WARNER, MARY WYNNE (1932 - 1998), mathemategydd

Enw: Mary Wynne Warner
Dyddiad geni: 1932
Dyddiad marw: 1998
Priod: Gerald Warner
Plentyn: Sian Warner
Plentyn: Jonathan Warner
Plentyn: Rachel Warner
Rhiant: Esther Davies (née Jones)
Rhiant: Sydney Davies
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: mathemategydd
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg; Addysg
Awdur: Gareth Ffowc Roberts

Ganwyd Mary Warner yng Nghaerfyrddin ar 22 Mehefin 1932, yr hynaf o ddwy ferch Sydney Davies (1901-1978), athro mathemateg a ddaeth yn brifathro yn ddiweddarach, a'i wraig Esther (g. Jones, 1899-1982).

Cafodd Mary ei haddysg gynradd yng Nghaerfyrddin cyn i'r teulu symud i Lanymddyfri a hithau i'r ysgol ramadeg yno, a symud wedyn i fyw i Dreffynnon gan astudio Lefel A yn Ysgol Howell, Dinbych. Disgleiriodd yn ei gwaith ar fathemateg ac enillodd ysgoloriaeth i Goleg Somerville, Rhydychen. Derbyniodd ei gradd yno yn 1951 ac aeth ymlaen i gychwyn ar waith ymchwil mewn mathemateg. Yn Rhydychen cyfarfu Gerald (Gerry) Warner a oedd yn astudio hanes yng Ngholeg San Pedr.

Yn fuan wedi iddynt briodi yn 1956 penodwyd Gerry Warner, a oedd erbyn hynny'n gweithio yng Ngwasanaeth Cudd-ymchwil y llywodraeth, i swydd yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Beijing. Er bod Mary yn edrych ymlaen at gychwyn ei dyletswyddau fel gwraig i ddiplomydd roedd hi hefyd yn awyddus i barhau gyda'i gwaith mewn mathemateg ac roedd hi'n lwcus bod un o'i chyd-ymchwilwyr yn Rhydychen, Chang Su-chen, wedi dychwelyd i Brifysgol Beijing a bod cyfle i'r ddau gyfarfod i drafod eu gwaith. Hwn oedd cyfnod Cam Mawr Ymlaen Mao Zedong, Cadeirydd y Blaid Gomiwnyddol yn Tsieina, a chymylau'r Chwyldro Diwylliannol yn dechrau cronni. Dioddefodd llawer o academyddion, gan gynnwys Chang Su-chen, o effeithiau'r cyfnod. Ar ei ymweliad olaf â fflat Mary a Gerry mae'n debyg iddo guddio y tu ôl i soffa, gan gymaint ei ofn y byddai'n cael ei ddal gan yr heddlu cudd, a sibrwd na fyddai'n gallu ymweld â hi eto.

Yn 1960 penodwyd Gerry Warner fel diplomydd yn Burma (Myanmar erbyn hyn) a byw yn y brifddinas, Rangoon. Yno, hefyd, roedd Mary yn awyddus i barhau gyda'i gwaith mewn mathemateg a gwnaeth gais am swydd ym Mhrifysgol Rangoon. Doedd awdurdodau'r Llysgenhadaeth Brydeinig ddim yn caniatáu hynny ar y cychwyn: swyddogaeth gwragedd oedd cynorthwyo'u gwŷr, a dim mwy. Gyda chefnogaeth Gerry, safodd Mary ei thir, a phlygwyd y rheolau. O ganlyniad, roedd hi'n ddarlithydd yn y brifysgol wrth i Burma symud at fod yn unbennaeth, a Mary oedd yr unig un o'r Gorllewin i fod yn dyst i saethu myfyrwyr, ac i ymdrechion y fyddin i guddio hynny.

Yn 1964, symudwyd Gerry Warner i'r llysgenhadaeth yn Warsaw, Gwlad Pwyl, a chofrestrodd Mary i astudio ar gyfer gradd doethuriaeth yno. Erbyn iddi gwblhau ei thraethawd ymchwil roedd Gerry wedi cael ei symud i lysgenhadaeth y Swistir yn Genefa, a dychwelodd Mary i Warsaw i dderbyn ei doethuriaeth gan Academi Gwyddorau Gwlad Pwyl. Dan oruchwyliaeth yr Undeb Sofietaidd, yr oedd Gwlad Pwyl yn rhan ohono, un o'r rheolau oedd bod angen i fyfyrwyr sefyll arholiad mewn theorïau Marx-Lenin er mwyn bod yn gymwys i dderbyn eu graddau. Llwyddwyd i osgoi'r amod hwnnw a Mary oedd y wraig i ddiplomydd gyntaf i ennill doethuriaeth dramor, gan agor y drws i eraill ei dilyn.

Ni chollodd Mary Warner ei Chymreictod na'i Chymraeg, er iddi dreulio blynyddoedd yn teithio'r byd. Roedd yn siarad yn blaen gyda ffraethineb miniog, ond ceisiodd reoli ei hemosiynau mewn cwmni rhag ofn iddi achosi embaras proffesiynol i'w gŵr. Fodd bynnag, ar un achlysur aeth dros ben llestri ar ganol cinio i ddiplomyddion a drefnwyd ganddynt yn ystod eu cyfnod yn y Swistir. Roeddynt mewn bwyty yng Ngenefa a oedd yn enwog am ei tartes à la crème. Dechreuodd un o'r gwesteion gael hwyl ar ben barddoniaeth Gymraeg, gan wylltio Mary Warner. Fiw iddi daro'n ôl yn uniongyrchol a phenderfynodd daflu un o gacennau hufennog y gwesty at ei gŵr druan. Doedd dim rheswm dros wneud hynny ond llwyddodd i ddod â'r sgwrs i ben.

Yn dilyn cyfnodau yn ôl yn Llundain, manteisiodd ar y cyfle i ddarlithio mewn mathemateg yn City, Prifysgol Llundain, lle y sefydlodd gwrs MSc a chael ei dyrchafu'n Ddarllenydd yn 1983. Ond cyn hir penodwyd Gerry Warner i weithio yn y llysgenhadaeth ym Maleisia, a symudodd y ddau i Kuala Lumpur. Gwnaeth gysylltiadau gyda mathemategwyr lleol yno a hi oedd yr unig berson i gael ei phenodi fel darlithydd i fyfyrwyr prifysgol Maleisia yn ogystal â phrifysgol Tsieina yn Kuala Lumpur.

Ar ymddeoliad Gerry Warner, ac yntau wedi'i ddyrchafu'n farchog am ei wasanaeth yn MI6, symudodd y ddau yn ôl i Brydain yn 1991 a phenodwyd Mary Warner i Gadair mewn mathemateg yn City gan barhau i gyhoeddi'n helaeth hyd at ei hymddeoliad yn 1996 ac wedi hynny. Rhoddodd gryn bwysigrwydd hefyd ar ei gwaith darlithio yn y brifysgol yn ogystal â bod yn diwtor i fyfyrwyr ymchwil, gan gynnwys nifer o dramor, ac enillodd barch ac edmygedd eang.

Roedd Mary Warner hefyd yn fam i dri o blant, y tri wedi eu geni dramor. Er i'r tri lwyddo yn eu gyrfaoedd, dioddefodd dau ohonynt o salwch meddwl. Tynged y ddau, Sian a Jonathan, oedd lladd eu hunain o fewn ychydig flynyddoedd i'w gilydd, a hynny'n ergyd fawr iawn i'r teulu. Dywedir bod Mary wedi troi fwyfwy at ei gwaith academaidd yn rhannol fel ffordd o geisio rhoi'r trasiedïau hyn i gefn ei meddwl.

Ni phallodd creadigrwydd mathemategol Mary Warner ac, yn wahanol i'r patrwm mwy arferol ymhlith mathemategwyr, cyflawnodd ei gwaith gorau yn ystod ei blynyddoedd olaf. Nod Mary Warner yn ei mathemateg oedd manylu ar anfanyldeb, sef, yn ei geiriau hi ei hun, 'to make precise the property of imprecision'. Gwnaeth gyfraniad sylweddol i'r maes hwnnw, a ddatblygodd yn gangen bwysig o fathemateg dan y teitl eang 'mathemateg amhendant' (fuzzy mathematics). Mae'r syniadau sydd wedi dilyn o ymchwil yn y maes yn cael eu defnyddio i ddatrys problemau ymarferol mewn meysydd sydd, yn eu hanfod, yn ymwneud ag amhendantrwydd, problemau fel rhag-weld diffygion mewn adweithyddion niwclear a rhag-weld daeargrynfeydd.

Wedi iddi ymddeol o City, a'i hiechyd wedi torri ryw ychydig, parhaodd i weithio ar ei mathemateg gan fynychu cynadleddau ar draws y byd. Blwyddyn cyn ei marwolaeth roedd Mary Warner yn gweithio ar bapur i'w chyflwyno mewn cynhadledd i fathemategwyr yn Oslo ac roedd yn bwriadu treulio chwe mis yn Brasil fel athro gwadd. Ond torrwyd ar ei chynlluniau a bu farw'n dawel yn ei chwsg ar 1 Ebrill 1998, yn 65 mlwydd oed, wrth ymweld â ffrindiau yn Sbaen. Fe'i claddwyd ym mynwent eglwys Kennerton, Swydd Gaerloyw, wrth ymyl ei rhieni a dau o'i phlant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2020-08-21

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.