Ganwyd Clive Sullivan ar 9 Ebrill 1943 yn 49 Stryd Wimborne, Sblot, Caerdydd, yr ail o bedwar o blant Charles Henry Sullivan (ganwyd 1923), peiriannydd trydanol a wasanaethodd yn yr RAF, a'i wraig Dorothy (Doris) Eileen (ganwyd Boston, 1921-1991). Hanai ei dad o Jamaica, ac roedd tad ei fam yn forwr o Antigua. Mynychodd Clive Ysgol Gynradd Ffordd Moreland yn Sblot. Ymwahanodd ei rieni pan oedd yn fachgen ifanc, a symudodd ei fam ar draws Caerdydd i Drelái, lle aeth Clive i Ysgol Uwchradd Herbert Thompson. Yn sgil problemau gyda'i goesau cafodd sawl llawdriniaeth yn y cyfnod hwn, ac yn bedair ar ddeg oed fe'i rhybuddiwyd na fyddai efallai'n gallu cerdded yn iawn fyth eto.
Ar ôl gadael yr ysgol gweithiodd fel mecanig am gyfnod byr cyn ymuno â'r fyddin yn 1961. Hyfforddodd fel dyn radio yn Catterick ac ymunodd wedyn â'r Sgwadron Signalau Parasiwt yn eu gwersyll yn Hampshire, a bu ar wasanaeth gweithredol yn Ynys Cyprus gyda Llu Heddwch y Cenhedloedd Unedig. Yn ystod ei gyfnod yn Catterick dechreuodd chwarae rygbi i'r fyddin, lle daeth ei ddoniau i'r amlwg, a chafodd ei arwyddo gan glwb rygbi'r gynghrair Hull FC. Amharwyd ar ddechrau ei yrfa fel chwaraewr gan anafiadau, llawdriniaethau ar ei ben-glin a damwain car ddifrifol yn 1963, ond yn 1964 gadawodd y fyddin ac roedd yn rhydd i ymroi'n llwyr i'w yrfa rygbi. Yn yr un flwyddyn cwrddodd â Rosalyn Patricia Byron o Welton ger Hull, a phriodasant yn 1966. Ganwyd iddynt un mab, Anthony, ac un ferch, Lisa.
Chwaraeodd Clive Sullivan ar yr asgell ac roedd yn sgoriwr ceisiau toreithiog. Gyda'i gyflymdra eithriadol gallai fanteisio ar unrhyw fylchau yn amddiffyn y gwrthwynebwyr. Mewn un gêm yn erbyn Doncaster yn 1968 sgoriodd saith cais, sy'n dal i fod yn record i Hull FC.
Chwaraeodd dros Brydain Fawr am y tro cyntaf yn 1967. Yn 1972 fe'i dewiswyd yn Gapten ar y tîm, a dyna'r tro cyntaf i berson Du fod yn gapten ar dîm Prydain mewn chwaraeon o unrhyw fath. Aeth y tîm ymlaen i ennill Cwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair a gynhaliwyd yn Ffrainc lle sgoriodd Sullivan gais ym mhob un o'r pedair gêm yn y twrnamaint.
Bu Sullivan yn gapten ar dîm Rygbi'r Gynghrair Cymru hefyd. Cynrychiolodd Brydain Fawr 17 o weithiau a chymerodd ran mewn tri Chwpan Byd, yn 1968 a 1972 dros Brydain, ac yn 1975 dros Gymru. Mae ei gais ar hyd y cae yn rownd derfynol Cwpan y Byd 1972 yn erbyn Awstralia yn cael ei ystyried yn un o oreuon y gêm erioed. Ef oedd yr olaf i godi Cwpan y Byd dros Brydain Fawr gan fod y pedair gwlad wedi chwarae'n unigol ers hynny.
Chwaraeodd Sullivan, neu 'Sully' fel roedd yn cael ei adnabod, dros Hull FC ac yn ddiweddarch dros eu cystadleuwyr lleol Hull Kingston Rovers, cyn dychwelyd i Hull FC. Chwaraeodd gyfanswm o 352 gêm dros Hull FC, gan sgorio 250 o geisiau, ac ef oedd y chwaraewr cyntaf i sgorio dros 100 o geisiau i'r ddau dîm. Ar ddiwedd ei yrfa chwaraeodd hefyd dros Oldham a Doncaster. Dyfarnwyd MBE iddo yn gydnabyddiaeth am ei gampau yn 1972, a bu'n westai ar y rhaglen 'This Is Your Life' yn 1973.
Bu Clive Sullivan farw o gancr yr afu yn Ysbyty Cyffredinol Kingston yn Hull ar 8 Hydref 1985, chwe mis ar ôl iddo ymddeol o chwarae rygbi.
Dilynodd Anthony Sullivan (ganwyd 1968) ôl traed ei dad fel asgellwr, gan chwarae rygbi'r gynghrair dros Hull KR, St Helens a Chymru, a hefyd rygbi'r undeb dros Gaerdydd a Chymru.
Coffawyd Clive Sullivan yn Hull pan enwyd rhan o'r brif ffordd i mewn i'r ddinas o Bont Afon Humber (yr A63) yn Clive Sullivan Way. Ers 2001, rhoddir Tlws Coffa Clive Sullivan i enillwyr y gêm darbi rhwng Hull FC a Hull KR i gydnabod ei wasanaeth i'r ddau glwb.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-02-16
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.