei dro at Ddoethuriaeth a gwblhaodd yn 1980.

Roedd Dewi yn un o sylfaenwyr Eglwys Efengylaidd Ebenezer, Bangor, Yna ym 1975 cafodd swydd fel darlithydd Astudiaethau Crefydd yng Ngholeg Polytechnig Cymru, Pontypridd, a dyna ble magodd Dewi a Maggie bump o blant - Rebecca Rhian, Daniel Rhodri, Steffan William, Anna Mari a Lydia Ruth. Roedd Dewi yn henuriad yn Eglwys Bedyddwyr Temple, Pontypridd. Roedd hefyd yn gefnogwr brwd i Addysg Gymraeg a bu'n gwasanaethu am flynyddoedd ar Fyrddau Llywodraethol Ysgol Gynradd Pont Siôn Norton ac Ysgol Uwchradd Rhydfelen (Gartholwg yn ddiweddarach).

Yn 1987 dechreuodd weithio i'r mudiad dyngarol Cristnogol Tearfund. Bu'n gydlynydd Tearfund yng Nghymru am chwe mlynedd, cyn cael ei benodi yn Ymgynghorydd Diwinyddol yr elusen, o 1993 hyd ei ymddeoliad yn 2011. Roedd yn angerddol frwd dros sicrhau cyfiawnder i'r tlodion. Teithiodd i lawer o wledydd tlotaf y byd gyda'i waith, ac roedd bob amser yn mwynhau cysylltu â'r diwylliannau lleiafrifol yn y gwledydd hynny.

Er ei holl deithiau rhyngwladol a'i ddylanwad trwm ar ddatblygiad gwaith Tearfund a'r byd efengylaidd yn ehangach, un o hogiau cefn gwlad ardal y Bala oedd Dewi gydol ei fywyd. Roedd wrth ei fodd yn cerdded mynyddoedd ac yn sylwi ar fywyd adar gwyllt. Treuliodd gyfran helaethaf ei fywyd gwaith yn y stydi, ond roedd yn cydbwyso'r oriau o flaen sgrin cyfrifiadur gyda thrin yr ardd a thyfu llysiau a ffrwythau organig.

Roedd yn ŵr hyddysg iawn yn yr Ysgrythurau, ac roedd parch rhyngwladol ato fel diwinydd, pregethwr a darlithydd. Bu'n Gadeirydd Cynghrair Efengylaidd Cymru o'i sefydlu yn 1989 hyd at 1996. Roedd hefyd yn aelod o Bwyllgor Diwinyddol y Cynghrair Efengylaidd yng ngwledydd Prydain. Ysgrifennodd sawl cyfrol ddylanwadol: Has God Many Names? (IVP, 1996), God of the Poor (OM Publishing, 1998); Power and Poverty (IVP, 2008); Castrating Culture (Paternoster Press, 2011) a The World on our Doorstep (Evangelical Alliance, 2016). Ond drwy'r cwbl roedd yn ddyn bodlon a diymhongar a oedd bob amser yn ei chyfri'n fraint cael gweithio i wasanaethu ei Dduw a'i gyd-ddyn.

Bu farw Dewi Arwel Hughes ar 4 Hydref 2017 o gancr ar y coluddyn, ac mae wedi ei gladdu ym Mynwent Glyntaf, Pontypridd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-10-26

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.