WILLIAMS, RAYMOND HENRY (1921 - 1988), darlithydd, llenor a beirniad diwylliannol

Enw: Raymond Henry Williams
Dyddiad geni: 1921
Dyddiad marw: 1988
Priod: Joyce Mary Williams (née Dalling)
Plentyn: Ederyn Williams
Plentyn: Madawc Williams
Plentyn: Merryn Williams
Rhiant: Henry Joseph Williams
Rhiant: Esther Gwendoline Williams (née Bird)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: darlithydd, llenor a beirniad diwylliannol
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Addysg; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Daniel G. Williams

Ganwyd Raymond Williams ar 31 Awst 1921 yn y Pandy ger y Fenni, Sir Fynwy, yn unig blentyn i Henry Joseph Williams, signalydd rheilffordd, a'i wraig Esther Gwendoline (g. Bird). Mae ei fagwraeth a bywydau ei rieni yn cael eu cyfleu yn ei nofel gyntaf, Border Country (1960), lle ceir sylw penodol i'r Streic Gyffredinol a'r Cau Allan yn 1926, yn enwedig eu heffeithiau ar gymuned wledig fel yr un y magwyd ef ynddi, a'u dylanwad ar natur gwleidyddiaeth ddosbarth gweithiol yn y cyfnod wedi'r rhyfel. Gelwir y cymeriad canolog yn Will gan ei rieni, er mai Matthew yw'r enw ar ei dystysgrif geni. Fel Matthew y mae'n cael ei adnabod yn ei fywyd fel academydd yn Lloegr hefyd, a hyn yn adlewyrchu profiad Raymond Williams ei hun a adwaenid fel 'Jim' yn ystod ei fagwraeth ar y ffin.

Ar ôl cael ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Brenin Harri'r VIII yn y Fenni, aeth Jim/Raymond, fel Will/Matthew yn Border Country, i astudio Saesneg yng Nghaer-grawnt yn 1939 wedi iddo ennill ysgoloriaeth wladol. Torrwyd ar draws ei gyfnod yng Ngholeg y Drindod gan yr alwad i fynd i ryfel yn 1941. Fe'i comisiynwyd yn 1942 ac ymladdodd â chatrawd gwrth-danciau Rhif 21 yn ymgyrch Normandi ac ymlaen trwy Wlad Belg a'r Iseldiroedd i'r Almaen. Fe'i dyrchafwyd i reng Capten, ac mae'r profiadau hyn yn sail i'r golygfeydd rhyfel yn ei bumed nofel, Loyalties (1985). Cyfrannodd y ffaith iddo ymladd yn erbyn ffasgaeth at ei awdurdod diweddarach fel deallusyn y Chwith Newydd, gan wahaniaethu ei genhedlaeth ef (a gynhwysai E. P. Thompson, Richard Hoggart a Gwyn A. Williams) oddi wrth y Chwith Newydd 'newydd' a ddaeth i'r amlwg yn yr 1960au (Perry Anderson, Tom Nairn, Terry Eagleton ac eraill) a fu'n feirniadol o'r genhedlaeth gynharach am eu 'dyneiddiaeth' a'u dibyniaeth ar 'brofiad' yn hytrach na theori fel sail ar gyfer eu dadansoddiadau.

Yn ystod blynyddoedd y rhyfel fe briododd â Joyce (Joy) Mary Dalling (bu farw 1991) o Barnstaple. Cyfarfu â hi yng Nghaer-grawnt pan symudwyd Ysgol Economeg Llundain yno i osgoi'r bomio. Ganwyd iddynt ddau fab, Ederyn a Madawc, ac un ferch, Merryn. Cysegrodd Joy ei deallusrwydd i gefnogi gwaith ei gŵr, ac nid archwiliwyd yn llawn eto y rôl ganolog a chwaraeodd yn natblygiad ei syniadau ac yn yr ymchwil ar gyfer ei nofelau (yn enwedig y ddwy gyfrol a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth fel People of the Black Mountains I a II (1989 a 1990)).

Ar ôl ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 1946, daeth Williams yn diwtor staff Astudiaethau Allanol Prifysgol Rhydychen (1946-1961), yn nwyrain Sussex. Dan ddylanwad un o feirniaid llenyddol amlwg Caer-grawnt, F. R. Leavis, a gredai y gallai darllen manwl ar lenyddiaeth wella bywydau unigolion a thrawsnewid gwerthoedd cymdeithasol, roedd mentrau golygyddol a chyhoeddiadau cyntaf Williams yn archwilio'r ffyrdd y mae testunau llenyddol yn ymgorffori - yn eu ffurf a'u cynnwys - y 'strwythurau teimladol' ('structures of feeling') sydd yn creu seiliau cymdeithas a gwleidyddiaeth. Ef oedd golygydd y cyfnodolion The Critic a Politics and Letters (a fyddai'n cyfuno'n ddiweddarach), a bu'n allweddol yn uno'r Universities and Left Review a'r New Reasoner i greu'r cyfnodolyn dylanwadol New Left Review. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau uchel eu parch yn y cyfnod cynnar yma: Reading and Criticism (1950); Drama from Ibsen to Eliot (1952); Preface to Film (gyda Michael Orrom, 1954); a Drama in Performance (1954). Mae ysgrifau'r cyfnod hwn (a gasglwyd gan John McIlroy a Sallie Westwood dan y teitl Border Country: Raymond Williams in Adult Education (1993)) yn tystio i'r graddau y bu ei waith fel athro i fyfyrwyr gydol-oes yn ddylanwad ar ei gyfrol allweddol Culture and Society (1958). Archwiliad o ystyr 'diwylliant' ym meddwl Lloegr ers diwydiannu yw'r gyfrol, a ystyrir yn un o gerrig sylfaen astudiaethau diwylliannol cyfoes. Parodd trafodaethau tra chydymdeimladol Williams â meddylwyr ceidwadol (o Edmund Burke i T. S. Eliot) gryn anesmwythyd i'w ddarllenwyr ar y Chwith, ond bu hyn yn nodwedd o'i waith a ganiataodd iddo olrhain dulliau o feirniadaeth gymdeithasol a esgeuluswyd. Y canlyniad oedd iddo greu beirniadaeth ddiwylliannol sosialaidd a fyddai'n gwrthsefyll mympwyon a ffasiynau ei oes. The Long Revolution (1961) oedd y gyfrol nesaf, gwaith a oedd yn fwy uniongyrchol wleidyddol ac wedi ei seilio ar y canfyddiad fod fframweithiau gwleidyddol ac economaidd cul yn dallu beirniaid i'r elfennau diwylliannol hanfodol ymhob cymdeithas. Archwiliodd y ffyrdd y bu i ddatblygiadau mewn addysg a chyfathrebu agor posibiliadau democrataidd yn y gorffennol, a sut y gallai datblygiadau yn y meysydd hynny arwain at weithgaredd blaengar ac ymwybyddiaeth gymdeithasol yn y presennol.

Yn y cyflwyniad i The Long Revolution, nododd Williams fod y llyfr hwnnw a Culture and Society, a'r nofel Border Country, yn cwblhau 'a body of work which I set myself to do ten years ago'. Roedd 1961 yn wir yn ymddangos yn benllanw un cyfnod a dechrau cyfnod arall. Dychwelodd Williams i Gaer-grawnt y flwyddyn honno fel darlithydd Saesneg a chymrawd yng Ngholeg yr Iesu lle yr arhosodd nes iddo ymddeol yn 1983, gan ddod yn Athro cyntaf y brifysgol ym maes y ddrama yn 1974.

Er nad yw'n cael ei gofio'n bennaf fel beirniad drama, mae ei Modern Tragedy (1964), ei ysgrifau yn Writing in Society (1983) (sydd yn cynnwys ei ddarlith agoriadol o 1974, 'Drama in a Dramatized Society') a'i adolygiadau rheolaidd ar deledu a ffilm i The Listener (1968-1974) yn tystio i rôl ganolog ffurfiau dramatig yn ei waith. Disgrifiodd Williams ei hun fel awdur, gan gredu bod ei nofelau yr un mor bwysig â'i feirniadaeth lenyddol a gwleidyddol. (Nid yw beirniaid diweddarach yn dueddol o gytuno â'r hunan-asesiad hwn). Yn ogystal â Border Country, Loyalties a People of the Black Mountains y cyfeiriwyd atynt uchod, Second Generation (1964) a The Fight for Manod (1979) yw cyfrolau eraill y 'Welsh Trilogy', tra bod The Volunteers (1978) yn nofel wleidyddol sy'n dilyn hanes cyn-radical o newyddiadurwr wrth iddo archwilio llofruddiaeth gweithiwr yn ystod cyfnod o gythrwfl ym maes glo de Cymru.

Bu'r 1960au yn gyfnod o newid o ran ei deyrngarwch gwleidyddol. Ar ôl bod yn Gomiwnydd yng Nghaer-grawnt, nid oedd Williams yn aelod o'r un blaid yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel, er iddo rannu ymlyniad ei dad wrth y blaid Lafur gan ymgyrchu dros Harold Wilson ym 1964. Roedd The May Day Manifesto - a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â'r hanesydd E. P. Thompson a'r beirniad Stuart Hall, ac a ddosbarthwyd ar gyfer trafodaeth a sylwebaeth gan grwpiau sosialaidd ym 1967 cyn i fersiwn ddiwygiedig ymddangos rhwng cloriau meddal Penguin dan olygyddiaeth Williams ym 1968 - yn adlewyrchu dadrithiad dwys gyda'r llywodraeth Lafur ac wedi ei ysgrifennu'r â'r bwriad o uno ystod eang o leisiau sosialaidd dylanwadol o amgylch rhaglen a fyddai'n adfywio'r Chwith o fewn y blaid. Anwybyddwyd y maniffesto, hyd yn oed gan Tribune, cyfnodolyn y Chwith Lafuraidd, ac erbyn 1969 roedd Williams wedi ymuno â Phlaid Cymru. Yn yr ysgrifau a gasglwyd wedi ei farwolaeth dan y teitl Who Speaks for Wales? (2003), lleolodd Williams weithgaredd Cymdeithas yr Iaith a 'chenedlaetholdeb lleiafrifol radical' Plaid Cymru o fewn y glymblaid ehangach o fudiadau - Hawliau Sifil yn UDA ac Ulster, ffeministiaeth a'r mudiad ecolegol - a oedd yn ffurfio'r Chwith Newydd. Yn seiliedig ar y persbectif newydd hwn, mae The Country and the City (1973) yn feirniadaeth angerddol o'r byd-olwg metropolitaidd a'r agwedd ddifrïol at genhedloedd a phobloedd yr ymylon, gan gyflwyno achos dros frwydrau gwrth-drefedigaethol a gwrthryfeloedd gwerinol. I Williams, yn nodweddiadol, mae'r brwydrau hynny lawn mor ddiwylliannol ag ydynt yn wleidyddol neu economaidd, ac yn y gyfrol hon mae 'traddodiad dethol' ('selective tradition') y canon llenyddol Saesneg yn cael ei wrthgyferbynnu â thestunau Cymraeg a Gwyddeleg, a ffynonellau o Affrica a'r India yn ogystal.

Er bod Williams wedi cael ei edmygu am gysondeb ei feddwl a'i syniadaeth, gellir dehongli ei yrfa fel cyfres o ymatebion deallusol i newidiadau cymdeithasol, oherwydd parhaodd i ddatblygu trwy gydol ei oes. Yn y 1970au gwelwyd ei ddiddordeb cynyddol yn nadleuon deallusol a gwleidyddol Cymru yn cyd-fynd â chyfraniadau nodedig at Farcsiaeth Ewropeaidd. Adlewyrchwyd y datblygiadau hyn yn yr ysgrifau a gasglwyd fel Problems in Materialism and Culture (1980) (a gynhwysai 'The Welsh Industrial Novel' a 'Base and Superstructure in Marxist Cultural Theory') a Writing in Society (1983) (a gynhwysai 'Region and Class in the Novel' yn ogystal â 'The Crisis in English Studies'). Fel 'materoliaeth ddiwylliannol' ('cultural materialism') y disgrifiai ei feirniadaeth bellach, gan wrthod traddodiad Caer-grawnt o ddarlleniadau testunol manwl tra'n cofleidio methodoleg ryngddisgyblaethol a wrthodai'r syniad fod astudiaeth lenyddol yn ddisgyblaeth neilltuol. Mae ei gyfrolau mwyaf damcaniaethol Marxism and Literature (1977) a Culture (1981) yn perthyn i'r cyfnod hwn, a hefyd y gyfrol ryfeddol o gyfweliadau â golygyddion New Left Review, Politics and Letters (1979). Yn y llyfr hwnnw fe gyfunodd y prif ddatblygiadau yn ei feddwl a'i fydolwg trwy ei ddisgrifio'i hun yn 'Welsh European'.

Mae ei gyfrol sylweddol olaf, Towards 2000 (1983), yn ymgais i ddisgrifio canlyniadau diwylliannol a gwleidyddol y Dde Newydd fel y'u hymgorfforwyd yn llywodraethau Margaret Thatcher ym Mhrydain a Ronald Reagan yn yr Unol Daleithiau. Byddai'r hyn a ddisgrifiodd Williams fel 'Plan X' - a nodweddir gan ddinistrio'r sector gyhoeddus yn enw blaengaredd preifat yn genedlaethol, ac ehangu'r stoc o arfau niwclear er mwyn gwrthsefyll bygythiadau honedig yn rhyng-genedlaethol - yn cael ei labelu'n neoryddfrydiaeth (neoliberalism) mewn blynyddoedd diweddarach. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys trafodaeth fwyaf estynedig Williams ar hunaniaeth genedlaethol, lle mae'n dadlau na ddylai gwrthwynebiad cywir y Chwith i ideolegau hiliol a chenedlaethol fel y'u defnyddir gan y dosbarth llywodraethol arwain at nacáu hawl diwylliannau a hunaniaethau lleiafrifol i fodoli.

Roedd gyrfa ddeallusol Raymond Williams yn rhychwantu cyfnod allweddol yn hanes y Chwith: o ymdrechion y Chwith Newydd i geisio dilyn trydedd ffordd y tu hwnt i Staliniaeth a democratiaeth gymdeithasol yn y 1950au, i weithgarwch y myfyrwyr a'r lleiafrifoedd a'r ymgyrchoedd yn erbyn rhyfeloedd trefedigaethol y 1960au, i 'Eurocommunism' y 1970au, gan symud tuag at wleidyddiaeth hunaniaeth yn ei ddegawd olaf. Drwyddi draw, bu Williams yn driw i'w ymrwymiad wrth wleidyddiaeth ddosbarth, i'w gred yng nghydraddoldeb pobl gyffredin, a'i wrthwynebiad i'r duedd - sy'n amlwg yn ysgrifau Ysgol Frankfurt, y 'New York Intellectuals' ac ym mathau allweddol o Farcsiaeth Ewropeaidd fel ei gilydd - o drin aelodau'r dosbarth gweithiol fel dioddefwyr di-rym, wedi eu llygru a'u llwfrhau gan y teledu a'r cyfryngau torfol. Mewn oes o raniadau dogmatig, greddf Raymond Williams oedd cymodi ac adeiladu pontydd, boed hynny rhwng y Chwith ddyneiddiol a damcaniaethol yn y 1960au, neu rhwng cenedlaetholwyr a sosialwyr yng Nghymru'r 1980au. Efallai y gellir olrhain y duedd hon - a fu o bosib wrth wraidd ei rôl fel ysbrydoliaeth i'r Chwith (yn enwedig mewn cyfnodau o anobaith) - i'w fagwraeth ar y ffin a'r duedd yno, fel y nododd, i sôn am ' "the English" who were not us, and also "the Welsh" who were not us'.

Derbyniodd raddau er anrhydedd gan y Brifysgol Agored (1975), Prifysgol Cymru (1980) a Phrifysgol Caint (1984). Cyfieithwyd ei ysgrifau i nifer o ieithoedd, gan gynnwys Portiwgaleg a Japaneeg sy'n adlewyrchu'r diddordeb cynyddol yn ei waith ym Mrasil a Japan. Bu farw ar 26 Ionawr 1988 yn ei gartref, 4 Common Hill yn Saffron Walden, Swydd Essex, a chladdwyd ef yn Eglwys Plwyf Clydawg Sant ym Mynyddoedd Duon ei febyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-08-16

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.