JONES, DAVID JOHN ('John David'; 'Dai Tenor') (1906 - 1978), canwr opera

Enw: David John Jones
Dyddiad geni: 1906
Dyddiad marw: 1978
Priod: Mary Jones (née Phillips)
Plentyn: Trevor Jones
Rhiant: Daniel Rees Jones
Rhiant: Maria Jones (née Davies)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: canwr opera
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Rhidian Griffiths

Ganwyd David John Jones ar 29 Mehefin 1906 ym Mhant-teg, Cwm Tawe, yr ieuengaf o bump o blant (tri mab a dwy ferch) Daniel a Maria Jones. Treuliodd ei dad, Daniel Jones, y blynyddoedd 1910-20 yn Rwsia, yn gweithio yn y diwydiant alcam, cyn dychwelyd i swydd fel fforman yng ngwaith alcam y Dyffryn, Pontardawe. Symudodd y teulu i Commercial Road, Rhyd-y-fro, ger Pontardawe, ac yn 14 oed dechreuodd David weithio yn y gwaith alcam lleol.

Fe'i clywyd yn canu yng nghapel Saron, Rhyd-y-fro gan yr arweinydd corawl W. D. Clee (1884-1946), a derbyniodd hyfforddiant lleisiol ganddo. Pan ffurfiodd Clee Gymdeithas Gorawl Ystalyfera yn 1925, ymunodd Dai Jones â'r côr a chael cyfle pellach i ddatblygu ei ddawn, gan ymddangos fel unawdydd yn eu cyngherddau. Byddai'n cystadlu mewn eisteddfodau ac wedi ei fuddugoliaeth ar yr her unawd mewn eisteddfod yn Rhydaman yn 1926 cafodd wahoddiad gan Kingsley Lark i ymuno â Chwmni Opera Carl Rosa, cwmni teithiol y cafodd llawer o Gymry le yn ei rengoedd. Ymddangosodd fel unawdydd yn nifer o gynyrchiadau'r cwmni hwnnw.

Perfformiodd Côr Ystalyfera gyngerdd cyfan yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1935, lle y canodd Dai Jones fel unawdydd a chreu argraff arbennig, gyda rhai yn tybied ei fod yn denor Eidalaidd. Yn ystod yr un flwyddyn bu'n eilydd i'r tenor enwog Beniamino Gigli, ac yn rhannol trwy ddylanwad Gigli cafodd wahoddiad i ganu yn Nhŷ Opera La Scala, Milan yn 1936. Er iddo benderfynu peidio â mynd oherwydd twf ffasgaeth yn yr Eidal a'r sefyllfa ryngwladol ansicr, cafodd gyfle i deithio i Dde Affrig gyda chwmni'r 'London Follies' a chael derbyniad brwd gan ohebwyr y wasg yno. Canodd hefyd gyda'r 'Brighton Follies' ar ddarllediadau radio'r BBC rhwng 1937 ac 1940.

Dychwelodd i'r gwaith alcam yn ystod yr Ail Ryfel Byd a chafodd ei anfon i weithio yn Crewe. Ailgydiodd yn ei yrfa ganu wedi'r rhyfel, gan ymuno â Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru, a oedd newydd ei sefydlu. Canodd brif ran Turiddu gyda'r cwmni yn opera Mascagni, Cavalleria Rusticana, yng Nghaerdydd yn 1948. Yna yn 1949 newidiodd ei enw llwyfan i 'John David' a dod yn aelod o'r 'London Quartet' a reolid gan yr impresario Sandor Alexander Gorlinsky; yr aelodau eraill oedd Sheila de Haan, Dorea Raye, a'i gyd-Gymro Bruce Dargavel (1905-1985). Parhâi i ganu mewn operâu, gan ymddangos yn y brif ran yn opera Verdi Don Carlos yn Nulyn ac yn Faust Gounod yn Corc, lle cafodd ganmoliaeth frwd gan y wasg. Byddai hefyd yn ymddangos yn gyson fel unawdydd mewn perfformiadau o oratorio ac ar amrywiaeth o raglenni radio, megis Welsh Rarebit, Silver Chords a Grand Hotel. Colled yw na ddiogelwyd ei lais ar recordiadau masnachol. Yn ôl y sawl a'i clywodd roedd yn llais atseiniol a fyddai'n llanw'r neuaddau mwyaf heb gymorth meicroffon. Dywedodd Bruce Dargavel fod gan ei lais faint yr Amazon a gloywder nant fynyddig Gymreig. Mae ei yrfa amrywiol yn enghraifft dda o lwyddiant yn y byd canu heb fanteision addysg ffurfiol.

Priododd yn 1934 â Mary Phillips (g. 1912), a oedd hithau yn gantores ac yn adroddwraig lwyddiannus; ei was priodas oedd ei gyd-ganwr o Abertawe, Howell Glynne (1906-1969). Cafodd Dai a Mary un mab, Trevor, a aned yn 1936. Ymddeolodd o fyd y llwyfan ar ddiwedd yr 1950au, a dod yn geidwad y parc ym Mhontardawe. Bu farw ar 10 Rhagfyr 1978.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-03-17

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.