THOMAS, EVAN CAMBRIA (1867 - 1930), meddyg ac arloeswr iechyd cyhoeddus

Enw: Evan Cambria Thomas
Dyddiad geni: 1867
Dyddiad marw: 1930
Priod: Margaret Eleanor Thomas (née Davies)
Plentyn: Evan Kenneth Roy Thomas
Rhiant: Evan Thomas
Rhiant: Emma Thomas (née Jones)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg ac arloeswr iechyd cyhoeddus
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Huw Thomas Davies

Ganwyd Evan Cambria Thomas ar 28 Mawrth 1867 yn Nhŷ Coch, Llanarth, Ceredigion, yr olaf o chwech o blant Capten Evan Thomas (1825-1900), morwr yn y gwasanaeth masnachol, a'i wraig Emma Jones (1824-1871), tafarnwraig y Llew Coch, Llanarth. Mynychodd Ysgol Llanarth o 1872 o dan hyfforddiant John Edward Rees (1854-1912), Athro Ysgol Ardystiedig. Derbyniwyd ef yn 1883 i astudio meddygaeth yn Ysgol Feddygol Prifysgol Caeredin, gan raddio yn 1888.

Apwyntiwyd ef yn Swyddog Iechyd Meddygol dros ardal Llanybydder gan yr Awdurdod Glendid Gwledig yn Awst 1889 ond roedd yr amodau a thelerau yn annerbyniol iddo, ac ymddiswyddodd y mis canlynol. Gweithiodd fel meddyg yn Ashbourne, Swydd Derby, cyn dychwelyd i ailgydio yn y swydd o Swyddog Iechyd Meddygol yn Llanybydder yn 1892. Priododd Margaret Eleanor Davies (1870-1956), merch y Parch. Evan Alltud Davies (1842-1910) yng Nghwmaman, Sir Gaerfyrddin yn 1893. Ganwyd un plentyn iddynt, Evan Kenneth Roy Thomas (1899-1977), a aeth ymlaen i hyfforddi fel meddyg ym Mhrifysgol Caeredin, a gweithio fel llawfeddyg offthalmolegol.

Derbyniodd Evan Cambria Thomas ei ddoethuriaeth yn 1904 yn dilyn ymchwil ar y clefyd trosglwyddadwy difftheria. Gan gyfuno ei waith fel meddyg a Swyddog Iechyd Meddygol, defnyddiodd y dulliau diweddaraf i hybu iechyd a rhwystro afiechyd. Mae cofnodion manwl o'r brechiadau a gyflawnodd wedi eu nodi mewn llyfrau sydd ar gadw yn Archifdy Ceredigion. Yn ei adroddiadau niferus i'r awdurdodau pwysleisiodd yr angen i ddiogelu dŵr glân yn y gymdogaeth a chefnogodd ddeiseb i'r un perwyl gan y plwyfolion yn 1906. Roedd yn gefnogwr brwd i'r ymgyrch i adeiladu Sanatoriwm y Ddarfodedigaeth yn Allt-y-Mynydd, Llanybydder. Fel llawer o arloeswyr blaengar, dioddefodd o rwystredigaeth gyda'r awdurdodau, a bu'n rhaid iddo orfodi'r gwarcheidwaid, arolygwyr a swyddogion y cyngor i weithredu. Cawsai brofiad personol o effeithiau afiechyd trwy drychinebau teuluol; bu farw dau o'i frodyr yn ifanc, James Thomas (1856-1859) o ddifftheria a Griffith Thomas (1858-1859) o achosion amhenodol, ei chwaer, Anne Thomas (1861-1865) o'r dwymyn goch a'i fam o afiechyd yr afu. Roedd yn llawer mwy na 'meddyg a llawfeddyg gwlad'; manteisiodd ar ei hyfforddiant, yn enwedig gyda haint difftheria, i gyfuno arsylwadau ymchwil academaidd gydag ymyrraeth gymunedol. Anogodd hyfforddiant proffesiynol ar gyfer gweithwyr meddygol cynorthwyol a datblygodd gyrsiau cymorth cyntaf. Llwyddodd i drawsnewid y gwasanaethau meddygol oedd wedi dioddef o dan ffug-feddygon ar ddechrau oes Fictoria, gan godi safonau yn yr ardal wledig yn gyfatebol i'r canolfannau dinesig. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ymgymerodd â gwaith Swyddog Iechyd Meddygol Sir Gaerfyrddin, tra roedd Dr David Arthur Hughes (1867-1936) yng Nghorfflu Meddygol y Fyddin.

Bu farw Dr Evan Cambria Thomas o glefyd y galon a gorlenwad yr ysgyfaint ym Mhantllyn, Llanybydder ar 14 Mawrth 1930, ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Luc, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-10-06

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.