SPEED, GARY ANDREW (1969 - 2011), pêl-droediwr

Enw: Gary Andrew Speed
Dyddiad geni: 1969
Dyddiad marw: 2011
Priod: Louise Speed (née Reynolds)
Plentyn: Thomas Huw Speed
Plentyn: Edward Joseph Speed
Rhiant: Carol Speed (née Huxley)
Rhiant: Roger Speed
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pêl-droediwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Gwynfor Jones

Ganwyd Gary Speed ar 8 Medi 1969 yn yr ysbyty lleol ym Mancot, Sir y Fflint, yr ail o ddau o blant Roger Speed (ganwyd 1943) a Carol Speed (ganwyd Huxley, 1945), y ddau riant wedi eu geni yng Nghaer. Ganwyd Lesley Ann, chwaer Gary, yng Nghaer yn 1967. Buasai Roger Speed yn gweithio i Vauxhall, y cwmni cynhyrchu ceir yn Ellesmere Port, ac yna bu'n ddiffoddwr tân.

Magwyd Gary yng nghartref y teulu yn Aston Park, Queensferry, a mynychodd Ysgol Gynradd Queensferry. Wedi iddo symud i Ysgol Uwchradd Penarlâg chwaraeodd i dimau dan 13, 14, a 15 oed Sir y Fflint. Roedd Gary hefyd yn gricedwr medrus a bu'n aelod o dîm bechgyn ysgol Cymru pan oedd yn 12 a 13 oed. Cefnogai'r Gary ifanc glwb pêl-droed Everton - er mwyn bod yn wahanol i'w dad a gefnogai Lerpwl!

Pan oedd yn 15 oed ymunodd Gary â chynllun hyfforddi ieuenctid Leeds United a daeth yn chwaraewr proffesiynol ar 13 Mehefin 1988. Chwaraeodd ei gêm gyntaf yng Nghynghrair Lloegr ar 6 Mai 1989, gêm gartref ddi-sgôr yn erbyn Oldham Athletic yn yr Ail Adran. Erbyn diwedd y tymor nesaf roedd yn aelod cyson o dîm Leeds a enillodd ddyrchafiad i'r Adran Gyntaf.

Enillodd Gary y cyntaf o dri chap dros Gymru dan 21 oed yn erbyn Gwlad Pwyl ar Barc Penydarren, Merthyr Tudful, ar 19 Mai 1990, a dilynodd ei gap hŷn cyntaf drannoeth pan ymddangosodd fel eilydd wedi 75 munud yn erbyn Costa Rica ar Parc Ninian, Caerdydd. Dyna ddechrau gyrfa ryngwladol ddisglair a ddaeth i ben ar 13 Hydref 2004 wedi 85 o gemau. Rhwng 1997 a 2004 bu Gary'n gapten ar ei wlad 44 o weithiau, oedd yn record, ac fe sgoriodd saith gôl. Daeth Cymru'n agos at gyrraedd rowndiau terfynol prif gystadleuthau ddwywaith yn ystod ei yrfa ryngwladol. Gary enillodd y gic enwog o'r smotyn pan gollwyd yn erbyn Romania yn y gêm ragbrofol Cwpan y Byd 1994 ar Barc yr Arfau Caerdydd, ac ef oedd y capten pan gyrhaeddodd Cymru gemau ail gyfle Pencampwriaeth Ewrop 2004, a cholli 1-0 yn erbyn Rwsia yn Stadiwm y Mileniwm. Dwywaith roedd Gary a Chymru wedi dod o fewn un gêm i wireddu breuddwyd.

Golygai ymroddiad Gary i'r crys coch mai anaml y methai gêm, yn Ewrop, Affrica neu Dde America. Pan ymwelodd Cymru ag Unol Daleithiau America yn 2003 roedd y capten wedi ei anafu ond roedd yno i gefnogi'r garfan.

Un gêm fethodd Gary yn ystod tymor 1991-92 wrth i Leeds United ennill pencampwriaeth yr Adran Gyntaf, y tymor olaf cyn dyfodiad yr Uwch-Gynghrair. Calon y tîm a goronwyd yn bencampwyr Lloegr oedd y pedwarawd disglair yng nghanol y cae, sef Gary ar yr asgell chwith, y ddau Albanwr Gordon Strachan a Gary McAllister, a'r bachgen lleol ymosodol David Batty, a Gary oedd dewis y rheolwr Howard Wilkinson yn chwaraewr y tymor. Y fedal bencampwriaeth honno oedd yr unig un enillodd Gary ar lefel clwb.

Ar 24 Mai 1996 priododd Gary ei gariad ers dyddiau ysgol Louise Reynolds (ganwyd 1970) yn Eglwys Sant Deiniol, Penarlâg. Cawsant ddau fab, Edward Joseph (ganwyd 1997 yng Nghaer) a Thomas Huw (ganwyd 1998 yn Newcastle upon Tyne).

Ym mis Gorffennaf 1996 symudodd Gary i Everton, ffefrynnau ei fachgendod, am £3.5 miliwn. Yr un pryd symudodd o'r asgell chwith i chwarae yng nghanol y cae ac ar 16 Tachwedd 1996 sgoriodd ei unig hatric wrth i Everton guro Southampton 7-1. Gwnaed Gary yn gapten ar gyfer tymor 1997-98 gan ddilyn camre Kevin Ratcliffe oedd yn byw ar rownd bapur y Gary ifanc, ac a fu'n gapten yn ystod oes aur Everton yn y 1980au. Wedi dim ond 58 o gemau cynghrair roedd breuddwyd Gary o chwarae i Everton ar ben pan symudodd i Newcastle United ym mis Chwefror 1998 am £5.5 miliwn, yr eildro iddo fod y Cymro drutaf erioed yn hanes pêl-droed. Ni ddatgelodd Gary pam y gadawodd y clwb a garai, oherwydd, fel y dywedodd ar y pryd, byddai hynny'n niweidio enw da clwb pêl-droed Everton, a doedd e ddim yn barod i wneud hynny.

Yn ystod ei chwe mlynedd yn lliwiau enwog du a gwyn Newcastle United chwaraeodd Gary mewn dwy rownd derfynol Cwpan FA Lloegr (a cholli ddwywaith) ac yng Nghynghrair Pencampwyr UEFA. Roedd yn agos i 35 mlwydd oed pan ymunodd â Bolton Wanderers am £750,000 ym mis Gorffennaf 2004. Ym mis Rhagfyr 2006 Gary oedd y chwaraewr cyntaf i gyrraedd 500 o gemau yn Uwch-Gynghrair Lloegr.

Ar 1 Ionawr 2008 gadawodd yr haen uchaf pan symudodd i Sheffield United am £250,000.

Parhaodd i chwarae hyd 25 Tachwedd 2008 pan chwaraeodd yr olaf o'i 677 o gemau cynghrair (a sgorio 104 gôl). Roedd hefyd wedi chwarae 125 o gemau cwpan (a sgorio 31 gôl), ac wrth ychwanegu ei 85 o gemau rhyngwladol ceir cyfanswm trawiadol o 887 o gemau hyn.

Wedi dim ond tair gêm ar ddechrau tymor 2010-11 diswyddodd Sheffield United eu rheolwr Kevin Blackwell a dyrchafwyd Gary o fod yn hyfforddwr i swydd y rheolwr. Bu Gary wrth y llyw am 18 o gemau cynghrair cyn derbyn cynnig na allai ei gwrthod, sef bod yn rheolwr ei wlad. Cyhoeddwyd y penodiad ar 14 Rhagfyr 2010. Talodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru iawndal o £200,000 i Sheffield United.

Yn ystod y 10 gêm y bu Gary'n rheolwrei wlad (ennill 5, colli 5) cododd Cymru o safle rhif 117 yn rhestr detholion FIFA i rhif 45. Ar 12 Tachwedd 2011 cafodd Cymru fuddugoliaeth ysgubol 4-1 dros Norwy.

Yn gynnar fore Sul, 27 Tachwedd 2011, darganfuwyd corff Gary yn ei gartref yn Aldford Road, Huntington, Swydd Gaer, lai na 24 awr wedi iddo ymddangos ar raglen Football Focus ar deledu'r BBC. Unodd y byd pêl-droed mewn galar, a chyhoeddwyd teyrngedau a negeseuon o gydymdeimlad ledled y byd, gyda baner Cymru wedi ei gostwng ym mhencadlys corff rheoli pêl-droed FIFA yn Zurich. Cynhaliwyd angladd preifat Gary yn Eglwys Sant Deiniol, Penarlâg, ac amlosgfa Pentre Bychan ar 9 Rhagfyr 2011. Cofnododd crwner Sir Gaer, Nicholas Rheinberg, ddyfarniad naratif yn y cwest a gynhaliwyd yn Warrington ar 30 Ionawr 2012, a dywedodd na allai gasglu o'r dystiolaeth a oedd y farwolaeth yn fwriadol neu'n ddamweiniol.

Cynhaliwyd Gêm Goffa Gary Speed yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 29 Chwefror 2012 gyda Chymru'n croesawu tîm Costa Rica. Mynychwyd y gêm gan sêr di-ri o'r byd chwaraeon a chyflwynwyd nifer o gyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru i'r dorf ar yr egwyl. Arweiniwyd tîm Cymru i'r maes gan y capten Craig Bellamy a meibion Gary, Ed a Tom. Ym mhen Treganna'r stadiwm codwyd cardiau coch a ddangosai enw GARY ar gefndir y faner genedlaethol. Ar noson emosiynol nid y canlyniad (Cymru - 0, Costa Rica - 1) oedd yn bwysig ond cofio a thalu teyrnged i Gary Speed.

Gary oedd yr unig aelod o'i deulu i gael ei eni yng Nghymru ond roedd yn Gymro i'r carn fel yr eglurodd ei fam Carol ar y rhaglen deledu Pleidiol wyf i'm gwlad?, S4C, 18 Medi 2014. Dywedodd hi ei fod yn credu'n gryf y dylai'r chwaraewyr allu canu'r anthem genedlaethol ac fe wahoddodd Courtenay Hamilton, cantores glasurol a Miss Cymru ar y pryd, i ysbrydoli ei chwaraewyr. Ar 5 Awst 2011 ymwelodd Gary â'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ble y cyhoeddodd enwau'r garfan i wynebu Awstralia ar 10 Awst, y rheolwr cenedlaethol cyntaf i fynychu'r brifwyl.

Gary oedd un o'r pêl-droedwyr cyntaf i groesawu gwyddor chwaraeon, a galluogodd ei wybodaeth o faetheg, ailhydradu, cryotherapi, dadansoddi ac ioga iddo gael gyrfa hir fel chwaraewr, gyda nemor ddim anafiadau. Ar ei benodi'n rheolwr Cymru, manteisiodd Gary ar y cyfle i benodi tîm dethol o faethegwyr, tylinwyr, seicolegwyr chwaraeon a dadansoddwyr. Galluogai canlyniadau profion dyddiol gwaed, wrin o phoer y pennaeth perfformiad i ddiffinio lefel ffitrwydd personol pob chwaraewr. Dyma'r dulliau uwch-dechnoleg a oedd yn rhan o fywyd bob dydd y prif chwaraewyr yn eu clybiau. Ar ac oddi ar y cae gosododd Gary y sylfeini ar gyfer llwyddiant Cymru ym Mhencampwriaeth Ewrop UEFA, Ewro 2016.

Yn 1991 Gary oedd enillydd cyntaf gwobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn Cymru; penodwyd ef yn MBE yn 2010; ac urddwyd ef yn aelod o Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru yn 2016 ac o Oriel Anfarwolion Pêl-droed Lloegr yn 2017.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2018-07-17

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.