SILVERTHORNE, THORA (1910 - 1999), nyrs ac undebwraig

Enw: Thora Silverthorne
Dyddiad geni: 1910
Dyddiad marw: 1999
Priod: Kenneth Sinclair-Loutit
Priod: Cameron Nares Craig
Plentyn: Christina Ruth Sinclair-Loutit
Plentyn: Tina Craig
Plentyn: Lucy Craig
Plentyn: Jonathan Craig
Rhiant: George Richard Silverthorne
Rhiant: Sarah Silverthorne (née Boyt)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: nyrs ac undebwraig
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Bryan Boots

Ganwyd Thora Silverthorne yn 170 Stryd Alma, Abertyleri, ar 25 Tachwedd 1910, yn bumed o wyth o blant George Richard Silverthorne (1880-1962), torrwr glo, a'i wraig Sarah (g. Boyt, 1882-1927). Roedd ei thad yn aelod gweithredol o Ffederasiwn Glowyr De Cymru ac yn aelod sefydlu o gangen Abertyleri o Blaid Gomiwnyddol Prydain Fawr. Daeth ei brawd iau Reginald John (1913-1961) yn ymgyrchydd undebol hefyd.

Mynychodd Thora ysgol Sul Capel Bedyddwyr Blaenau Gwent a chafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Nantyglo cyn ennill ysgoloriaeth i fynd i Ysgol Ramadeg Abertyleri. Ymunodd â Chyngrair y Comiwnyddion Ifainc adeg Streic Gyffredinol 1926, a chadeiriodd lawer o gyfarfodydd yn yr institiwt gan gynnwys rhai lle bu Arthur Horner, arweinydd y glowyr, yn annerch.

Ar ôl marwolaeth ei mam yn Awst 1927, symudodd Thora i Loegr lle gweithiodd fel mamaeth i Somerville Hastings, Aelod Seneddol Reading a hefyd sylfaenydd a llywydd y Gymdeithas Feddygol Sosialaidd. Anogwyd Thora gan Hastings i hyfforddi fel nyrs yn y Radcliffe Infirmary yn Rhydychen, lle roedd ei chwaer Olive eisoes yn nyrs hŷn. Ailymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol yn Rhydychen, gan ddod yn gyfaill oes i gomiwnyddion blaenllaw fel yr haneswyr Christopher Hill a Chris Thorneycroft. Bu'n un o dîm o staff meddygol a roddodd ymgeledd i orymdeithwyr newyn (llawer ohonynt o Gymru) ar eu ffordd trwy Rydychen. Ar ôl ymgymhwyso symudodd i swydd prif nyrs yn Ysbyty Hammersmith, Llundain, gan gydweithio â Dr. Charles Brook o'r Gymdeithas Feddygol Sosialaidd a'i wraig Iris a oedd yn nyrs.

Ar gychwyn Rhyfel Cartref Sbaen yn 1936 penderfynwyd ffurfio Pwyllgor Cymorth Meddygol Sbaen a chynigiodd Thora ei gwasanaeth. Fe'i penodwyd trwy bleidlais ddemocrataidd yn Benaethes ar yr Ysbyty Prydeinig, ysbyty bach â 36 o welyau mewn ffermdy cyntefig ger Huesca yn Aragon, lle bu'n gofalu am glwyfedigion y Frigâd Ryngwladol dan amgylchiadau heriol dros ben.

Yn ystod ei chyfnod yn Sbaen ffurfiodd Thora berthynas â Dr. Kenneth Sinclair-Loutit (1913-2003), a dychwelodd i Loegr i'w briodi yn 1937 gan ymgartrefu yn 12 Great Ormond Street yn Llundain. Ganwyd un ferch iddynt, Christina Ruth (1940-2009), ond daeth y briodas i ben trwy ysgariad a symudodd Thora i High Wycombe. Daliodd ati i godi arian ar gyfer Sbaen ac roedd ar Orsaf Victoria i groesawu'r arlunydd Picasso pan gyrhaeddodd yn Llundain. Daeth yn is-olygydd ar Nursing Illustrated, ac er mwyn gwella tâl ac amodau nyrsys cynorthwyodd i sefydlu'r undeb cyntaf, y National Association of Nurses yn 1937, er gwaethaf gwrthwynebiad yr hierarchaeth a'r sefydliad nyrsio. Trosglwyddwyd y National Association of Nurses yn y pen draw i NUPE dan arweiniad brodor arall o Abertyleri, Arthur Bryn Roberts, gŵr yr oedd Thora'n ei edmygu'n fawr.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd daeth Thora'n Ysgrifennydd Cynorthwyol y Gymdeithas Feddygol Sosialaidd, a chyfrannodd tuag at sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 1945, gan gwrdd â Clement Attlee ac Aneurin Bevan i drafod cynlluniau'r Gymdeithas.

Yn 1946 priododd Nares Craig (1917-2012) o Clitheroe, Swydd Gaerhirfryn, cyd-aelod o'r Blaid Gomiwnyddol, peiriannydd a phensaer. Roedd y briodas yn un hir a dedwydd, a ganwyd iddynt dri o blant, Tina, Lucy a Jonathan. Daeth Thora yn swyddog undeb llawn-amser i Gymdeithas Glerigol y Gwasanaeth Sifil, ac ar ôl ymddeol yn 1970 bu hi a'i gŵr yn byw am 25 mlynedd yn Lletyreos ger Llanfyllin, Powys. Aethant yn ôl i fyw yn Llundain yn 1995 a dioddefodd Thora o glefyd Alzheimer's tan ei marwolaeth.

Bu Thora Silverthorne farw ar 17 Ionawr 1999, ac fe'i claddwyd ar 25 Ionawr ym mynwent Marylebone a baner y Frigâd Ryngwladol dros ei harch.

Gosodwyd Plac Porffor i’w choffáu y tu allan i Amgueddfa Abertyleri yn 2022.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-03-15

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.