Ganwyd Pendrill Varrier-Jones yn Glyn Taff House, Troedyrhiw, Merthyr Tudful, ar 24 Chwefror 1883, yn fab i Dr Charles Morgan Jones, meddyg lleol, a'i wraig Margaret Varrier (g. Jenkins). Roedd teulu ei fam yn berchen ar fusnes glofaol. (Newidiodd Pendrill ei gyfenw o Jones i Varrier-Jones yn 1929). Roedd ganddo un chwaer.
Cafodd ei addysg yng Ngholeg Epsom ac yna Coleg Wycliffe, Stonehouse. Yn 19 oed aeth i Goleg Sant Ioan, Caer-grawnt, fel 'foundation scholar', gan raddio gyda dosbarth cyntaf yn y gwyddorau naturiol yn 1905. Parhaodd ei astudiaethau yn Ysgol Feddygol St. Bartholomew's yn Llundain, gan gymhwyso'n MRCS yn 1910. Ar ôl swydd iau yn yr ysbyty yno, dychwelodd i Gaer-grawnt fel cynorthwyydd ymchwil, gan weithio ar dwbercwlosis mewn gwartheg dan gyfarwyddyd Syr German Sims Woodhead a Syr Clifford Allbutt.
Gan nad oedd yn ddigon iach ar gyfer gwasanaeth milwrol yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cymerodd swydd dros dro fel swyddog twbercwlosis i Gyngor Sir Caer-grawnt yn 1914. Sylweddolodd yn fuan fod triniaeth twbercwlosis yr adeg honno yn aneffeithiol iawn. Byddai tua dau o bob tri chlaf a gâi'r salwch y tu hwnt i'w gyfnod cyntaf yn marw o fewn pum mlynedd er gwaetha'r driniaeth. Roedd angen dull newydd.
Credai Varrier-Jones mai'r ateb oedd trefn fwy holistaidd o gefnogaeth a gofal. Aeth ati'n egnïol i ddarbwyllo pobl bryderus yn y maes meddygol a'r gymdeithas ehangach yng Nghaer-grawnt i gefnogi gwersyll twbercwlosis ym mhentref Bourne, a sefydlwyd yn Chwefror 1916 gydag un claf yn unig. Erbyn 1918, pan symudodd y gwersyll i stad Neuadd Papworth, 25 o gleifion oedd yno, ac yn y pen draw roedd dros 500. Darparai'r gwersyll ofal meddygol, llety a gweithdai. Arwyddair Varrier-Jones ar gyfer ei gleifion oedd: 'Mae gwaith yn creu gobaith a gobaith yn creu bywiogrwydd.' Credai fod twbercwlosis yn broblem i'r unigolyn, a bod diogelwch a balchder mewn hunan-gynhaliaeth trwy waith cynhyrchiol yn hanfodol i lesiant pob claf dan driniaeth. Roedd Varrier-Jones ei hun yn byw yn y gymuned, a dadleuai fod teuluoedd cleifion twbercwlosis yn gallu byw'n ddiogel gyda'r claf os oedd safonau hylendid yn uchel. Ni ddaliodd yr un o blant cleifion y gymuned dwbercwlosis, ac felly profwyd bod ei farn yn gywir.
Cafodd ei waith sylw eang, a daeth gweithwyr twbercwlosis o bob rhan o'r byd i ymweld â'i wersyll. Cynorthwyodd i sefydlu cymunedau eraill, gan gynnwys rhai yn Preston Hall ar gyfer y Lleng Brydeinig, Canolfan Bentref Enham yn Hampshire, ac Anheddfa Peamount yn Nulyn. Yn 1932 gwnaeth yr Undeb Rhyngwladol yn erbyn Twbercwlosis Varrier-Jones yn llywydd ei is-bwyllgor dros therapi gwaith a gofal pellach. Fe'i hetholwyd yn Aelod o Goleg Brenhinol y Ffisigwyr yn 1929, ac yn Gymrawd yn 1934. Yn 1931 cafodd ei urddo'n farchog.
Daliodd Pendrill Varrier-Jones ati i weithio'n hynod egnïol tan ei farwolaeth sydyn o drawiad ar y galon yn Neuadd Papworth ar 30 Ionawr 1941. Parhaodd y gwaith ar ôl ei farwolaeth, ond wrth i driniaeth twbercwlosis gael ei gweddnewid, datblygodd ysbyty ar safle'r gymuned, sef Ysbyty Brenhinol Papworth heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-04-20
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.