Ganwyd Rhodri Morgan ar 29 Medi 1939 yng Nghaerdydd, yn ail fab i Thomas John ('T.J.') Morgan, darlithydd prifysgol, a'i wraig Huana (g. Rees, 1906-2005), athrawes. Ganwyd ei frawd Prys yn 1937. Roedd gan y teulu gefndir academaidd a gwleidyddol cryf. Bu tad Huana, John Rees, yn gynghorydd plwyf yn Abertawe, a chwaraeodd ei thad-cu, Thomas, ran flaenllaw ym mudiad radicalaidd y ffermwyr tenant. Ni fu T.J. yn weithredol yn wleidyddol, ond yn sgil ei gefndir academaidd adwaenai nifer o ddeallusion blaenllaw yn y mudiad Llafur - yn enwedig yr economegydd Hilary Marquand.
Magwyd Rhodri yn Radur, ardal o Gaerdydd a osgôdd gyni gwaethaf yr Ail Ryfel Byd, ond ni fu ei flynyddoedd cynnar yn rhwydd o gwbl. Yn blentyn gwanllyd, bu bron iddo farw o niwmonia yng ngaeaf 1942. Serch hynny, roedd gweddill ei blentyndod, fel y cofiodd ei frawd Prys, 'yn llawn hwyl a sbri'. Mynychodd y brodyr Morgan ysgol y cyngor yn Radur, yn wahanol i lawer o'u cyfoedion a fynychai ysgol breifat Eglwys Gadeiriol Llandaf gerllaw. Yn ysgol Radur y daeth yr arwyddion cyntaf o allu deallusol Rhodri i'r amlwg, a symudwyd ef i fyny i'r un dosbarth â'i frawd a oedd ddwy flynedd yn hŷn. Cafodd Rhodri ei addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg yr Eglwys Newydd, lle'r enillodd ysgoloriaeth agored i astudio Ieithoedd Modern yng ngholeg St Ioan, Rhydychen. Aeth y ddau frawd i'r coleg hwnnw yr un flwyddyn, ond ni chafodd Rhodri fawr ddim lles o Rydychen. Wedi ei ddadrithio gydag Ieithoedd Modern, newidiodd i Wleidyddiaeth, Athroniaeth, ac Economeg (PPE) wedi cwta ddau dymor. Roedd yn gas ganddo ffurfioldeb rhwysgfawr ac ymhongarwch y coleg, a chofiodd yn ddiweddarach iddo deimlo'n agosach at hen borthor nag at Lywydd y coleg. Serch hynny, graddiodd gydag anrhydedd ail ddosbarth - digon iddo fynd i Harvard i wneud cwrs Meistr mewn Llywodraeth.
Pan ddychwelodd o Harvard yn haf 1963 cafodd swydd gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA). Yn nes ymlaen yn yr un flwyddyn, ymunodd â'r Blaid Lafur - a thrwy'r blaid y bu iddo gwrdd â'i ddarpar wraig, Julie Edwards (g. 1944). Fe'u priodwyd ar 22 Ebrill 1967, wedi carwriaeth dair blynedd a atgyfnerthwyd gan weithredu ac ymgyrchu.
Ar ôl i Morgan adael y WEA aeth dau ddegawd heibio cyn iddo ddod yn AS. Ac eto roedd y daith yn gyflymach o lawer i gynweithwyr eraill y WEA, fel ei hen gydletywr - a darpar arweinydd Llafur - Neil Kinnock. Yr esboniad am hynny oedd awydd Morgan i wneud amser ar gyfer ei deulu cynyddol: wedi genedigaethau'r ddwy ferch, Mari a Siani, mabwysiadwyd mab, Stuart. Trwy gyfnodau fel swyddog ymchwil i lywodraeth leol a chanolog (1965-71), fel ymgynghorydd economaidd i'r Adran Fasnach (1972-74), fel swyddog datblygu diwydiannol i Gyngor Sir De Morgannwg (1974-80), ac fel pennaeth y wasg yng Nghymru i'r Comisiwn Ewropeaidd (1980-87), llwyddodd i aros yng Nghaerdydd, gan ymhel â gwleidyddiaeth yr un pryd - er fel gwas sifil diduedd.
Ond roedd atyniad gwleidyddiaeth bleidiol yn rhy gryf. Yn 1985, etholwyd Julie i Gyngor Sir De Morgannwg, a bu hynny'n sbardun i Rhodri geisio sedd seneddol. Yn y pen draw penderfynodd dargedu Gorllewin Caerdydd, sedd a gynhwysai erbyn hynny ei bentref genedigol, Radur. Yn etholiad cyffredinol 1987 enillodd y sedd oddi ar y Ceidwadwyr gyda mwyafrif o fwy na 4,000 o bleidleisiau. Buan y daeth y newyddian huawdl o Gaerdydd yn ffefryn gan y wasg. Adolygodd y Times areithiau cyntaf aelodau newydd 1987, gan osod Rhodri Morgan yn gydradd gyntaf.
Llenwyd gweddill ei flwyddyn gyntaf yn AS gan waith pwyllgor, yn aelod o Bwyllgorau Sefydlog y Mesur Tai, y Mesur Preifateiddio Dur, a'r Mesur Cyllid blynyddol. Oherwydd ei ddawn craffu cafodd le ar y tîm Ynni cysgodol.
Roedd Senedd 1992-97 yn galetach i Morgan, a oedd erbyn hynny'n isweinidog cysgodol Cymru. Roedd llewyrch yr AS newydd wedi pylu, ac yntau erbyn hynny'n ymwybodol iawn o'i berthynas bigog â rhai blaenllaw o amgylch arweinydd newydd y blaid, Tony Blair. Oherwydd hynny, ffigwr ymylol oedd Morgan yn nhrafodaethau lefel uchel y blaid am ddatganoli.
Pan enillodd Llafur ei buddugoliaeth ysgubol yn etholiad cyffredinol 1997, disgwylid i Rhodri Morgan gael swydd mainc flaen yn y Swyddfa Gymreig. Siom fawr oedd ei hepgor o fainc flaen Blair, ond rhoddodd hwb i'w yrfa, yn lleol ac yn genedlaethol. Tyrrodd ei gydaelodau seneddol yn gefn iddo, gan ei ethol yn gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC), swydd a ddefnyddiodd i beri embaras i lywodraeth Blair dros ei pherthynas â'r gŵr mawr Fformiwla Un, Bernie Ecclestone a'i defnydd o sbin. Enillodd yr ymdrechion hyn wobr 'Inquisitor of the Year' y Spectator iddo yn 1998.
Agorodd llwybr gyrfa i ffwrdd o San Steffan iddo yn sgil llwyddiant refferendwm datganoli Cymru 1997. Ac yntau wedi bod yn ddatganolwr brwd erioed, roedd Morgan yn benderfynol o arwain Llafur yn y cynulliad newydd. Yn 1998, safodd yn erbyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ron Davies, am arweinyddiaeth y blaid yng Nghymru. Davies a enillodd, ond cafodd ei danseilio gan ei 'eiliad o wallgofrwydd' drwgenwog ar Gomin Clapham. Gwysiodd Stryd Downing olynydd Davies fel Ysgrifennydd Gwladol, Alun Michael - Blairydd dibynadwy - i rwystro Rhodri Morgan. Roedd grym ariannol a gwleidyddol Millbank yn drech, a chollodd Morgan am yr eildro.
Ni allai Michael osgoi'r canfyddiad mai 'pwdl Blair' ydoedd, a bu hyn yn niweidiol i Lafur yn etholiadau cyntaf y Cynulliad yn 1999 - yn enwedig yn ei chadarnleoedd traddodiadol yng nghymoedd y De. Er i Michael lwyddo i fynd yn Brif Ysgrifennydd, bu'n bennaeth ar lywodraeth leiafrifol. Mewn ymgais i osgoi anghydfod mewnol, cynigiodd Michael y portffolio datblygu economaidd i Morgan.
Prif bwnc y dadleuon ym misoedd cyntaf y Cynulliad oedd y cwestiwn a fyddai arian newydd yn dod gan y Trysorlys i gyfateb i'r £300 miliwn ychwanegol y flwyddyn a glustnodwyd ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd gan yr Undeb Ewropeaidd - a elwir yn gyffredin yn arian Amcan Un. Oherwydd diffyg addewid am arian cyfatebol o Lundain cynigiodd y gwrthbleidiau bleidlais diffyg hyder yn erbyn Alun Michael. Ymddiswyddodd Michael cyn iddynt bleidleisio ar y cynnig.
Enwebwyd Rhodri Morgan yn unfryd gan y Cabinet fel olynydd Alun Michael. 'The job sort of fell into my lap,' meddai (Morgan, 180). Bu'n rhaid i Tony Blair ei hun dalu teyrnged i arweinydd newydd Llafur yng Nghymru. Ond ni chafwyd unrhyw orfoleddu gan y Prif Ysgrifennydd newydd. Roedd Morgan yn ymwybodol iawn o sefyllfa rifyddol wan Llafur yn y Cynulliad ac o ddrwgdybiaeth y cyhoedd o'r sefydliad newydd (Morgan, 182). Heb fawr o oedi aeth â Llafur i glymblaid gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Gwelai eu harweinydd yn y Cynulliad ar y pryd, Michael German, fod y cytundeb yn adlewyrchu'r gwirioneddau gwleidyddol hyn: 'It was important to show the people of Wales that [their] politicians could work together.'
Llwyddodd Morgan i roi terfyn ar y chwarae cyd-ddinistriol rhwng y pleidiau a oedd wedi gwneud y Cynulliad yn destun gwawd cenedlaethol, ac ar yr un pryd darbwyllwyd sylwebwyr gelyniaethus gan ymateb ei lywodraeth i lifogydd ac i haint y traed a'r genau fod pobl Cymru yn gallu ymdopi drostynt eu hunain (Carwyn Jones). Ategwyd yr argraff hon gan y newid yn nheitl swyddogol Rhodri Morgan i 'Prif Weinidog'.
Dan ei deitl newydd rhoddodd Morgan arweinyddiaeth lygatgraff yn dilyn ymosodiadau terfysgol 9/11. Ac yntau'n ymwybodol o botensial yr ymosodiadau i gorddi tensiynau ethnig a chrefyddol yng Nghymru, aeth ati'n ddi-oed i ddod ag arweinwyr yr holl gymunedau ffydd at ei gilydd mewn partneriaeth ffurfiol. Mae'r trefniant hwnnw'n parhau hyd heddiw dan yr enw Fforwm Cymunedau Ffydd.
Wrth i ddatganoli brofi ei werth mewn rheolaeth argyfwng, roedd Morgan yn awyddus i weld math gwirioneddol 'Gymreig' o hunan-lywodraeth. 'Clear Red Water' oedd y weledigaeth a fynegwyd ganddo mewn araith gyweirnod ym Mhrifysgol Abertawe yn Rhagfyr 2002 - er iddo anghofio defnyddio'r ymadrodd hwnnw ar y noson mewn gwirionedd oherwydd ei ddull idiosyncratig o areithio heb baratoi sgript ymlaen llaw. Ymwrthodai'r gred hon â phwyslais Llafur Newydd ar gystadleuaeth, gan ddadlau mai cymunedoliaeth oedd y ffordd orau o ateb anghenion demograffaidd ac economaidd arbennig Cymru. 'Mae'n golygu gwneud pethau yn y ffordd Gymreig,' honnodd Morgan.
Roedd dylanwad 'Clear Red Water' i'w weld ym maniffesto Llafur ar gyfer etholiadau'r Cynulliad 2003, gyda diddymu tâl presgriptiwn a gwrthod ffioedd dysgu ategol i'r prifysgolion ymhlith y prif addewidion. Yn sicr roedd y ddogfen yn fwy wrth fodd pleidleiswyr Cymru na'r ymgais yn 1999 a osodwyd ar y blaid gan Lundain. Yn sgil tro dau bwynt i Lafur daeth Rhodri Morgan yn ei ôl am ail dymor - y tro hwn yn bennaeth ar lywodraeth fwyafrifol.
Gwariwyd cyfalaf gwleidyddol y fuddugoliaeth etholiadol yn fuan iawn ar reolaeth y blaid dros ddiwygiadau i'r setliad datganoli a gynigiwyd gan adroddiad Comisiwn Richard ym Mawrth 2004. Argymhellodd yr adroddiad bŵerau deddfu cynradd i Gymru - ond gadawodd y cwestiwn o sut y dylid weithredu'r rhain 'i'r gwleidyddion.' Taranodd ASau Llafur gwrth-ddatganoli yn erbyn yr hyn a welent yn lleihad o'u swyddogaeth yn San Steffan. Atebodd dadleuwyr o blaid datganoli y dylid cyflwyno'r pŵerau cynradd heb refferendwm. Roedd Morgan wedi sôn cyn hynny am yr angen am ddatganoli 'organig' ac felly roedd yn weddol fodlon ar y cyfaddawd a gafwyd trwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Dan y ddeddf, rhoddai 'Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol' (LCOs) hawl i'r Cynulliad i ddrafftio mesurau, a fyddai wedyn yn mynd gerbron y Senedd. Os na fyddai gwrthwynebiad, byddai'r Cynulliad yn rhydd i ddeddfu. Ar un olwg, roedd LCOs yn gam ymlaen. Nes iddynt gael eu cyflwyno, ni allai'r Cynulliad ond pasio deddfwriaeth eilradd neu ofyn i'r Senedd basio deddf ar ei ran. Eto i gyd, roedd hawl nacáu gan San Steffan o hyd.
Daeth y ffocws hwn ar fanylion technegol y cyfansoddiad ar draul materion eraill, megis rhestrau aros gofal iechyd. Bu'r rhain yn rhan fawr o etholiadau'r Cynulliad 2007 - etholiad olaf Rhodri Morgan fel Prif Weinidog. Cyn y gystadleuaeth, ymrwymodd i sefyll i lawr 'ymhell cyn' diwedd y trydydd Cynulliad. Ysgogwyd y penderfyniad gan ei awydd i beidio mynd 'ymlaen ac ymlaen' ac i gael ymddeoliad a fyddai'n para am flynyddoedd yn hytrach na misoedd os oedd modd (Morgan, 285-98).
Ymddangosai ar y dechrau y byddai ymddeoliad Rhodri Morgan yn dod yn gynt na'r disgwyl. Collodd Llafur bedair sedd, gan agor y drws i'r hyn a elwid yn 'Glymblaid Enfys' rhwng Plaid Cymru, y Ceidwadwyr, a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Aeth y Times mor bell â chyhoeddi erthygl a honnai fod arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, ar fin cael ei benodi'n Brif Weinidog newydd.
Serch hynny, ar ôl dadlau mewnol ffyrnig cefnodd y Democratiaid Rhyddfrydol ar y Glymblaid Enfys. Gyda'i reddf wleidyddol arferol gwelodd Morgan ei gyfle, a rhwng teilchion a checru'r glymblaid fethedig, llwyddodd i gael y Cynulliad i'w gadarnhau yn Brif Weinidog llywodraeth Lafur leiafrifol. Trodd ei egni wedyn i lunio cytundeb gyda gwrthwynebwyr cenedlaetholgar Llafur, Plaid Cymru. Er mawr syndod iddo cefnogwyd y cytundeb hwn gan y mwyafrif llethol o aelodau Llafur. Dau fis ar ôl etholiad amhendant, roedd gan Gymru lywodraeth newydd - un a adlewyrchai edafedd 'coch a gwyrdd' athroniaeth wleidyddol Rhodri Morgan yn ôl ei hen gyfaill mynwesol, Mike Sullivan. Mynnai Morgan nad cuddgenedlaetholwr mohono, eithr pleidiwr brwd y tir canol a lenwyd gan ddatganoli (Morgan, 332).
Teimlai Morgan fod pwysau negodiadau'r glymblaid wedi cyfrannu at y bygythiad calon a gafodd ychydig ddyddiau ar ôl i'r negodi orffen. Cymerodd hyn fel rhybudd i beidio gweithio mor galed, collodd 30 pwys a dechreuodd gerdded. Safodd i lawr fel Prif Weinidog yn Rhagfyr 2009 ac fe'i holynwyd gan Carwyn Jones - un y byddai'n cyfeirio ato'n aml fel 'bachgen'. Ni fu fyth yn un am ôl-syllu'n fawreddog, a therfynodd ei sesiwn olaf o Gwestiynau'r Prif Weinidog trwy nodi faint yr oedd yn edrych ymlaen at dreulio mwy o amser yn ei ardd yn Llanfihangel-y-Pwll a gwylio campau chwaraeon ei wyrion.
Parhaodd Morgan yn Aelod Cynulliad tan 2011 - yn ddigon hir i weld Cymru'n pleidleisio'n bendant o blaid pŵerau deddfu cynradd. Yn ôl ei gyn-gynghorydd arbennig, Mark Drakeford, dangosai hyn fod degawd Rhodri Morgan yn ei swydd wedi cynorthwyo i drechu'r amheuaeth gychwynnol am ddatganoli. Cytuna Prys fod ei frawd wedi gweld y canlyniad yn gymeradwyaeth bersonol.
Yng ngeiriau Julie Morgan, roedd ymddeoliad Rhodri 'so full and so fulfilled.' Yn ogystal â chyfrifoldebau garddwriaethol ac fel tad-cu, gwasanaethodd yn ganghellor Prifysgol Abertawe, a byddai'n ymgyrchu'n rheolaidd dros Julie yn ei sedd Cynulliad yng Ngogledd Caerdydd.
Bu Rhodri Morgan farw o drawiad ar y galon ar 17 Mai 2017, ac fe'i clodforwyd yn syth fel 'tad y genedl'. Ac megis i danlinellu'r disgrifiad, daeth cannoedd o'r cyhoedd i wylio ei angladd - seremoni ddyneiddiol a gynhaliwyd ar 31 Mai 2017 yn y Cynulliad - gan sefyll am oriau i dalu teyrnged i'w cyn-Brif Weinidog. Yn ôl Julie Morgan byddai Rhodri mwy na thebyg wedi chwerthin am y fath ddisgrifiad - yn un peth am na fyddai byth yn cymryd fawr o sylw o'r hyn a ddywedai sylwebwyr. Ac eto mae'n anodd osgoi'r casgliad na fuasai blagur bregus datganoli wedi bwrw gwreiddiau heb eu meithrin yn ofalus gan Rhodri Morgan - ac mae cyfforddusrwydd Cymru gyda hunan-lywodraeth heddiw yn arwydd sy'n coffáu hynny'n barhaus. Yn yr ystyr honno, plant Rhodri yw pob un o ddinasyddion Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-07-20
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.