Ganwyd Ezzelina Jones ym Mhontarddulais ar 28 Mehefin 1921, yr ail o dair merch Godfrey Hugh Beddoe Williams, dwblwr yng ngwaith tun Clayton, a'i wraig Elizabeth Mary Williams. Roedd ganddi ddwy chwaer, Elizabeth Jane (Betty) a Rita. Yn y blynyddoedd cynnar Gwen neu Gwenhwyfar oedd hi i'r teulu. Mae'n debyg iddi gael yr enw anghyffredin Ezzelina ar ôl Ezzelina Samuel, merch i gydweithiwr i'w thad, a fu farw yn 24 mlwydd oed yn 1919.
Cyfnod sefydlog a hapus iawn oedd plentyndod cynnar Gwen a'i chwiorydd, gyda'r teulu bach yn rhan o'r gymdeithas glòs a fodolai yn yr ardal. Daeth yr hapusrwydd i ben yn greulon pan bu farw ei mam a Gwen ond yn wyth mlwydd oed. Effeithiodd y profiad ysgytiol hwn arni gydol ei hoes.
Wedi gadael yr ysgol ym Mhontarddulais yn bedair ar ddeg oed bu'n gweithio am gyfnod mewn siop yn y Mwmbwls cyn mynd at gyfeillion i'r teulu yn Llundain. Daeth yn ôl i fod gyda'r teulu pan oedd yr Ail Ryfel Byd ar y gorwel. Priododd ag Elias Llewelyn Jones o bentref cyfagos yr Hendy ac yn 1940 pan oedd Gwen yn bedair ar bymtheg oed ganed merch iddynt, Elizabeth Mary (Beti). Bu Elias yn yr Awyrlu yn ystod y rhyfel gan fod yn Awyr-ringyll yng Ngogledd Affrica. Wedi dychwelyd adref ar ôl y rhyfel cafodd swydd fel clerc yn un o'r gweithfeydd tun. Ar y pryd roedd yr ardal yn bair o brysurdeb diwydiannol gyda rhyw saith o weithfeydd tun a sawl gwaith glo ar gyrion y pentref. Roedd Gwen yn cofio pan yn dair oed fynd gyda'i Mam â chawl i'w thad amser cinio yng ngwaith y Clayton. Yno gwelodd y ffwrnes danllyd a'r stêm a synhwyro'r gwres llethol. Am hyn dywedodd, 'Mae drama'r olygfa wedi aros gen i byth.' Heb yn wybod iddi bron roedd y profiadau yn y gymdeithas Gymreig a'r awyrgylch ddiwydiannol yn treiddio i'w hisymwybod, a byddai'r ddwy elfen yna yn dod i'r wyneb yn ei gwaith creadigol yn hwyrach yn ei bywyd.
Symudodd y teulu o ardal Pontarddulais pan gafodd Elias ddyrchafiad yn ei swydd a'i drosglwyddo i waith newydd Trostre yn Llanelli. Yno pan oedd Gwen yn 33 ganwyd mab iddynt, Huw. Treuliodd Gwen y deuddeng mlynedd nesaf yn gofalu am ei theulu, ond rhywle ynddi trigai ysfa greadigol yn dyheu am sylw. Dechreuodd arbrofi â cherfio pren gan fynychu dosbarth nos ar y testun. Taniwyd ei dychymyg pan sylweddolodd fod ganddi'r gallu i greu rhywbeth cain o ddarn o bren. Darn haniaethol syml llawn dirgelwch a llinellau clir oedd ei gwaith cyntaf. Yn ddiweddarach ymunodd â dosbarth nos mewn arlunio. Defnyddiodd olew fel ei chyfrwng dewisiedig gan arddangos gweithiau mewn arddangosfeydd lleol. Dilynwyd hyn gan flynyddoedd o hunan-addysg ac aeth i ddosbarth arlunio yn y coleg cyfagos. Sylwodd pennaeth y coleg arni'n gweithio a chredai y byddai gweithio mewn tri dimensiwn yn fwy addas i fynegi ei doniau creadigol. Rhoddodd ddarn o glai iddi i roi cynnig ar gerflunio. Y clai yna a fu'n fodd i ryddhau'r creadigrwydd cudd a fodolai ynddi.
Bu'r cyfnod yma'n un cythryblus yn ei hanes ac esgorodd ar weithred a fyddai'n achosi llawer o boen a blinder iddi'n ddiweddarach. Erbyn hyn, fel arlunydd, roedd wedi ennill enw da am ei gwaith ac fe arddangoswyd hwn yn llwyddiannus. Serch hynny, yn ystod rhyw gynnwrf emosiynol llwyr ddinistriodd y rhan fwyaf o'i lluniau a throdd at gerflunio. Tua'r amser yma dechreuodd Gwen ddefnyddio ei henw cyntaf Ezzelina. Daeth y Gwen a fu yn Ezzelina y Gerflunwraig gan ganolbwyntio'n llwyr ar y llwybr newydd a ddewiswyd ganddi. Roedd ei merch, Beti, yn credu er bod arlunio wedi rhoi boddhad mawr iddi mai trwy gerflunio y gallodd fynegi'r hyn a oedd yn nyfnderoedd ei bod ('Sculpture would tap the very depth of her being'). Bu'n ymchwilio ei maes newydd yn ddiwyd a chymerodd swydd dros dro am chwe mis er mwyn ariannu'r odyn gyntaf yn ei gyrfa. Ymgofrestrodd ar gwrs Adran Allanol Prifysgol Abertawe a chymeryd cyngor a hyfforddiant y Coleg Celf ond gwrthododd y cyfle i ddilyn cwrs gradd fel myfyriwr hŷn. Yr oedd yn benderfynol i dorri ei chŵys ei hun yn y byd creadigol.
Gwnaethpwyd stiwdio a gweithdy iddi o beth a fu'n garej wrth ymyl y tŷ. Ysai am gyfle i ddatblygu y toreth o syniadau a oedd yn corddi yn ei meddwl i greu ei cherfluniau. Yr oedd wedi byw trwy ran helaeth o'r ugeinfed ganrif ac roedd yn awyddus i ddal ysbryd a hanfod y cyfnod yn ei gwaith creadigol, yn enwedig yr agwedd Gymreig ohono. Cymerodd ei chreadigrwydd ffurf haniaethol ac un ffiguraidd. Yn nhermau ffiguraidd llwyddodd yn ei chreadigaethau i ymgnawdoli ffordd o fyw a oedd yn prysur ddiflannu. Ym Mhontarddulais erbyn dechrau pumdegau'r ugeinfed ganrif roedd y lliaws o weithfeydd tun wedi diflannu. Nid oedd y gweithiwr tun a welodd Ezzelina gyda'i Mam bellach yn bod ond fe'i hanfarwolir yn ei cherfluniau. Crisialwyd y nodweddion a welodd yn groten fach yng ngwaith y Clayton mewn cerflun o weithiwr tun a chadach am ei wddf i lyncu'r chwys a grewyd gan wres di-dostur y melinau, ffedog leder dew ac esgidiau cadarn i ddiogelu'r corff a gwarchod y traed rhag niwed oddiwrth y platiau o fetel gwynias yn y melinau.
Erbyn canol y saithdegau roedd y cerflunydd yn dechrau cael sylw, yn derbyn gwahoddiadau i gynnal arddangosfeydd, ac ymddangosodd ei gwaith gyda Chymdeithasau Celf Abertawe a Llanelli. Yn 1977 enillodd Dlws Coffa Emlyn Roberts Cymdeithas Gelf Llanelli. Yn 1978 daeth cyfle i gynnal arddangosfa un person yn Hwlffordd, achlysur a gafodd dderbyniad da gan y wasg.
Cyfnod o weld ei gyrfa'n llewyrchu oedd yr wythdegau gydag arddangosfeydd un person yn yr Eglwys Norwyaidd yn Abertawe ac yng Nghanolfan Celf Maenor Llantarnam, un ar y cyd gyda Seren Bell yn Oriel Ceri Richards yn Abertawe ac un yn Birmingham gyda Chymdeithas Frenhinol yr Artistiaid yno. Uchafbwynt y degawd dilynol, heb os, oedd creu penddelw efydd o golier. Fe'i comisiynwyd i'w osod yn Amgueddfa Glowyr Cymru ym Mharc Afan Argoed yng Nghwm Afan a'i fwrw mewn efydd mewn ffowndri yn Llundain. Cyflwynwyd y darn i'r Amgueddfa yn 1983. Gyda threigl blynyddoedd y degawd creodd fwy o gerfluniau mewn efydd a bu'n arbrofi gyda gwahanol arddulliau a chyfryngau. Bu hefyd yn datblygu mwy o gysylltiadau fel y gallai arddangos ei gwaith ym Manceinion yn Oriel Henry Donn ac ym Mryste yn Oriel Patricia Wells.
Bu nawdegau'r ugeinfed ganrif yn gyfnod prysur i Ezzelina a gwelodd 1994 arddangosfa yng Nghastell Cyfarthfa ym Merthyr. Mae teitl yr arddangosfa yn bwysig: My Wales - Fy Nghymru i. Dewisodd yr un teitl i arddangosfa arall yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd yn 1995, ac ymgorffora'r geiriau yr hyn a geisiodd y cerflunydd ei bortreadu yn ei hidiom greadigol. Yr oedd am greu delweddau o'r cymeriadau a'r amgylchiadau a fu yn ei Chymru hi. Roedd am anfarwoli hanes a phobl ei gwlad a oedd yn brysur newid a chymaint yn mynd ar goll. Ar ddiwedd ei hoes dywedodd wrth un newyddiadurwraig, 'Yr wyf wedi croniclo mewn celf yr hyn a welais ac amgyffred o ddiwylliant a diwydiant Cymru dros gyfnod o ddeg degawd.'
Yr un flwyddyn yn ei harddangosfa ym Mharc Treftadaeth y Rhondda cyfarfu â'r newyddiadurwr Gwyn Griffiths, a buont yn siarad am hanes y Sioni Winwns o Lydaw. Roedd Ezzelina'n cofio un ohonynt yn iawn, Marie le Goff oedd ei henw a byddai'n cynnal stondyn ym marchnad Llanelli bob blwyddyn yn gwerthu'r winwns tra'r oedd ei mab-yng-nghyfraith yn teithio'r ardal ar ei feic yn eu gwerthu. Cofiai sgwrsio yn Gymraeg â Marie le Goff a fyddai bob amser yn gwisgo cot fawr a het ynghanol ei winwns yn y farchnad. Gwnaeth Ezzelina gerflun ohoni a threfnodd Gwyn i'w arddangos yn Amgueddfa'r Sionis yn Rosco, Llydaw.
Yn Oriel y Glynn Vivian yn Abertawe y cynhaliwyd ei harddangosfa un person olaf yn 1996, a'i dewis o deitl oedd 'Ddoe a Heddiw'. Bu'r digwyddiad yn fodd i arddangos yr amrywiaeth yn ei gwaith - a fu ar hyd y blynyddoedd yn gyfuniad o'r ffiguraidd a'r hanesyddol ynghyd â chreadigaethau o natur haniaethol. Ym myd celf ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif yr oedd y diddordeb yn yr elfen ffigurol a hanesyddol ar drai; roedd Ezzelina'n ymwybodol o hyn ond aeth i mewn i'r ganrif newydd, a hithau yn ei wythdegau, yn llawn hyder. Yn ei stiwdio bu'n arbrofi â syniadau newydd gan gynllunio a chreu cerfluniau a phowlenni haniaethol. Ond dinistrwyd y cyfnod yma o greadigrwydd gan afiechyd a fu'n fodd i ddiffodd fflam yr ysfa greadigol ynddi.
Bu farw Ezzelina Jones ar 7 Tachwedd 2012 a chladdwyd ei llwch ym Mynwent Rhydgoch, Pontarddulais.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-08-23
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.