Ganwyd Evan Roberts ar 18 Tachwedd 1923 ym Mhenygroes, sir Gaernarfon, yn fab i William Henry Roberts (1899-1974), pobydd, a Mary Jones Roberts (g. Smith, 1899-1980), golchyddes.
Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Sir Penygroes yn 1934, ac yn 1940 enillodd Fwrsariaeth y Wladwriaeth i astudio yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor, lle y graddiodd gyda dosbarth cyntaf mewn Cemeg yn 1944, gan ennill wobr ei flwyddyn. Rhoddwyd grant iddo wedyn gan yr Adran Ymchwil Wyddonol a Diwydiannol i wneud ymchwil ar nitradiad a dechreuodd ar PhD.
Roedd Evan wedi ymuno â'r Corfflu Hyfforddiant Awyr tra yn yr ysgol ac arhosodd yn aelod yn ei flwyddyn gyntaf yn y brifysgol, gan ymuno wedyn â Chadetiaid y Fyddin. Ni chafodd ei wysio am wasanaeth milwrol yn ystod y rhyfel gan fod traean o fyfyrwyr pob blwyddyn ym mynd i ddiwydiant, traean i'r lluoedd arfog, a'r traean arall yn cael aros yn y coleg. Yn y grŵp olaf yr oedd ef bob tro.
Yn 1946, rhoddodd y gorau i'w astudiaethau doethurol a dechreuodd weithio fel cemegydd organig yng nghwmni Premier Yeast yn Greenford, Middlesex. Daeth y cwmni hwn yn Peboc Limited yn y pen draw, cwmni a gynhyrchai gemegau organig, ac yn enwedig Vitamin D3, atchwanegiad bwyd hollbwysig.
Cwrddodd â'i wraig, Winifred Mary Gambold (1924-1987), nyrs o Hwlffordd, sir Benfro, yng Nghlwb Cymry Llundain. Priodasant yn Chwefror 1950, a ganwyd iddynt bedwar o blant, Gareth (g. 1952), Aled (g. 1953), Megan (g. 1955), ac Eluned (g. 1960).
Yn 1958 daeth yn Brif Gemegydd gyda Peboc, ac yn 1965 yn Gyfarwyddwr a Rheolwr Cyffredinol. Penderfynodd fod angen i'r cwmni ehangu, a dewisodd safle caeau-gwyrdd yn Llangefni, Ynys Môn. Agorodd y ffatri newydd yn 1971, gan gyflogi bron i gant o bobl, yn rhan fwyaf wedi eu recriwtio'n lleol. Gwnaeth gyfraniad canolog i ddatblygiad Vitamin D3 - ar un adeg cyflenwai Peboc 70% o anghenion y byd - ac roedd yn awdurdod blaenllaw arno. Teithiodd yn helaeth i hyrwyddo'r cwmni, a dyfarnwyd Gwobr y Frenhines am Allforio a Thechnoleg i'r cwmni yn 1980. Ymfalchïai yn y ffaith iddo ddod â'r cwmni i'w fro gysefin, gan gyfrannu'n sylweddol i'r economi leol, ac yn fwy byth iddo osgoi diswyddo neb yn ystod cyfnod cythryblus diwedd y 1970au a'r 1980au. Pan ymddeolodd Evan ym mis Tachwedd 1988, cyflogai'r cwmni 160. Parhaodd yn gyfarwyddwr anweithredol am sawl blwyddyn.
Yn 1972 ymunodd Evan â'r Clwb Rotari, ac etholwyd ef yn llywydd ei gangen leol tua 1977. Bu'n drysorydd hefyd am flynyddoedd, a daliodd i fod yn aelod prysur ar hyd ei oes. Fe'i henwyd yn 'Gymrawd Paul Harris' gan y Sefydliad Rotari Rhyngwladol "fel gwerthfawrogiad o'i gymorth sylweddol i hyrwyddo gwell dealltwriaeth a pherthynas gyfeillgar rhwng pobloedd y byd".
Yn fuan ar ôl symud i Langefni, adnewyddodd ei gyswllt ag Adran Gemeg y brifysgol (Prifysgol Bangor erbyn hyn), ac fe'i gwnaed yn Gymrawd Mygedol yn 1997. Gwaddolodd ddwy wobr, 'Medal a Gwobr Peboc' i fyfyriwr gorau'r flwyddyn olaf, a 'Gwobr Evan Roberts' i fyfyriwr gorau'r ail flwyddyn. Ar ôl ymddeol, dychwelodd i'r Adran Gemeg i ymgymryd ag amryw brosiectau ymchwil gyda dau Athro Cemeg Organig, gan wneud cyfraniad gwerthfawr a barhaodd tan ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth, pan ddirywiodd ei iechyd. Yn ystod degawd olaf ei fywyd bu'n ymchwilio i asidau mycolig, cyfrannau celloedd mycobacterol, gyda'r Athro Mark Baird, a chyhoeddwyd eu papur olaf ar y cyd ryw fis cyn ei farwolaeth. Rhoddodd yn helaeth o'i brofiad a'i synnwyr cyffredin, ac roedd yn boblogaidd iawn gyda chydweithwyr a myfyrwyr ymchwil ifainc o sawl gwlad.
Bu farw Evan Roberts o diwmorau ar yr ymennydd ar 26 Mawrth 2007. Cynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Bangor, a rhoddwyd teyrngedau iddo gan gydweithwyr o bedwar ban byd, gan sôn am ei wyleidd-dra, ei barodrwydd i rannu ei wybodaeth a chynorthwyo eraill, a'r cyfraniadau a wnaeth i'r gymuned wyddonol.
Dyddiad cyhoeddi: 2020-03-10
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.