Ganwyd O. M. Lloyd ar 14 Chwefror 1910 ym Mlaenau Ffestiniog, yn fab i Hugh Lloyd (1874-1947), llyfrgellydd, a'i wraig Sarah Ann (g. Morgans, 1875-1952). Cyn-chwarelwr oedd Hugh Lloyd a addysgodd ei hun drwy ddarllen a chyfrannu yn niwylliant crefyddol ac eisteddfodol y cyfnod i'r fath raddau nes iddo gael ei benodi yn Llyfrgellydd Blaenau Ffestiniog a symud y teulu i fyw i adeilad y Llyfrgell. Roedd hefyd yn aelod o Orsedd y Beirdd dan yr enw Dyfrdwy. Nid rhyfedd, felly, i'r mab ddatblygu ymlyniad a chariad at lyfrau ac at lenyddiaeth, yn enwedig at farddoniaeth, gan feistroli'r cynganeddion yn ei arddegau. Roedd y teulu'n aelodau ffyddlon a gweithgar o eglwys Annibynnol Jerusalem ac ar ôl gadael Ysgol Sir Ffestiniog aeth O. M. Lloyd i Goleg Bala-Bangor i hyfforddi i fod yn weinidog. Cyfrannodd at fywyd cymdeithasol a diwylliannol Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, gan gynnwys chwaraeon, ac enillodd gadeiriau Eisteddfod Myfyrwyr Bangor a'r Eisteddfod Ryng-golegol. Tra'n fyfyriwr cyfarfu â Gwyneth Jones (1912-2000) o Lanrug a phriododd y ddau yn 1938. Ganwyd iddynt dri o blant, Gwyn, Rhys a Nest.
Yn 1935 ordeiniwyd O. M. Lloyd yn weinidog ar gapeli'r Annibynwyr yn Rhoslan a Llanystumdwy, ac yn ystod ei 44 mlynedd yn y weinidogaeth bu am gyfnodau yn Soar, Nefyn; Mynydd-bach, Abertawe; Tabernacl, Caergybi; Tabernacl ac Islawrdref, Dolgellau. Bu'n bregethwr cymeradwy iawn gan dderbyn gwahoddiadau i gynnal oedfaon ym mhob rhan o Gymru. Bu hefyd yn brysur fel darlithydd i gymdeithasau diwylliannol a dosbarthiadau nos ac fel beirniad llên ac adrodd mewn eisteddfodau. Yn ogystal roedd yn ymgyrchydd brwd dros heddychiaeth a chenedlaetholdeb Cymreig a'r Gymraeg. Yn Abertawe bu'n olygydd cylchgrawn Y Llanw ac yn Nolgellau am flynyddoedd cyfrannai golofn wythnosol i'r papur lleol Y Dydd.
Enillodd nifer o wobrau yn Adran Farddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol am sonedau, cywyddau, englynion a chyfieithiad cynganeddol o'r Lladin. Bu'n feirniad yn y Brifwyl droeon ac fe'i cofir fel Meuryn hwyliog yn Ymryson y Beirdd yn y Babell Lên. Cafodd ei urddo â'r Wisg Wen yn yr Orsedd fel Ap Dyfrdwy, ac enillodd gadeiriau yn Eisteddfod Tref Caernarfon (1937), Eisteddfod Môn (1953 a 1954), ac Eisteddfod Powys (1958).
Yn 1978, pan ymddeolodd o'i waith fel gweinidog, cyflwynodd Cymdeithas Barddas gyfrol fechan iddo o'i waith dan y teitl O Em i Em. Ac yn 1981 cyhoeddodd Cymdeithas Barddas ddetholiad o'i waith, Barddoniaeth O. M. Lloyd. Yn 1997 cyhoeddodd gwasg Y Dydd y gyfrol O Gader Idris - detholiad o'i ysgrifau a gyhoeddwyd ym mhapur Y Dydd. Mae 6 emyn o'i eiddo yn Caneuon Ffydd.
Bu farw O. M. Lloyd ar 1 Chwefror 1980 yn ysbyty Môn ac Arfon, Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-09-03
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.