JONES, THOMAS PARRY ('TOM') (1935 - 2013), dyfeisydd, entrepreneur a dyngarwr

Enw: Thomas Parry Jones
Dyddiad geni: 1935
Dyddiad marw: 2013
Priod: Jean Jones (née Halliwell)
Priod: Rajkumari Jones (née Williamson)
Plentyn: Diane Jones
Plentyn: Gareth Jones
Plentyn: Sara Jones
Rhiant: Owen Thomas Jones
Rhiant: Grace Jones (née Parry)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dyfeisydd, entrepreneur a dyngarwr
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg; Diwydiant a Busnes; Dyngarwch
Awdur: Gruffydd Aled Williams

Ganwyd Tom Parry Jones ar 27 Mawrth 1935 yn Nwyran, Sir Fôn, ac fe'i magwyd yng Ngharreglefn yn yr un sir, yr hynaf o dri o blant Owen Thomas Jones (1916-1999), ffermwr, a'i wraig Grace Parry (1917-2018). Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Carreglefn ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Bu'n gweithio yn ffatri cwmni ICI yn Northwich, Sir Gaer, cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor ym 1954, lle graddiodd mewn Cemeg yn 1958. Ar ôl graddio bu'n gwneud gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Alberta yng Nghanada lle'r enillodd radd PhD mewn Cemeg Cromiwm yn 1961. Ar ôl cyfnod yn Gymrawd Ymchwil Hŷn yn y Coleg Milwrol Brenhinol Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Shrivenham, Swydd Rydychen, fe'i penodwyd yn 1963 yn Ddarlithydd mewn Cemeg Anorganaidd yng Ngholeg Technoleg Uwch Cymru (yn ddiweddarach Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST)) yng Nghaerdydd.

Pennodd Deddf Diogelwch y Ffyrdd 1967 uchafswm lefel alcohol ar gyfer gyrrwyr; drwy rym cyfraith arweiniodd hyn at brofion mesur alcohol ar y ffyrdd. Gyda'i gydweithiwr, peiriannydd o'r enw William ('Bill') Ducie, datblygodd Jones ddyfais gemegol i fesur alcohol mewn anadl yn seiliedig ar newid lliw mewn grisialau potasiwm deugromad. Yn 1967 sefydlasant gwmni - Lion Laboratories Ltd. - mewn tŷ teras yn Y Sblot, Caerdydd. Cafodd eu dyfais, yr 'Alcolyser' - a gafodd ei threialu yn ôl pob sôn gan yfwyr mewn tafarn yng Nghaerdydd - ei marchnata dramor gan fod Prydain yn defnyddio anadliedyddion o'r Almaen. Yn 1972 dechreuodd y cwmni ymchwil a arweiniodd yn 1974 at ddatblygu anadliedydd a alwyd yn 'Alcolmeter', un y gellid ei ddal mewn llaw ac a seiliwyd ar dechnoleg celloedd tanwydd. Hwn oedd yr anadliedydd cyntaf ac iddo synhwyrydd electrocemegol. Darparai ddata dibynadwy a derbyniodd sêl bendith rhyngwladol. Gadawodd Jones ei swydd yn UWIST yn 1976 i ganolbwyntio ar ei fusnes, ond parhaodd ei gyswllt â'r sefydliad drwy ariannu ymchwil a chynnig lleoedd hyfforddi ar gyfer myfyrwyr. Yn 1980 dyfarnwyd iddo Fedal y Frenhines am Gyflawniad Technolegol. Yn 1981 symudodd Lion Laboratories i adeilad a godwyd i'r diben yn y Barri. Yn 1983 derbyniwyd dadansoddi alcohol yn yr anadl fel tystiolaeth ddilys mewn llys, ac 'Intoximeter 3000' cwmni Lion, dyfais is-goch, oedd yr offeryn cyntaf i dderbyn sêl bendith y Swyddfa Gartref ar gyfer y diben hwn. Dyfarnwyd yr OBE i Jones am ei waith yn 1986. Yn 1990 gwerthodd ei gwmni i MPD, Inc., cwmni Americanaidd, a symudodd yn ôl at ei wreiddiau ym Môn gan barhau ei gysylltiad â'r cwmni fel cyfarwyddwr ac ymgynghorwr tan 1995. Bu i'w anadliedyddion ran enfawr yn y gwaith o ostwng yn sylweddol iawn ledled y byd y damweiniau ffyrdd a achoswyd gan ddiod. Yng Nghymru adlewyrchir hyn gan 'Wobr Tom Parry Jones' a ddyfernir gan Heddlu Gogledd Cymru yn flynyddol am y syniad newydd gorau o blith aelodau'r gweithlu ar gyfer gwella plismona.

Ar ôl dychwelyd i fyw yn Sir Fôn, bu Jones - a oedd yn hedfanwr brwd - yn arloesi drwy gychwyn ehediadau siartr rhwng gogledd a de Cymru, gan sefydlu Welsh Dragon Aviation Ltd. yn 1991 i hedfan teithwyr o Faes Awyr Mona ym Môn i Gaerdydd mewn awyren Cessna 340. Yn 1993 sefydlodd PPM Ltd. yng Nghaernarfon i gynhyrchu peiriannau monitro nwy, gan ddefnyddio ymhellach y dechnoleg cell tanwydd a oedd yn sail i'r anadliedydd. Gwerthwyd y cwmni i'w dîm rheoli yn 1999.

Cyfunodd Tom Parry Jones ei yrfa mewn gwyddoniaeth a busnes gyda llawer o waith dyngarol. Yr oedd yn un o sefydlwyr cangen Tredelerch (Rumney) o Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig a bu'n gwasanaethu ar Bwyllgor Gwaith Cymreig y mudiad hwnnw. Bu'n weithgar gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru gan wasanaethu fel Cadeirydd (1975-81), Trysorydd (1989-91) a Llywydd (1991-95), a bu'n Ymddiriedolwr i Ymgyrch Rhyddid Rhag Newyn y Deyrnas Gyfunol. Yn 1992, gan gyfuno ei hoffter o hedfan gyda gwaith UNICEF, cymerodd ef a John Powell, cyfaill iddo, ran yn y ras awyr gyntaf o gwmpas y byd ar gyfer awyrennau bychain. Gyda'r ddraig goch ar gynffon eu hawyren codasant £20,000 ar gyfer prosiectau dyngarol ym Mali a Bangladesh. Yn 1995, pan oedd yn drigain oed, gyda Bill Davies, Cyfarwyddwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, bu ar daith gerdded elusennol o Gaerdydd i Abergele lle cynhelid yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yr oedd Jones yn awyddus i gynorthwyo pobl ifainc, a chymerai ddiddordeb mawr yng ngwaith y Gwasanaeth Ieuenctid Rhyngwladol. Bu'n noddi cyfleoedd gwaith i ddisgyblion chweched dosbarth o Amlwch gyda'i gwmni yng Nghaerdydd. Bu'n gweithredu am bron ugain mlynedd fel Ymddiriedolwr Cynllun Addysg Peirianyddol Cymru (EESW) a anogai ddisgyblion chweched dosbarth i ymgymryd â gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth a pheirianneg; mae 'Gwobr Tom Parry Jones i Fyfyriwr y Flwyddyn' a ddyfernir yn flynyddol gan EESW yn dathlu ei gyfraniad. Fe'i hetholwyd yn Gymrawd Prifysgol Bangor yn 2005, a gwasanaethodd ar Gyngor a phwyllgorau'r sefydliad. Gwaddolodd gronfa yn y brifysgol i annog pobl ifainc i ddatblygu gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth a thechnoleg; mae'r gronfa wedi noddi Gŵyl Wyddonol Bangor yn flynyddol, Darlith Goffa Tom Parry Jones a digwyddiadau amlwg eraill.

Er ei fod yn rhyngwladol ei olygwedd, ymfalchïai Tom Parry Jones yn fawr hefyd yn ei dreftadaeth Gymreig. Yr oedd yn awyddus iawn i ddatblygu economi Cymru drwy fentergarwch ac addysg. O 1993 hyd 2000 ef oedd Cadeirydd Canolfan Arloesi Busnes Eryri. Fe'i derbyniwyd i'r Orsedd am ei wasanaeth i Gymru yn Eisteddfod Genedlaethol 1997.

Yn 1958 priododd Jean Halliwell, a bu iddynt dri o blant, Diane, Gareth a Sara; daeth y briodas i ben yn 1986. Yn 1997 priododd Rajkumari Williamson.

Bu farw Tom Parry Jones ar 11 Jonawr 2013 yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno ar ôl brwydr hir yn erbyn clefyd Parkinson. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo yng Nghapel Mawr, Porthaethwy, Môn ar 18 Ionawr ac fe'i corfflosgwyd yn Amlosgfa Bangor y diwrnod canlynol. Ceir Gardd Goffa Tom Parry Jones yn Mynwent Llawr y Dref, Llangefni lle claddwyd ei lwch a lle y'i coffeir fel dyfeisydd yr anadliedydd. Dadorchuddiwyd plac er cof amdano yng ngorsaf heddlu Llangefni yn Nhachwedd 2013. Y mae Plac Glas yn nodi safle ei ffatri gyntaf yng Nghaerdydd lle datblygodd yr anadliedydd electronig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-03-11

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.