MORGAN, FRANK ARTHUR 'Mandarin Morgan' (1844 - 1907), Comisiynydd Tollau Ymerodraeth Tseina

Enw: Frank Arthur Morgan
Dyddiad geni: 1844
Dyddiad marw: 1907
Priod: Winifred Dorothy Morgan (née Morgan)
Partner: Ah Soo
Plentyn: Winifred Gordon Morgan
Plentyn: Helen Morgan
Plentyn: Frank Stanley Morgan
Plentyn: Sybil Morgan
Plentyn: Robert Morgan
Rhiant: Caroline Morgan (née James)
Rhiant: Charles Morgan
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Prys Morgan

Ganwyd Frank Arthur Morgan ar 24 Chwefror 1844 yng Nghae Forgan, Llanrhidian, Bro Gwyr, yn drydydd mab Charles Morgan (1796-1857), bargyfreithiwr yn Lincoln's Inn, ffermwr a thirfeddiannwr lleol, a'i wraig Caroline, merch y Parch. John James (1772-1850) a'i wraig gyntaf Jane Gammon o Ben-maen. Roedd y Morganiaid yn fargyfreithwyr hynod lwyddiannus yn Llundain, ac yn berchen ar ystadau yn Berkshire a Buckinghamshire yn ogystal ag yn Abercothi (ger Caerfyrddin) ac ym Mro Gwyr.

Addysgwyd Morgan yn ysgol Sherborne gan Ddr Harper (wedi hynny'n Brifathro Coleg Iesu, Rhydychen), gan ddod i wybod am gyfleoedd gyrfa yn Tseina gan ei frawd hynaf Charles Edward Morgan (1836-1911), swyddog yn y 67fed Gatrawd a fu'n ymladd yn yr ail Ryfel Opiwm a chymryd rhan yn ysbeilio'r Hen Balas Haf yn Beijing yn 1860. Hwyliodd Frank i Tseina ym mis Mai 1864 ac ymgofrestru'n glerc o'r pedwerydd dosbarth yng Ngwasanaeth Tollau Ymerodraeth Tseina, ac ymroi, yn bennaf yn Shanghai, i ddysgu ieithoedd Tseina. Erbyn 1876 ef oedd yn gyfrifol am borthladd Zhenjiang ar afon Yangtze ger Nanjing, ac yna fe'i dyrchafwyd yn bennaeth porthladd Taikou ar Ynys Taiwan, gan godi erbyn 1880 yn Ddirprwy Gomisiynydd yn Beijing, ac un o'i ddyletswyddau oedd gofalu am y Cadfridog Gordon 'Chinese Gordon' (1833-1885), gwr yr oedd yn ei edmygu'n ddibendraw. Wedi gwasanaethu yn Yichang ar afon Yangtze dychwelodd i Beijing fel Ysgrifennydd Gweithredol Archwilio'r Cyfrifon. Cafodd ganiatad i fynd ar wyliau hir yn 1885 gan ddychwel i Fro Gwyr i ailadeiladu Herbert's Lodge, Llandeilo Ferwallt, ffermdy a etifeddodd gan ei ewyrth Henry John Morgan (1799-1859). Gosodwyd y ty ar rent am rai misoedd wedyn i John Brett, y tirluniwr Pre-Raphaelitaidd a'i deulu. Erbyn mis Mawrth 1887 penodwyd Morgan i ehangu masnach porthladd Kowloon, a bu'n byw yn Hong Kong am dair blynedd, gan weithio yno, fe ddywedwyd gyda 'disgleirdeb'. Yna danfonwyd ef i borthladd Zhouhai yn 1890 a 1891, cyn dychwel i'w gartref yn 1892.

Er ei fod ers blynyddoedd wedi bod (heb yn wybod i'w dylwyth gartref) yn cyd-fyw gyda merch o dras Ewrasiaidd o'r enw Ah Soo, a chael dau blentyn ganddi, Robert a Sybil Morgan, fe gafodd y tylwyth wybod ymhen hir a hwyr, a gorfu arno erbyn 1892 i ildio i bwysau ganddynt, a phriodi Winifred Dorothy Morgan (1873-1950), merch i'w gefnder Stanley Morgan o Landysul. Hwyliodd y ddeuddyn i Tseina, lle penodwyd Morgan yn 1892 i 1893 i weithio yn ninasoedd Jenchuan a Seoul yng Nghorea, a'i orchwyl hynod anodd oedd trosglwyddo Ymerodraeth Corea o ddylanwad Tseina i Siapan a oedd yn awchu creu ymerodraeth eang. Yn Seoul y ganwyd mab iddo, Frank Stanley Morgan (1893-1992). Dychwelodd o Gorea i ofalu am borthladd Jiujiang ar afon Yangtze ac yno y ganwyd dwy ferch, un yn 1895 a'r ail yn 1897. Yna fe'i penodwyd i borthladd Swatou yn y deheudir, ond erbyn 1900 roedd yn Beijing yng nghanol holl helynt 'Gwrthryfel y Bocswyr'. A bu'n rhaid iddo ddanfon ei deulu'n ol i Fro Gwyr ar frys rhag iddynt gael eu lladd gan y gwrthryfelwyr. O 1901 i 1905 bu'n gwasanaethu yn Guangzhou (Canton), yn Shantou. Gadawodd ddinas Guangzhou ym mis Rhagfyr 1902 ac nid aeth i Suzhou cyn mis Tachwedd 1903, ac erbyn hynny roedd ei briodas wedi mynd i'r gwellt, a llwyddodd i gael ysgariad oddi wrth ei wraig ar dir ei godineb. Ymfudodd ei wraig i Vancouver ac yno y priododd gyfyrder iddi, Gordon Hanson.

Ymddeolodd Morgan o'r Gwasanaeth Tollau ym mis Mai 1905 gyda gradd sifil Tseina yn y pedwerydd a'r ail ddosbarth, ac yn ogystal holl anrhydeddau Urdd y Ddraig Ddwbl gyda dosbarth cyntaf yn y drydedd reng. Yn sgil hyn rhoddodd y Brenin Edward VII urddas a blaenoriaeth marchog i Frank Morgan. Aeth adre i Herbert's Lodge i ymddeol, gan barhau i fod dan ofal ei was ffyddlon gydol oes Ma Jing Dong, ond dirywiodd ei iechyd yn enbyd a bu farw mewn clinic yn Queen Anne Street, Cavendish Square, Llundain, 11 Chwefror 1907, a chafodd ei gladdu ar ochr ogleddol mynwent y plwyf yn Llandeilo Ferwallt. Roedd wedi gwneud ei ewyllys yn 1903, ac fe'i profwyd 23 Ebrill 1907. Gwerth ei eiddo oedd £3525, ond rhoddwyd tair mil o bunnoedd yng ngofal ymddiriedolwyr i Robert a Sybil, plant Ah Soo. Penderfynodd yr ymddiriedolwyr yn Abertawe ddinistrio dyddiaduron preifat Morgan am ei fywyd yn Tseina, gan dybio eu bod yn rhy gywilyddus i'w blant eu darllen.

O ran ei bryd a gwedd, dyn byr barfog oedd Morgan, gwr eang ei ddiddordebau, yn hoff o lenyddiaeth a phrydyddiaeth, cwmnïwr diddan, parod ei groeso, yn berchen ceffylau rhasys yn Hong Kong, ac yn hwylio i fyny ac i lawr arfordir Tseina yn ei yacht, y 'Kiddie' oedd wedi'i phaentio yn lliwiau brown a glas golau lifrai'r teulu. Roedd pennaeth Gwasanaeth Tollau Tseina, Syr Robert Hart, yn uchel ei barch o 'synnwyr cyffredin a hoffusrwydd' Morgan. Pan fyddai ei deulu'n ei groesholi ar fater anfoesoldeb masnach opiwm Tseina, masnach y bu'n ei llywio am ddeugain mlynedd, byddai Morgan yn honni mai ei nod, trwy fasnachu, oedd agor drysau Tseina a'i chryfhau a'i moderneiddio fel gwlad.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2018-09-19

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.