Fe wnaethoch chi chwilio am Morlais

Canlyniadau

POWELL, ANNIE (1906 - 1986), athrawes, gwleidydd lleol a maer Comiwnyddol y Rhondda

Enw: Annie Powell
Dyddiad geni: 1906
Dyddiad marw: 1986
Priod: Trevor Powell
Rhiant: Tom Thomas
Rhiant: Sarah Thomas
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: athrawes, gwleidydd lleol a maer Comiwnyddol y Rhondda
Maes gweithgaredd: Addysg; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Jean Silvan Evans

Ganwyd Annie Powell ar 8 Medi 1906 yn Ystrad, Cwm Rhondda, Morgannwg, yr hynaf o bedair merch Tom a Sarah Thomas, y ddau'n athrawon. Cymraeg oedd iaith y teulu, ac roedd capel yr Annibynwyr yn ganolbwynt i'w bywyd, ac yn ddiweddarach Neuadd Ganolog y Methodistiaid, Tonypandy. Cafodd Annie ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Pentre a Choleg Hyfforddi Morgannwg, ac aeth hithau hefyd yn athrawes.

Ar ddechrau ei gyrfa yn Nhrealaw yn ystod y Dirwasgiad, gwelodd Powell gyni ofnadwy teuluodd y glowyr di-waith, ac o ganlyniad ymunodd â'r Blaid Lafur. Ond ar ôl pwyso a mesur dadleuon ideolegol, fe'i darbwllwyd gan bwyslais Comiwnyddiaeth ar theori wleidyddol ac ar weithredu'n bwrpasol, ac yn 1938 ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol.

Roedd cryn gefnogaeth i Gomiwnyddiaeth yng Nghwm Rhondda, ac yn etholiad 1945 daeth Harry Pollitt (1890-1960), ymgeisydd Comiwnyddol dros Dwyrain Rhondda, o fewn 1,000 o bleidleisiau i'r AS Llafur W. H. Mainwaring. Ond cwta bum mlynedd wedyn yn 1950 dymchwelodd pleidlais y Comiwnyddion a chollodd Pollitt o dros 20,000 o bleidleisiau, yn sgil diwygiadau'r llywodraeth Lafur ym meysydd iechyd, y gymdeithas a diwydiant wedi'r rhyfel. Parhaodd Comiwnyddiaeth yn gryf yn yr Undebau, ond nid oedd yn rym etholiadol effeithiol bellach. Cymerodd Annie drosodd fel yr ymgeisydd Comiwnyddol dros Dwyrain Rhondda yn 1955. Er ei bod yn adnabyddus am ymgyrchu egnïol, daeth yn ail gwan i Mainwaring - ond roedd yn destun balchder iddi ei bod o flaen ymgeiswyr y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru bob tro, ac ymffrostiai na fu iddi fyth golli ei blaendal.

Mewn llywodraeth leol y cyflawnodd Annie Powell ei champau etholiadol. Ar ôl methu tair ar ddeg o weithiau, llwyddodd yn 1955 i gael ei hethol i Gyngor Bwrdeistref y Rhondda fel cynghorydd Comiwnyddol dros Penygraig. Roedd yn tynnu am ei hanner cant, felly, pan ddechreuodd ar ei gyrfa hynod ar y cyngor. Yn sgil y parch mawr iddi'n bersonol llwyddodd i wrthsefyll y rhagfarn etholiadol yn erbyn Comiwnyddion i wasanaethu fel cynghorydd dros Penygraig am bron i ddeng mlynedd ar hugain, gyda dim ond dau seibiant, nes iddi ymddeol o waith y cyngor yn 1983.

Roedd yn gynghorydd ymroddedig, a'i bryd ar ddiwygio cymdeithasol. Arweiniodd ymgyrchoedd i adeiladu tai cyngor - roedd gan y Rhondda'r enw o fod â rhai o'r tai gwaethaf yn y wlad - a chwaraeodd ran allweddol yn y stad fawr newydd yn Ninas. Ymgyrchodd dros addysg feithrin, pensiynau, gwasanaethau ysbyty - a llwyddodd i roi diwedd ar wahaniaethu hiliol mewn bar clwb lleol.

Bu'n weithgar mewn cylchoedd Comiwnyddol ehangach, ac roedd yn weithiwr llawn-amser i'r Blaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd yn aelod o bwyllgor gwaith Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr (CPGB) am ugain mlynedd, ac yn gadeirydd ar y Pwyllgor Cymreig am bum mlynedd ar hugain. Ymwelodd â Rwsia sawl gwaith a chafodd enw am beidio cytuno bob amser â pholisïau Sofietaidd. Roedd wrth ei bodd yn dweud yr hanes amdani'n gwneud argraff ar Nikita Khrushchev trwy ganu anthem genedlaethol Cymru iddo mewn cynhadledd ryngwladol ym Moscow.

Bu Annie Powell yn athro am ddeugain mlynedd, ac roedd yn weithgar yn Undeb Cenedlaethol yr Athrawon. Gwnaeth lawer o waith gyda chyrff cymunedol: bu'n is-lywydd Côr Meibion Morlais; dyfarnwyd MA er anrhydedd iddi gan y Brifysgol Agored am ei chefnogaeth i fyfyrwyr; ac fe'i gwnaed yn Henadur anrhydeddus y Rhondda pan ymddeolodd o'r cyngor. Trwy hyn oll, cafodd gefnogaeth mewn priodas hir a dedwydd gan ei gŵr a chyd-Gomiwnydd Trevor Powell (1905-2006), a fu fyw am ugain mlynedd ar ei hôl a marw'n gant oed.

Daeth gogoniant pennaf gyrfa Annie Powell yn 1979 pan etholwyd hi'n Faer y Rhondda, yr unig Gomiwnydd i gael ei hethol yn faer yng Nghymru erioed. Cafodd ei hethol gan gynghorwyr Llafur y Rhondda yn arwydd o'u parch mawr ati. Roedd yn 'nesaf yn y llinell' yn sgil ei hynafiaeth ar y cyngor, ond nid oedd rhaid i'r mwyafrif Llafur dderbyn hynny: dewis ei hethol a wnaethant. Cymerwyd y penderfyniad y flwyddyn flaenorol mewn gwirionedd, pan etholwyd hi'n Ddirprwy Faer, gan fod disgwyl i'r dirprwy olynu.

Pan ddechreuodd ar swydd y Maer, cafodd sylw mawr gan y cyfryngau fel yr unig faer o Gomiwnydd nid yn unig yng Nghymru ond trwy Brydain gyfan, a bu'n destun penawdau ar draws y byd. Pan fu farw ar 29 Awst 1986, ychydig ddyddiau cyn cyrraedd ei phedwar ugain, adroddwyd am ei marwolaeth yn y New York Times yn ogystal ag mewn papurau cenedlaethol Prydeinig. Ymhlith dros 700 o bobl a lenwodd y ddau gapel yn Amlosgfa Glyntaf ar gyfer ei hangladd, roedd cynrychiolwyr blaenllaw Llafur a Phlaid Cymru.

Mae'r honiad mai Annie Powell oedd maer Comiwnyddol cyntaf Prydain wedi cael ei gwestiynu: roedd y Comiwnydd Joe Vaughan yn faer Stepney yn 1920, ac roedd Finlay Hart yn 'provost' - safle cyfatebol - Clydebank yn yr Alban. Serch hynny, Annie oedd maer Comiwnyddol cyntaf Cymru, ac yn sicr hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn faer Comiwnyddol ym Mhrydain.

Roedd Annie Powell yn fenyw ym myd dynion, yn enw cyfarwydd ar adeg pan nad oedd ond ychydig o fenywod yn arweinwyr cymunedol neu wleidyddol - er ei bod wedi ei hethol yn faer yn yr un flwyddyn ag y daeth Margaret Thatcher yn Brif Weinidog! Mae wedi ysbrydoli llawer o ferched ers hynny ond nid oedd yn rhan o'r mudiad hawliau merched. Fel y dywedodd, dysgodd gyrraedd y brig ym myd dynion ymhell cyn rhyddhad merched. Ni welodd ei brwydr yn erbyn tlodi ac amgylchiadau byw gwael fel un ffeminyddol. Ond ni fu ganddi unrhyw amheuaeth fyth am ei hawl i sefyll a brwydro dros fywydau gwell i bobl ei chymuned.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-12-01

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.