SHEPHERD, DONALD JOHN (Don) (1927 - 2018), cricedwr

Enw: Donald John Shepherd
Dyddiad geni: 1927
Dyddiad marw: 2018
Priod: Joan Maureen (née Evans)
Plentyn: Mark Shepherd
Plentyn: Amanda Shepherd
Plentyn: Deborah Shepherd
Plentyn: Victoria Shepherd
Rhiant: Annie Lillian Shepherd (née Howell)
Rhiant: Jack Shepherd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cricedwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: D. Huw Owen

Ganwyd Don Shepherd yn Port Einon ar Benrhyn Gŵyr ar 12 Awst, 1927, yr hynaf o dri phlentyn Jack Shepherd a'i wraig Lillian (g. Howell). Symudodd y teulu wedyn i Parkmill, saith milltir yn agosach i Abertawe, ble bu ei rieni'n gyfrifol am gadw siop y teulu a ble bu Don yn cynorthwyo gyda dosbarthiad dyddiol y papurau newydd. Priododd Joan Maureen Evans yn 1953, a ganwyd iddynt dair merch: Victoria, Deborah a Amanda, ac un mab, Mark.

Wedi ei addysgu mewn ysgolion cynradd lleol enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Sirol y Bechgyn, Tre-gwyr. Yn dilyn Gwasanaeth Cenedlaethol yn Adran Awyr y Llynges a phrawf gyda Chlwb Criced Swydd Caerwrangon bu'n chwaraewr prentis i sir Morgannwg ac fe'i derbyniwyd ar staff maes Lord's ar gyfer tymor 1948.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf i ail dîm Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd Lleiaf ar ddiwedd mis Awst y flwyddyn honno ac fe'i ystyriwyd yn fowliwr cyflymaf carfan y sir. Wedi chwarae yn ystod y tymor canlynol ym mhob un o ddeg gêm yr ail dîm, ef oedd y prif gipiwr wicedi gyda 28 wiced am 29.07 rhediad y wiced. Yn 1950 daeth yn aelod rheolaidd o'r tîm cyntaf a chwaraeodd 22 o'r 28 gêm Pencampwriaeth, gan gymryd 49 wiced gyda'r perfformiad gorau o 5 am 74 rhediad, ac felly cyfrannu'n sylweddol tuag at fuddugoliaeth gyntaf erioed Morgannwg dros Middlesex.

Dyfarnwyd iddo ei gap sirol yn 1952, a chyflawnodd ei berfformiad bowlio gorau yn 1954, gan gipio naw wiced am 47 rhediad yn erbyn swydd Northampton ar Barc yr Arfau, Caerdydd. O ganlyniad i newid ei ddull bowlio, gan fowlio wedyn yn null troell chwith a chyweirwyr cyflymder-canolig, 1956 oedd ei dymor mwyaf llwyddiannus gyda 177 wiced dosbarth cyntaf ar gyfartaledd o 15.36 y wiced. Yr oedd ei gampweithiau bowlio yn cynnwys chwe wiced am bum rhediad yn erbyn swydd Nottingham yng Nghasnewydd yn 1961, ac mewn dwy gêm yn Abertawe cyfanswm o naw wiced am 93 rhediad mewn 69 pelawd yn erbyn yr Awstraliaid yn 1964 a naw am 48 yn yr ail fatiad yn erbyn Swydd Efrog yn 1965.

Yn fatiwr rhan isaf y drefn a arferai daro'r bêl yn galed, yr oedd ei sgoriau uchaf yn cynnwys 73 yn erbyn swydd Derby ar Barc yr Arfau, Caerdydd yn 1961; 66 yn erbyn Hampshire yn ei gêm dderbyn budd yn 1960; a 51 yn erbyn yr Awstraliaid yn 1961, y ddwy olaf ar faes San Helen, Abertawe. Bu'n gapten achlysurol tîm Morgannwg ac un achlysur cofiadwy oedd trechu yn 1968, dan ei gapteiniaeth, dîm Awstralia yn Abertawe. Cyflwynwyd tysteb iddo gan sir Forgannwg yn ystod y tymor hwnnw. Rhoddodd gefnogaeth teyrngar i'r capteiniaid amrywiol y bu'n chwarae iddynt, ac fe'i disgrifiwyd gan Tony Lewis, capten tîm Morgannwg a enillodd Bencampwriaeth y Siroedd yn 1969, yn gynghorydd perffaith ar y maes chwarae a hefyd yn yr ystafell newid. Yn y flwyddyn honno cyfrannodd ei 81 wiced yn sylweddol at lwyddiant y tîm yn ennill Pencampwriaeth y Siroedd, ac fe'i enwyd yn 1970 gan Wisden yn un o'u pum Chwaraewr y Flwyddyn.

Ymddeolodd yn 1972 pan oedd yn 45 mlwydd oed, wedi ymddangos 647 o weithiau i Forgannwg, y nifer uchaf erioed, a chymryd cyfanswm o 2,218 o wicedi dosbarth cyntaf am gyfartaledd o 21.00, sef y mwyaf gan unrhyw un na wnaeth ennill cap Gêm Brawf. Cymerodd 100 wiced mewn tymor 12 gwaith, y bowliwr mwyaf llwyddiannus yn hanes Morgannwg. Er gwaethaf yr ystadegau hynny, ynghyd ag awgrymiadau cyson y dylid fod wedi ei ddewis i Loegr, cyfyngwyd ei ymddangosiadau cynrychiadol i deithiau amrywiol i Ddwyrain yr Affrig, Zambia, Pacistan a'r Dwyrain Pell. Awgrymodd Richard Benaud, capten Awstralia, y byddai wedi chwarae sawl gwaith dros ei wlad petai yn Awstraliad, ac fe'i disgrifiwyd gan John Arlott, y sylwebydd radio, fel y bowliwr mwyaf effeithiol mewn criced sirol.

Yn dilyn ei ymddeoliad gweithiodd i Radio Wales y BBC fel crynhowr ar gemau Morgannwg am dros 30 mlynedd, a datblygodd yn fuan i fod yn ddarlledwr campus. Talwyd teyrnged i'w rinweddau amrywiol gan Edward Bevan, ei gydymaith yn y stiwdio ddarlledu drwy gydol y cyfnod hwn, gan gynnwys ei barodrwydd i gynnig cyngor i unrhyw gricedwr ifanc a oedd yn awyddus i ddatblygu yn y gêm. Hefyd, fe'i disgrifiwyd gan Robert Croft, bowliwr llwyddiannus arall tîm Morgannwg, a hyfforddiwyd ganddo, fel ei gynghorwr, eilun a chyfaill.

Bu farw Don Shepherd ar 18 Awst, 2018, chwe diwrnod wedi ei benblwydd yn 91 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2020-01-21

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.