Ganwyd Alan Rees yn Nhreforys, Abertawe, ar 1 Chwefror 1941, yn fab i John a Hilda Rees. Fe'i magwyd yn nhraddodiad y Bedyddwyr gan ei dad ac yn y traddodiad Anglicanaidd gan ei fam. Bu'n aelod o'r Eglwys yng Nghymru yn ei ieuenctid a glynodd wrth y traddodiad Eingl-Gatholig. Amlygodd ddiddordeb dwfn yn yr Eglwys Gatholig o oedran cynnar ac fe'i derbyniwyd i'r Eglwys yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Daeth agwedd bwysig arall o'i fywyd i'r amlwg yn ei blentyndod wrth iddo ddangos dawn gerddorol gan ddysgu canu'r organ.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Dynevor, Abertawe, ac yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd (Prifysgol Caerdydd bellach), lle graddiodd mewn cerddoriaeth gan fynd ymlaen i ennill diploma ôl-radd mewn addysg. Daeth yn ARCM yn 1961 ac yn ARCO yn 1964.
Ar ôl gadael y brifysgol ei fwriad oedd ymuno ag Abaty Ampleforth, ond ni allai gyflawni ei fwriad oherwydd chwalfa nerfol, ac aeth yn athro ysgol. Rhwng 1963 a 1968 bu'n gôr-feistr ac organydd yn Eglwys Gadeiriol Fetropolitan Dewi Sant, Caerdydd. Yn 1968 ymunodd ag Abaty Benedictaidd Belmont yn Henffordd. Astudiodd ddiwinyddiaeth yn Athenaeum Archesgobol Sant Anselmo yn Rhufain, ac fe'i hordeiniwyd yn offeiriad ar 29 Medi 1974. O 1982 tan 1986 bu'n feistr nofisiaid Abaty Belmont, ac yn gôr-feistr o 1972 hyd ei farwolaeth yn 2005. Bu'n aelod o Gyngor yr Abad o 1975 hyd 1986 ac yn gynrychiolydd ar Siapter Cynulleidfa Benedictiaid Lloegr yn 1977.
Yn 1986 etholwyd ef yn nawfed abad Abaty Belmont, swydd a ddaliodd hyd 1993. Nid oedd yn un a allai fwynhau swyddi o awdurdod, ac ar ôl iddo ddioddef o iselder ymddiswyddodd fel abad a derbyn teitl anrhydeddus Abad Tewkesbury. Parhaodd yn weithgar fel offeiriad yn cynnal enciliadau yn yr Abaty, a gwasanaethodd yn ogystal fel Ficer Crefyddwyr yn Archesgobaeth Caerdydd.
Cafodd ei allu fel cerddor a chyfansoddwr ei gydnabod yn rhyngwladol. Fel cyfansoddwr cerddoriaeth litwrgaidd trodd am ei ysbrydoliaeth i'r moddau Gregoraidd yn hytrach na graddfeydd cerddoriaeth fodern. Cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer yr Offeren Babol a weinyddwyd gan John Paul II yng Nghaerdydd yn 1982. Cafodd ei gyfansoddiadau gryn lwyddiant ac fe'u defnyddir gan yr Eglwys ar draws y byd. Sefydlodd Banel Cerddoriaeth Fynachaidd ynghyd â cherddorion o gyffelyb fryd gyda'r bwriad o ddatblygu cerddoriaeth fynachaidd yn sgil Ail Gyngor y Fatican. Bu hefyd yn gadeirydd Cymdeithas St. Gregory o 1981 hyd 1985. Cydnabyddiaeth arall o'i sgiliau cerddorol oedd y ffaith i'r ICEL (The International Committee for English in the Liturgy) ymofyn ei gydweithrediad.
Yn ogystal â cherddoriaeth litwrgaidd, cyhoeddodd ysgrifau ar y bywyd crefyddol a llyfr o weddïau dan y teitl Prayers from the Cloister (1996) yn seiliedig ar ei ymarfer ei hun o 'lectio divina'.
Yn ystod y cyfnod o 2002 hyd 2005 dioddefodd byliau niferus o iselder, ac er gwaethaf triniaeth bu'r pwl olaf yn farwol. Bu Alan Rees farw ar ôl cwympo o falconi ail-lawr yn Belmont ar 2 Hydref 2005.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-05-27
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.