JONES, OWEN VAUGHAN ('O.V.') (1907 - 1986), obstetregydd a gynaecolegydd

Enw: Owen Vaughan Jones
Dyddiad geni: 1907
Dyddiad marw: 1986
Priod: Gwyneth Jane (née Davies)
Plentyn: Huw Vaughan Jones
Plentyn: Luned Vaughan Jones
Rhiant: Mary Jones (née Jones)
Rhiant: John Edmund Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: obstetregydd a gynaecolegydd
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Dafydd Johnston

Ganwyd Owen Vaughan Jones yn Pengwern, Llanwnda, Gwynedd, ar 27 Rhagfyr 1907, yn ail fab i John Edmund Jones (1874-1965), ffermwr, a'i wraig Mary (ganwyd Jones, 1877-1960). Mynychodd ysgol gynradd Llanwnda ac Ysgol Sir Caernarfon, ac aeth i Brifysgol Lerpwl i astudio meddygaeth, gan raddio yn 1931. Daeth yn Gymrawd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, Caeredin yn 1934, ac wedyn penderfynodd arbenigo mewn obstetreg a gynaecoleg, gan ennill MD yn Lerpwl yn 1936 am draethawd ar sylweddau estrogenig.

Fe'i penodwyd yn Gynaecolegydd Mygedol yn Ysbyty Sir Gaernarfon a Môn ym Mangor yn 1937, a'r flwyddyn ganlynol ef oedd yr obstetregydd ymgynghorol cyntaf i'w benodi gan Gyngor Sir Caernarfon, wedi ei leoli yn Ysbyty Dewi Sant ym Mangor. Yn ddyn hawddgar a adwaenid gan bawb fel 'O.V.', aeth ati i drawsnewid gwasanaethau mamolaeth yn siroedd Caernarfon, Môn a Merionnydd, gan sefydlu cydweithio rhwng yr ysbyty, yr awdurdod lleol a meddygon teulu, gyda chlinigau cyn geni perifferol a 'charfan wib' ar gyfer argyfyngau cartref, cynllun a ddaeth yn fodel ar gyfer ardaloedd gwledig eraill. Pan gychwynnodd O. V. Jones fel ymgynghorydd, yr ardal honno oedd â'r cyfraddau marwolaethau mamau a babanod uchaf ym Mhrydain; trwy ei waith caled ei hun, ei ddawn fel trefnydd a'i arweinyddiaeth ysbrydoledig llwyddodd i ddod â nifer y marwolaethau i lawr yn unol â'r cyfartaledd Prydeinig.

Priododd Gwyneth Jane Davies (1907-1995) o Lanilar, Ceredigion, yn 1942, gan ymgartrefu yn Carreg Lwyd ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn. Ganwyd iddynt ddau o blant, Huw Vaughan (1944-2014) a Luned Vaughan (ganwyd 1949).

Parhaodd i ymchwilio yn ei faes arbenigol, gan ddarlithio'n helaeth ym Mhrydain a thramor a chyhoeddi mewn cylchgronau meddygol ar hyd ei yrfa, a bu'n aelod gweithgar o sawl cymdeithas broffesiynol, gan wasanaethu fel cadeirydd cangen gogledd-orllewin Cymru y BMA yn 1955 a llywydd Cymdeithas Obstetregol a Gynaecolegol Gogledd Lloegr yn 1972.

Ar ôl iddo ymddeol yn 1972 dyfarnwyd MA er Anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru yn 1973. Gwasanaethodd am flynyddoedd ar Lys y Brifysgol, a bu'n gadeirydd Cyngor Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor am bum mlynedd 1981-85. Cyfnod anodd oedd hwnnw yn hanes y coleg, a chydnabyddir i O. V. Jones wneud llawer i leddfu'r rhaniadau chwerw o fewn y sefydliad. Roedd yn gadarn ei gefnogaeth i'r iaith Gymraeg a'i diwylliant, yn aelod o Orsedd y Beirdd ac o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn un o is-lywyddion cychwynnol y Gymdeithas Feddygol yn 1975. Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn hanes lleol, ac yn 1984 cyhoeddodd The Progress of Medicine: A History of the Caernarfonshire and Anglesey Infirmary 1809-1948.

Bu Owen Vaughan Jones farw ar 4 Medi 1986. Amlosgwyd ei gorff yn Amlosgfa Bangor a gwasgarwyd ei lwch ar Afon Menai.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2020-12-03

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.