Erthygl a archifwyd

WHEELER, y Fonesig OLIVE ANNIE (1886 - 1963), seicolegydd ac addysgydd

Enw: Olive Annie Wheeler
Dyddiad geni: 1886
Dyddiad marw: 1963
Rhiant: Henry Burford Wheeler
Rhiant: Annie Wheeler (née Poole)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: seicolegydd ac addysgydd
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg; Meddygaeth; Addysg
Awdur: Beth R. Jenkins

Ganwyd Olive Wheeler yn Aberhonddu ar 4 Mai 1886, merch iau Annie Wheeler (g. Poole) a'i gŵr Henry Burford Wheeler, argraffwr a chyhoeddwr. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Sir y Merched, Aberhonddu, ac ymgofrestrodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1904. Graddiodd gyda BSc mewn cemeg yn 1907, a Thystysgrif Addysg Prifysgol Cymru yn 1908, ac MSc yn 1911. Cwblhaodd DSc mewn seicoleg yn Bedford College, Llundain, yn 1916 ac astudiodd am gyfnod byr ym Mhrifysgol Paris.

Bu Wheeler yn athrawes yn Ysgol Uwchradd Chesterfield, cyn darlithio yng Ngholeg Hyfforddi St George's, Caeredin ac mewn gwyddor meddwl a moeseg yn Cheltenham Ladies' College. Yn 1918 fe'i penodwyd yn Ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Manceinion, lle y gwasanaethodd fel Deon Addysg rhwng 1923 a 1925. Yn 1925, Wheeler oedd y drydedd ferch i'w phenodi i'r Gadair Addysg (Merched) yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy yng Nghaerdydd. Pan gyfunwyd yr adrannau hyfforddi athrawon gwryw a benyw yn 1932, daeth Wheeler yn bennaeth ar yr Adran Addysg yng Nghaerdydd. Gwasanaethodd hefyd fel Deon y Gyfadran Addysg rhwng 1948 a 1951. Ar ôl ymddeol yn 1951, bu'n athro emeritws Prifysgol Cymru.

Bu Wheeler yn weithgar ym mywyd deallusol, gweinyddol a chymdeithasol Prifysgol Cymru trwy gydol ei gyrfa. Yn ystod ei chyfnod fel myfyrwraig yn Aberystwyth gwasanaethodd yn llywydd Cyngor Adrannol y Merched (1907-08) ac yn llywydd Cyngor Cynrychiolwyr y Myfyrwyr. Daeth i'r amlwg yn sgil y rôl flaenllaw a chwaraeodd yn yr helynt a elwid yn Wrthryfel Neuadd Alexandra yn 1907, pan gyflwynodd carfan o fyfyrwragedd restr o gwynion i'r Senedd am y bwyd a'r gwasanaeth yn y neuadd ac am ymddygiad y Warden. Arweiniodd hyn at ymchwiliad allanol ac ymddiswyddiad y Warden y flwyddyn ganlynol. Ar ôl graddio, bu Wheeler yn llywydd ac yn is-lywydd Cymdeithas Cyn-fyfywyr Aberystwyth, ac yn aelod o Lys Llywodraethwyr y brifysgol. Yn ddiweddarach gwasanaethodd ar Gyd-Bwyllgor Addysg Cymru, ac ar Gyngor Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru.

Roedd ymchwil ryngddisgyblaethol Wheeler yn arloesol, gan gymhwyso seicoleg i bolisi ac ymarfer addysgol. Rhoddai bwyslais arbennig ar blentyndod cynnar mewn datblygiad seicolegol a phleidiai hyfforddiant mewn seicoleg plant ar gyfer rhieni ac athrawon. Yn ystod ei chyfnod fel Deon y Gyfadran Addysg datblygodd gyswllt agosach rhwng y colegau hyfforddi athrawon a'r prifysgolion, gan sefydlu Cymdeithas Addysgol Caerdydd a'r Cylch a chanolfan golegol ar Heol yr Eglwys Gadeiriol lle gallai athrawon lleol ddatblygu sgiliau ar gyfer ymchwil mewn ysgolion. Gwnaeth ymchwil hefyd ar effaith addysgol dwyieithrwydd yn ysgolion Cymru, ac ar ergyd seicolegol diweithdra. Siaradai mewn cynadleddau iechyd meddwl a dadleuai fod gwahanu'r rhywiau mewn ysgolion yn niweidiol i ddatblygiad iechyd emosiynol. Yn unol â'i diddordebau ymchwil, roedd Wheeler hefyd yn gefnogol i'r mudiad addysg feithrin: bu'n gadeirydd ar Gymdeithas Ysgolion Meithrin Caerdydd a'r Cylch, ac yn ddiweddarach ar bwyllgor Cymru yn yr ymgyrch i godi arian ar gyfer cofeb i Margaret McMillan (1860-1931), arloeswraig ysgolion meithrin.

Roedd Wheeler yn bleidiol iawn i hawliau merched. Yn 1922, safodd fel ymgeisydd seneddol dros sedd Prifysgol Cymru, yn un o 33 o ymgeiswyr benywaidd yn yr etholiad cyffredinol hwnnw. Gan ddilyn esiampl ei rhagflaenydd academaidd yng Ngholeg y Brifysgol, yr Athro Millicent Mackenzie (1863-1942), safodd Wheeler hithau yn aflwyddiannus fel ymgeisydd Llafur. Er i Wheeler fethu, bu bron iddi ddyblu'r bleidlais Lafur ym Mhrifysgol Cymru gan ennill 309 o bleidleisiau yn erbyn 497 i ymgeisydd buddugol y Rhyddfrydwyr, Thomas Arthur Lewis. Chwaraeodd Wheeler ran flaenllaw yn niwylliant cysylltiadol merched yng Nghaerdydd: roedd yn aelod gweithgar o ganghennau'r ddinas o Gyfundeb Merched Prifysgolion Prydain (is-lywydd) a Chymdeithas y Dinasyddion Benywaidd. Roedd ganddi gysylltiadau helaeth â phrifathrawesau ysgolion merched lleol a siaradai'n gyson mewn seremonïau gwobrwyo. Roedd hefyd yn aelod o gangen Cymru o'r Gymdeithas Athrawon Gwyddoniaeth, yn Aelod Gweithredol o Gymdeithas Clybiau Merched De Cymru, ac yn ymgynghorydd rhanbarthol i Wasanaeth Gwirfoddol Merched De Cymru.

Roedd rhwydweithiau academaidd a chymdeithasol Wheeler yn drawiadol, a byddai'n darlithio'n gyhoeddus ac yn annerch cymdeithasau lleol ar draws de Cymru yn gyson. Gwasanaethodd ar y Cyngor Addysg Ymgynghorol Canolog (Cymru), fe'i hetholwyd yn gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Cymru dros Ddiweithdra Ieuenctid yn 1947 ac roedd yn gadeirydd Adran De Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr. Cynrychiolai Gymru ar Gyngor Ymgynghorol Cyffredinol y BBC, ac roedd hefyd yn Gymrawd o Gymdeithas Seicoleg Prydain.

Gweithiodd yn ddiflino trwy gydol ei bywyd dros achosion a berthynai'n arbennig i addysg, plant a merched. Cydnabuwyd ei gwasanaeth i addysg yng Nghymru yn ffurfiol pan urddwyd hi yn DBE yn 1949. Yn ystod ei hymddeoliad, aeth ar daith ddarlithio yng Nghanada a chynrychiolodd Brydain yn y Gyngres Seicoleg Ryngwladol ym Montreal yn 1954.

Bu Olive Wheeler farw'n ddisymwth yn y Kardomah Café yng Nghaerdydd ar 26 Medi 1963. Gadawodd ei llyfrau a £500 ar gyfer gwobr flynyddol i fyfyrwyr addysg yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd, a £250 yr un i Adran De Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr ac i Eglwys Bresbyteraidd Park End, Caerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-05-05

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd Frig y dudalen

WHEELER, Dâm OLIVE ANNIE (1886 - 1963), Athro addysg

Enw: Olive Annie Wheeler
Dyddiad geni: 1886
Dyddiad marw: 1963
Rhiant: Henry Burford Wheeler
Rhiant: Annie Wheeler (née Poole)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: Athro addysg
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd yn 1886, yn ferch i Henry Burford Wheeler, Aberhonddu, Brycheiniog. Addysgwyd hi yn ysgol sir y merched, Aberhonddu, a Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle bu'n llywydd y myfyrwyr. Graddiodd yn B.Sc. (1907) a M.Sc. (1911), ac etholwyd hi'n Gymrawd Prifysgol Cymru. Aeth yn fyfyriwr ymchwil i Goleg Bedford, Llundain, ac i Brifysgol Paris, a chafodd D.Sc. Prifysgol Llundain (1916) mewn seicoleg. Penodwyd hi'n ddarlithydd yng ngwyddor meddwl a moeseg yn Cheltenham Ladies' College, yna aeth yn ddarlithydd addysg ym Mhrifysgol Manceinion, lle gwasanaethodd hefyd fel deon y Gyfadran Addysg, cyn symud i Goleg y Brifysgol, Caerdydd. Yn 1925 daeth yn Athro addysg yno, a bu am gyfnod yn ddeon Cyfadran Addysg y coleg. Cymerai ddiddordeb arbennig yn y defnydd o seicoleg mewn dulliau dysgu. Ar ôl gweithio llawer ymhlith grwpiau ieuenctid a chymdeithasau myfyrwyr daeth yn gadeirydd Cyngor Ymgynghorol Cymru ar Gyflogi Ieuenctid yn 1947, a chadeirydd Adran De Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr. Gwasanaethodd ar lawer o bwyllgorau a chynghorau ac urddwyd hi yn D.B.E. yn 1950 am ei gwasanaeth i addysg. Dair blynedd ar ôl ymddeol yn 1951 aeth ar daith ddarlithio yng Nghanada. Yr oedd ei chyfraniad i ddamcaniaethau addysg yn hysbys mewn llawer rhan o'r byd trwy ei chyhoeddiadau niferus, sy'n cynnwys: Anthropomorphism and science (1916), Bergson and education (1922), Youth (1929), Creative education and the future (1936), ' The mind of the child ' yn Nursery school education (G. Owen, gol., 1939), The adventure of youth (1945), rhan III o Mental health and education (1961); a phapurau mewn cylchgronau seicoleg ac addysg. Ymgartrefodd yn Woodlands, Heol Betws-y-coed, Cyncoed, Caerdydd, a bu farw yn ddisymwth, 26 Medi 1963.

Awdur

  • Dr Mary Auronwy James

    Ffynonellau

  • Debrett's Peerage, Baronetage, Knightage, and Companionage
  • Who was who?
  • Western Mail, 28 Medi 1963

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.