Ganwyd Abdullah Ali al-Hakimi (ceir y sillafiad el-Hakimi weithiau) mewn pentref ger Taizz, Yemen, tua 1900. Mae ei rieni yn anhysbys, ac nid oes fawr o wybodaeth am ei blentyndod. Treuliodd ei flynyddoedd ffurfiannol yn Yemen, ac ar ryw adeg yn y 1920au bu iddo gwrdd â Sheikh Ahmed al-Alawi, arweinydd ysbrydol cymdeithas Alawi Sufi, yng Ngogledd Affrica. Daeth yn fyfyriwr i Sheikh al-Alawi, ac yn y 1930au enillodd y teitl Sheikh, arweinydd o fewn yr urdd, a rhoddwyd iddo ijaza, sef caniatâd i ddysgu.
Yn 1936 daeth al-Hakimi i Brydain gyda'r bwriad o ddarparu cyfarwyddyd grefyddol i'r cymunedau Moslemaidd o Yemen a oedd ar gynnydd mewn dinasoedd porthladd. Yn ôl y sôn gweithredai yng Nghaerdydd a South Shields fel ei gilydd, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i amser yn South Shields ar y cychwyn. Ceisiodd sefydlu canolfan ar gyfer y gymdeithas a mosg yn y ddwy ddinas, a llwyddodd i raddau gyda'r ddau beth oherwydd ei allu trefniadol, ei frwdfrydedd egnïol, ac yn ddiamau hefyd oherwydd ei bersonoliaeth garismatig.
Tra roedd al-Hakimi yn South Shields, priododd Miriam Abdullah, merch i ddiweddar forwr o Yemen a'i wraig Brydeinig, a oedd yn bedair ar bymtheg ar y pryd. Cynhaliwyd y briodas fel seremoni Islamaidd heb ei chofrestru dan gyfraith Prydain. Cymerodd al-Hakimi frodyr a chwiorydd iau Miriam o gartref gofal i'w warchodaeth, ond mynnodd y fam gael ei phlant yn ôl gan ddadlau nad oedd hawl gyfreithiol gan al-Hakimi i gymryd cyfrifoldeb drostynt. Ymddengys i'r plant ddychwelyd at eu mam, ond mae sôn bod brawd iau Miriam, Norman Abdul Ali, wedi cyrraedd statws hafiz (rhywun sydd wedi dysgu'r Quran Arabeg cyfan ar ei gof) yn 1937 yn bedair ar ddeg oed, ac iddo ennill ysgoloriaeth yn nes ymlaen gan y gymdeithas Alawi i astudio Islam ym Mhrifysgol Al-Azhar yn yr Aifft. Yn Rhagfyr 1937, bu Miriam farw wrth esgor ar ferch al-Hakimi ac fe'i claddwyd ynghyd â'r baban yn South Shields. Cafodd yr angladd lawer o sylw oherwydd y torfeydd o bobl leol a ddaeth i weld yr orymdaith Foslemaidd, ac adroddodd y Shields Daily Gazette fod 'prominent citizens' wedi cydymdeimlo â Sheikh al-Hakimi ac ymddiheuro iddo am yr ymyrraeth.
Yn 1937 symudodd al-Hakimi i Gaerdydd yn barhaol a dechreuodd godi arian ar gyfer mosg yn y ddinas. Yn 1938, agorodd fosg mewn stablau wedi eu haddasu ar Stryd Bute yn ardal dociau Tiger Bay. Trwy'r gymdeithas Alawi roedd hefyd wedi prynu tri thŷ teras i'w troi'n fosg ar Stryd Peel. Cafodd gefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn gan ei ddirprwy, arweinydd arall o fewn y gymdeithas Alawi, Sheikh Hassan Ismail. Cyn i al-Hakimi symud i Gaerdydd, yn 1936, roedd wedi llwyddo i sicrhau lle ar gyfer claddedigaethau Moslemaidd ym Mynwent y Gorllewin. Cyn hynny, byddai Moslemiaid yn cael eu claddu mewn rhannau anghydffurfiol o fynwentydd yr ardal, heb fawr o barch i arferion Moslemaidd. Defnyddir Mynwent y Gorllewin gan Foslemiaid hyd heddiw.
Wedi dechrau'r Ail Ryfel Byd, rhannodd al-Hakimi ei amser rhwng Prydain a'i gynefin yn Yemen, er mai prin yw'r wybodaeth fanwl am ei deithiau. Gwyddom i'r adeiladau yn Stryd Bute gael eu taro gan fomiau'r Almaenwyr yn Ionawr 1941, ac mai ei ddirprwy, Sheikh Hassan Ismail, a oedd yn arwain y gweddïo ar y pryd. Yn wyrthiol, fel yr adroddwyd yn y wasg leol a rhyngwladol, goroesodd pob un o'r addolwyr.
Yn 1943, agorwyd mosg dros dro ar safle'r adeiladau a ddinistriwyd, o'r enw Mosg Noor al-Islam. Cafodd y seremoni agor lawer o sylw, ond nid oedd al-Hakimi yn bresennol, ac arweiniwyd y gweithgareddau gan ei ddirprwy Hassan Ismail. Pan oedd arian ar gael wedi'r rhyfel yn 1947, ailadeiladwyd y mosg fel strwythur mwy parhaol a safodd tan 1988 pan gafodd ei ddymchwel a'i ailadeiladu am y trydydd tro. Yn sgil datblygu Bae Caerdydd yn y cyfnod hwn ni safai'r mosg ar Stryd Peel bellach, eithr ar Stryd Maria. Serch hynny, o gymharu mapiau o'r ddau gyfnod gwelir fod y mosg mwy neu lai yn yr un man ag y bu pan gafodd ei sefydlu. Noor al-Islam yw'r mosg cyntaf a adeiladwyd i'r pwrpas yng Nghymru, ac yn un o'r cynharaf ym Mhrydain, a daeth yn sefydliad Moslemaidd arwyddocaol dros ben.
Cafodd al-Hakimi broblemau newydd yng Nghaerdydd wedi'r rhyfel, wrth iddo wynebu heriau i'w arweinyddiaeth, yn rhannol yn sgil ei absenoldeb yn ystod y rhyfel (pan fu i gymunedau lleol glosio'n agosach at Sheikh Hassan Ismail), ond hefyd oherwydd ei feirniadaeth o Imam Ahmad bin Yahya (unben Teyrnas Mutawakkilaidd Yemen). Yn ystod ei amser i ffwrdd bu Sheikh Abdullah al-Hakimi yn dyst i bolisïau gormesol ac ymynysol yr Imam, ac roedd wedi dod yn rhan o fudiad o ymgyrchwyr dros ddiwygio gwleidyddol. Daliodd y cymunedau alltud yn gadarn eu cefnogaeth i'r Imam am gyfuniad o resymau crefyddol, cymdeithasol a gwleidyddol. Ni chafwyd datrysiad i'r anghydfod hyd yn oed ar ôl achos llys a chyflafareddiad gan Foslemiaid a berthynai i Fosg Canolog Llundain. Yn y pen draw, parhaodd Sheikh Abdullah al-Hakimi i reoli Mosg Noor al-Islam, a sefydlodd Sheikh Hassan Ismail ei fosg ei hun, a ddaeth yn nes ymlaen yn Ganolfan Islamaidd De Cymru.
Dychwelodd al-Hakimi i Yemen yn 1952. Cwta ddwy flynedd wedyn, ar ddechrau Awst 1954, aeth i'r ysbyty yn dioddef o haint tybiedig ar yr arennau, a bu farw yno ar 4 Awst 1954. Fel y sylwodd Mohammed Seddon, mae llawer o bobl yn ei gweld yn debygol iddo gael ei wenwyno gan Imam llywodraethol Yemen, a phetai wedi goroesi, y byddai efallai wedi mynd ymlaen i fod yn llywydd cyntaf Yemen ôl-frenhinol. Roedd yr actifiaeth hon wedi creu rhwyg rhyngddo a Yemeniaid yng Nghaerdydd, gan arwain at yr anghydfod a nodwyd uchod. Serch hynny, ac yn ingol braidd, erbyn 1962 pan syrthiodd Teyrnas Mutawakkilaidd Yemen ac y sefydlwyd Gweriniaeth Arabaidd Yemen, roedd y farn ymhlith Yemeniaid alltud wedi newid. Yn anffodus ni fu al-Hakimi fyw i weld ei gyfiawnhau.
Mae ei etifeddiaeth yn parhau yng Nghaerdydd trwy Noor al-Islam a Chanolfan Islamaidd De Cymru, trwy'r fynwent Foslemaidd a agorodd, a thrwy gymdeithas sifil Foslemaidd fywiog a phrysur. Byddai ei ddirprwy a'i wrthwynebydd wedyn, Sheikh Hassan Ismail, yn mabwysiadu Said Ismail a aeth ymlaen i fod yr Imam hwyaf ei wasanaeth ym Mhrydain erbyn ei farwolaeth yn 2011.
Roedd al-Hakimi yn arweinydd Moslemaidd arloesol a dyfeisgar, un a oedd o flaen ei amser o ran ei weledigaeth am ei swyddogaeth ei hun fel arweinydd Moslemaidd ym Mhrydain. Mae adroddiadau newyddion yn taflu goleuni ar ei weithgareddau sy'n amrywio o fynychu seremonïau dinesig, gan gynnwys angladd George VI yn Eglwys Blwyf Ioan Fedyddiwr Dinas Caerdydd (o bosibl y Moslem cyntaf i'w gynnwys mewn seremoni o'r fath ym Mhrydain), trefnu ciniawau gyda phwysigion megis Arglwydd Faer Caerdydd, croesawu ymwelwyr rhyngwladol (gan gynnwys teulu brenhinol Yemen), a pherthynas dda â newyddiadurwyr er mwyn sicrhau sylw cyson i gymuned Foslemaidd Caerdydd yn y cyfryngau. Ni welwyd arweinyddiaeth o'r fath eto ymhlith Moslemiaid Cymru tan y cyfnod ar ôl 9/11.
Roedd al-Hakimi yn un o Foslemiaid mwyaf dylanwadol Cymru, a gellir ei weld hefyd yn arweinydd diwygiad crefyddol yng Nghymru, un a ddeilliodd o'r boblogaeth Foslemaidd yn hytrach na'r Cristnogion. Bu'n llwyddiannus dros ben yn denu unigolion i'w gymdeithas, gan feithrin ysbryd crefyddol dwys ymhlith Moslemiaid yng Nghaerdydd.
Priododd al-Hakimi eto yn Yemen, yn ystod y rhyfel mae'n debyg, er mai prin yw'r manylion pendant, a gadawodd wyrion a gorwyrion.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-06-14
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.