Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

WOOD, RONALD KARSLAKE STARR (1919 - 2017), botanegydd

Enw: Ronald Karslake Starr Wood
Dyddiad geni: 1919
Dyddiad marw: 2017
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: botanegydd
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Lyn Owen

Ganwyd Ronald Wood ar 8 Ebrill 1919 yn 10 Stryd yr Undeb, Glyn Rhedynog yng Nghwm Rhondda, yn fab i Percival Thomas Evans Wood (1891-1975), ffitiwr glofaol, a'i wraig Flossie (g. Starr, 1893-1989). Mynychodd Ysgol Ramadeg Glyn Rhedynog, ac yn 1937 enillodd ysgoloriaeth i Goleg Imperial Llundain, lle graddiodd gyda dosbarth cyntaf mewn botaneg yn 1941. Treuliodd flwyddyn wedyn yn cynorthwyo ymchwil i glefydau mewn cnydau amaethyddol, ei flas cyntaf o batholeg blanhigion, a bu'n gweithio hefyd yn ystod y rhyfel yn y Weinyddiaeth Gynhyrchu Awyrennau. Yn 1945 fe'i penodwyd yn ddarlithydd cynorthwyol yn Imperial, gan ennill PhD yn 1948 am astudiaeth o reolaeth fiolegol pathogenau yn y pridd. Priododd Marjorie Schofield (1925-2014) yn 1947, a chawsant un mab, Richard, a merch, Jess.

Arhosodd Wood yng Ngholeg Imperial trwy gydol ei yrfa, ac fe'i dyrchafwyd yn athro patholeg blanhigion yno yn 1964, ond treuliodd ddau gyfnod yn yr Unol Daleithiau, ym Mhrifysgol Califfornia yn Berkeley yn 1950 ac yng Ngorsaf Arbrofion Amaethyddol Connecticut yn 1957, a fu'n allweddol i ddatblygiad ei ymchwil. Gwnaeth astudiaeth arloesol o ffisioleg a biocemeg yr ymadwaith rhwng planhigion a'u pathogenau, ac agorodd y ffordd i batholeg blanhigion foleciwlar fodern. Roedd 'RKS', fel yr oedd pawb yn ei adnabod, yn ddylanwadol iawn fel cyfarwyddwr myfyrwyr ymchwil, ac aeth llawer ohonynt ymlaen i fod yn flaenllaw yn y maes. Yn 1967 cyhoeddodd werslyfr arloesol, Physiological Plant Pathology. Bu'n un o sylfaenwyr Ffederasiwn (Cymdeithas yn ddiweddarach) Patholeg Blanhigion Prydain, ac fe'i hetholwyd yn llywydd Cymdeithas Ryngwladol Patholeg Blanhigion, wedi iddo drefnu ei chyngres ryngwladol gyntaf yn Imperial yn 1968. Cyfarwyddodd dair astudiaeth i Nato ar docsinau, gwrthsafiad a sbesiffigedd mewn clefydau planhigion. Yn 1976 fe'i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol, a derbyniodd nifer o gymrodoriaethau a swyddi academaidd er anrhydedd eraill mewn sawl gwlad, gan gynnwys UDA, yr Almaen ac Awstralia. Yn sgil ei gyhoeddiadau a'i deithiau darlithio rhyngwladol cafodd ei gydnabod yn eang fel 'tad' patholeg blanhigion.

Yn ei fywyd personol roedd yn ddyn diymhongar a syml ei chwaeth, a bu'n gefnogwr brwd i rygbi Cymru ar hyd ei oes. Bu Ronald Wood farw o niwmonia ar 26 Ebrill 2017 yng nghartref gofal Oakcroft House, West Byfleet, Surrey.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-11-25

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.