Ganwyd Nigel Yates yn Abertawe ar 1 Gorffennaf 1944, yn fab i Thomas Yates (1909-1997), cyfrifydd siartredig, a'i wraig Alice (g. Bentham, 1912-1993). Gyda'i chwaer iau Katharine Wilma (g. 1949) fe'i magwyd yn Gatholig Rhufeinig, a chafodd ei addysg yn Ysgol Baratoi Craig-y-Nos yn Abertawe, ac o 1955 yn Ysgol Abaty Belmont, Swydd Henffordd. Yn 1962 aeth i Brifysgol Hull, lle graddiodd gydag MPhil mewn Hanes gan fynd ymlaen i ennill doethuriaeth yn 1968. Yn ystod ei gyfnod yn Hull daeth yn Eingl-Gatholig, a bu hefyd yn weithgar mewn gwleidyddiaeth myfyrwyr fel Rhyddfrydwr. Parhaodd ei ffydd Gristnogol a'i ddaliadau gwleidyddol yn allweddol bwysig iddo ar hyd ei fywyd.
Yn dilyn ei PhD cymerodd gymrodoriaethau ôl-ddoethurol yng Nghaerwysg (1968-1969) a Southampton (1969-1970), ond ni lwyddodd i symud ymlaen yn y byd academaidd, ac yn 1971 cafodd swydd fel archifydd yn Archifdy Sir Gaerfyrddin dan Major Francis Jones. Yn 1973, ar adeg ad-drefnu Sir Gaerfyrddin yn rhan o sir newydd Dyfed, symudodd Yates i North Tyneside, lle sefydlodd archif yn Llyfrgell North Shields, a ddaeth wedyn yn rhan o Wasanaethau Archifau Tyne and Wear. Yn 1975 daeth yn bennaeth ar Archifau Dinas Portsmouth ac yn 1980, yn ddyn cymharol ifanc 36 oed, fe'i penodwyd yn archifydd sirol Swydd Gaint.
Ei faes astudiaeth cyntaf oedd yr Oesoedd Canol, ond tra bu'n gweithio mewn archifau dechreuodd ymchwilio i Fudiad Rhydychen yn yr Eglwys Anglicanaidd, ac aeth ati i astudio adeiladau eglwysig, pwnc o ddiddordeb mawr iddo ers peth amser. Yn 1974 cyhoeddodd 'The parochial impact of the Oxford movement in south-west Wales' yn Carmarthenshire Studies. Essays presented to Major Francis Jones to mark his retirement as County Archivist of Carmarthenshire, cyfrol y bu'n gyd-olygydd arni. Yn yr un flwyddyn fe'i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol (FRHS).
Fel archifydd ymddiddorai'n bennaf mewn hanes lleol ac eglwysig yn hytrach nag yn agweddau technegol y gwaith, a pharhaodd i gyhoeddi'n helaeth, ar ei ben ei hun a gyda chydweithwyr. Er gwaetha'i ymagwedd academaidd roedd yn awyddus i agor mynediad i'r archifau a hwyluso ymchwilwyr o bob math, ac roedd yn adnabyddus am ei gefnogaeth i fentergarwch cydweithwyr. Fel archifydd sirol yn Swydd Gaint sefydlodd ganghennau yn Ramsgate, Sevenoaks a Rochester, yn ychwanegol i'r swyddfeydd ym Maidstone a Folkestone, a threfnodd bartneriaeth gydag esgobaeth a dinas Caergaint i reoli archifau pwysig yno.
Roedd hefyd yn ddyn ymarferol, gan osod systemau newydd ar gyfer arolygon plwyfi yn sgil Mesur Cofrestrau a Chofnodion Plwyfol 1978, yn gyntaf yn Portsmouth, ac wedyn yng Nghaint, ac roedd yn flaengar wrth greu incwm trwy godi tâl, yn gyntaf ar dramorwyr, a ollyngwyd wedyn, ac yna am ymchwil a wnaed gan staff ar ran defnyddwyr, esiampl a ddilynwyd yn helaeth gan archifau eraill. Trwy ei hynawsedd a'i ddawn rhwydweithio llwyddodd i sicrhau bod digon o gynhaliaeth i archifau.
Cyfrannodd i nifer o gyhoeddiadau ar hanes Swydd Gaint, a bu'n olygydd cyffredinol ar Brosiect Hanes Swydd Gaint, a gychwynnwyd i nodi canmlwyddiant y cyngor sir yn 1989, yn ogystal â golygu pedair o'r deg cyfrol a gomisiynwyd gan y prosiect. Roedd yr arddangosfa 'Crown and Mitre: Religion and Society in Northern Europe since the Reformation' gyda'r rhai cyntaf i dderbyn cyllid Ewropeaidd yn 1992 ac aeth ar daith ryngwladol. Cymerodd Yates ymddeoliad cynnar o Gyngor Sir Caint yn 1994.
Yn 1967 roedd wedi priodi Paula Gülen Du Val (g. 1947), a ganwyd iddynt bedwar o blant, Helena, Patrick, David a Benedict. Gwasanaethodd ei wraig fel cynghorydd y Democratiaid Rhyddfrydol ac arweinydd Cyngor Bwrdeistref Maidstone. Yn dilyn ei ymddeoliad fel archifydd sirol symudasant i Blandford Forum yn Dorset, lle dewiswyd ei wraig yn ymgeisydd seneddol dros North Dorset, gan ddod yn ail yn Etholiad Cyffredinol 1997. Cychwynnodd hi ar yrfa academaidd hefyd wedyn ac fe'i hetholwyd yn Llywydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn 2019.
Tra roedd yn byw yn Dorset gwnaeth Yates yr ymchwil ar gyfer Anglican Ritualism in Victorian Britain 1830-1910 a gyhoeddwyd yn 1999. Yn 2000 penodwyd ef yn gymrawd ymchwil hŷn ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, a daeth yn Athro Hanes Eglwysig yn 2005. Y blynyddoedd hyn wedi iddo ddychwelyd i'r byd academaidd oedd cyfnod hapusaf a mwyaf cynhyrchiol ei fywyd efallai. Yn ystod y cyfnod hwn ysgrifennodd neu gyfrannodd i nifer o weithiau eang eu cwmpas o'r unfed ganrif ar bymtheg hyd y 1960au, ar ddiwygio eglwysig, gwleidyddiaeth a'r gymdeithas ehangach, litwrgi ac adeiladau eglwysig, pwnc yr oedd wedi dod yn brif awdurdod Ewrop arno, gan gwmpasu'r Alban ac Iwerddon yn ogystal â Lloegr a Chymru, a gadawodd dri llyfr i'w cyhoeddi wedi ei farwolaeth. Yn ychwanegol i'w waith ei hun gwasanaethodd yn gyfarwyddwr ymchwil y brifysgol, ac fe'i penodwyd hefyd yn Archifydd Rhanbarthol i'r Eglwys yng Nghymru, gan gydlynu rhwng yr eglwys ac archifau lleol wrth ddosrannu cofnodion plwyf. Yn 2007 dyfarnwyd Doethuriaeth mewn Diwinyddiaeth iddo gan Brifysgol Cymru.
Cafwyd bod canser ar Nigel Yates ym Mai 2007 a bu farw ar 15 Ionawr 2009. Cynhaliwyd requiem angladdol yng nghapel y brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan ar 23 Ionawr, a llosgwyd ei gorff yn Aberystwyth. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa, eto yn Llanbedr Pont Steffan, ar 2 Mai 2009.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-08-10
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.