LLEWELYN, DESMOND WILKINSON (1914 - 1999), actor

Enw: Desmond Wilkinson Llewelyn
Dyddiad geni: 1914
Dyddiad marw: 1999
Priod: Pamela Mary Llewelyn (née Pantlin)
Plentyn: Charles Ivor Llewelyn
Plentyn: Justin Cather Llewelyn
Rhiant: Ivor Llewelyn
Rhiant: Mia Llewelyn (née Wilkinson)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: actor
Maes gweithgaredd: Perfformio
Awdur: Robert Hyde

Ganwyd Desmond Llewelyn ar 12 Medi 1914 yn Blaen-y-Pant House, Betws, Casnewydd, Sir Fynwy, plentyn hynaf Ivor Llewelyn, peiriannydd glofaol, a'i wraig Mia (g. Wilkinson). Ganwyd ei chwaer Mia Noreen yn 1918. Bu ei dad-cu Llewelyn Llewelyn yn Rheolwr Cyffredinol Cwmni Glo Ager Powell-Dyffryn ac yn Uchel Siryf Sir Fynwy o 1913.

Anfonwyd Llewelyn i ysgol breswyl baratoi Priory yn naw oed, ac wedyn rhwng deuddeg a deunaw oed i Goleg Radley, lle bu'n ymhel fwyfwy â chynyrchiadau theatr, i ddechrau y tu ôl i'r llenni ac yn y pen draw yn actio. Un o'i gyfoedion yn Radley oedd yr actor Dennis Price, a'i hanogodd i roi cynnig ar actio. Roedd yn well gan Llewelyn chwaraeon na gwaith academaidd, ac roedd yn chwaraewr rygbi da iawn, gêm y bu'n hoff iawn ohoni ar hyd ei oes.

Yn groes i ddymuniad ei dad, penderfynodd Llewelyn ar yrfa actio, a chafodd ei dderbyn i'r Royal Academy of Dramatic Art yn 1934, gan ennill Diploma Actio yn 1937. Arhosodd yn Llundain a dechrau cael gwaith ym maes cynyddol y teledu a rhannau bychain ar y llwyfan, gan weithio gyda'r Little Theatre Company ac wedyn y Forsyth Players (Matthew Forsyth). Cwrddodd â Pamela Mary Pantlin (1916-2001) trwy weithio gyda'r Forsyth Players, gan fod ei chwaer yn aelod o'r cwmni. Priodasant ym Mai 1938 yn Kensington, a chawsant ddau fab, Charles Ivor (g. 1949) a Justin Cather (1953-2012).

Ymddangosodd Llewelyn ar y sgrîn am y tro cyntaf yn 1939 yn ffilm Will Hay 'Ask a Policeman' lle mae'n chwarae coetsmon. Roedd yn ddyn tal gydag esgyrn bochau uchel, a byddai'n aml yn chwarae cymeriadau addfwyn ond gwybodus. Roedd yntau ei hun yn ddiymhongar ac addfwyn, a chyfaddefai'n fynych fod ei lwyddiant yn dipyn o syndod iddo.

Torrodd y rhyfel ar draws gyrfa actio Llewelyn yn 1939, pan gafodd gomisiwn fel is-lefftenant yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a mynd i wasanaethu yn Ffrainc. Yn 1940, bu ei uned yn ymladd yn erbyn adran Panzer gyfan am sawl diwrnod ger Lille, ond cawsant eu goresgyn wrth geisio encilio i Dunkirk, a'u dal yn garcharorion. Treuliodd Llewelyn weddill y rhyfel yng ngwersylloedd carcharorion rhyfel Laufen a Colditz, gan gael ei drosglwyddo i Colditz am ei ran yn yr ymgais i ddianc o Laufen trwy dwnelu.

Ar ôl cael ei ryddhau o Colditz yn 1945, dychwelodd Llewelyn i Lundain ac ymgartrefu gyda Pamela yn Chelsea. Cafodd waith bron yn syth a bu'n brysur iawn yn chwarae rhannau cymeriadau am weddill ei yrfa. Yn gynnar yn 1946, cafodd ran Theseus yn 'A Midsummer Night's Dream' ar gyfer y teledu gyda Syr Robert Atkins, rhan a chwaraeodd eto y flwyddyn ganlynol. Cafodd sawl rhan ar y teledu, yn enwedig fel y prif gymeriad (Mr Hyde) yn 'The Strange Case of Dr. Jekyll and Mr. Hyde', ac mewn nifer o gyfresi megis 'My Wife Jacqueline', 'Robin Hood' a 'The Invisible Man'. Yn 1950, cymerodd ran ategol ('77 Jones - cadlywydd tanciau) yn y ffilm ryfel 'They Were Not Divided' a gyfarwyddwyd gan Terence Young. Roedd hwn yn benderfyniad tyngedfennol a fyddai'n diffinio ei yrfa yn bellach ymlaen wrth i Young fynd yn gyfrifol am y gyfres o ffilmiau James Bond. Chwaraeodd Llewelyn rannau bychain mewn nifer o ffilmiau, megis 'The Lavender Hill Mob', 'Valley of Song', 'A Night To Remember', 'Sword of Sherwood Forest', a 'Cleopatra'. Symudodd y teulu i Ddwyrain Sussex yn y 1950au, gan fyw am flynyddoedd yn Whitelands, Battle, ac wedyn yn Osborn House, Bexhill on Sea.

Yn 1963 gofynnodd Terence Young i Llewelyn ddod i ddarllen am ran y swyddog cyflenwi (Quartermaster) Major Boothroyd yn 'From Russia With Love', am ei fod yn ei gofio o 'They Were Not Divided' flynyddoedd ynghynt. Er bod Ian Fleming a Young am i Llewelyn chwarae'r rhan fel Cymro, cymerodd arno yr acen Gymreig drymaf a allai er mwyn peri iddynt roi'r gorau i'r syniad, ac fe weithiodd - er bod ychydig o'i oslef naturiol yn dod i'r amlwg yn raddol yn y ffilmiau diweddarach. Chwaraeodd ran 'Q' yn y ffilmiau Bond i gyd bron tan 1999, gan ymddangos mewn mwy o ffilmiau'r gyfres nag unrhyw actor arall a chwarae gyferbyn â rhai o'r actorion gorau a welwyd erioed ar y sgrîn, gan gynnwys Syr Sean Connery, Syr Roger Moore, ei gyd-Gymro Timothy Dalton, a Pierce Brosnan.

Ni chanolbwyntiodd Llewelyn ar y ffilmiau Bond yn unig, er iddynt ddarparu'r rhan fwyaf o'i waith yn ei flynyddoedd olaf. Ymddangosodd mewn sioeau teledu a ffilmiau eraill, megis 'Chitty Chitty Bang Bang', 'Dixon of Dock Green', 'Follyfoot', a 'Merlin'. Roedd hefyd yn gyfaill i Syr Christopher Lee, a gwnaeth chwe ffilm gydag ef dros gyfnod o 25 mlynedd.

Ar 20 Tachwedd 1995, Llewelyn oedd gwrthrych 'This Is Your Life', pan ddaeth nifer o'i gydweithwyr at ei gilydd i ddathlu ei fywyd a'i waith, gan gynnwys sêr y ffilm ddiweddar 'Goldeneye', Pierce Brosnan a Famke Janssen. Cafodd ei ddal yn annisgwyl yn nerbynfa gwesty Hyde Park ar ôl diwrnod y wasg ar gyfer y ffilm. Cafwyd cyfraniad i'r rhaglen gan yr Arglwydd Peyton o Yeovil, un o gyd-garcharorion Llewelyn, a adroddodd hanes cloddio'r twnel yn y gwersyll carcharorion rhyfel. Cyfaddefodd Llewelyn yn y rhaglen, er iddo chwarae rhan swyddog cyflenwi a oedd yn enwog am ddarparu teclynnau clyfar, ei fod ef ei hun yn dipyn o dechnoffôb.

Ar 19 Rhagfyr 1999, roedd Llewelyn ar ei ffordd adref o sesiwn arwyddo llyfrau ei fywgraffiad diweddar, pan fu ei gar mewn gwrthdrawiad yn Firle yn Nwyrain Sussex. Cafodd ei hedfan i'r ysbyty, ond bu farw o'i anafiadau ychydig oriau wedyn. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa ym Mawrth 2000 yn Eglwys St Paul's yn Knightsbridge, lle rhoddwyd teyrngedau gan Syr Roger Moore a Syr Christopher Lee.

Er i Llewelyn ddod yn fydenwog am ei ran mewn dwy ar bymtheg o ffilmiau Bond, mae cyfanswm ei amser ar y sgrîn ynddynt yn llai nag awr. Serch hynny, roedd yn ffefryn mawr gyda'r ffans, a chredai llawer ei fod yn 'dwyn' y golygfeydd yr oedd ynddynt. Lluniodd Llewelyn ôl-hanes ar gyfer Q a'i gynnwys yn raddol yn y storïau wrth i'r gyfres fynd rhagddi, a maentumiodd fod Q wedi ymgartrefu yng Ngwent ar ôl ymddeol, fel dolen gyswllt â'i orffennol ei hun. O graffu'n ofalus ar ffilmiau Bond, gellir gweld bod Llewelyn yn gwisgo tei Clwb Rygbi Casnewydd a thei Clwb Criced Malpas, yn arwydd bach o'i falchder yn ei wreiddiau ei hun fel brodor o Gasnewydd a Chymro.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-01-17

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.