BOOTH, FLORENCE ELEANOR (1861 - 1957), Iachawdwriaethwraig a diwygwraig gymdeithasol

Enw: Florence Eleanor Booth
Dyddiad geni: 1861
Dyddiad marw: 1957
Priod: William Bramwell Booth
Plentyn: Catherine Bramwell Booth
Plentyn: Mary Booth Booth
Plentyn: Florence Miriam Booth
Plentyn: Bramwell Bernard Booth
Plentyn: Olive Emma Booth
Plentyn: Dora Booth
Plentyn: William Wycliffe Booth
Rhiant: Isabell Hawker Soper
Rhiant: Jane Eleanor Soper (née Levick)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: Iachawdwriaethwraig a diwygwraig gymdeithasol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Bryan Boots

Ganwyd Florence Booth ar 12 Medi 1861 ym Mlaenau Gwent, Sir Fynwy, yr hynaf o bedwar o blant Dr Isabell Hawker Soper (1833-1907) a'i wraig Jane Eleanor (g. Levick, 1831-1870). Hanai Dr Soper o Plymouth, a gweithiai fel meddyg a llawfeddyg yn y gweithfeydd haearn a phyllau glo lleol. Roedd ei wraig yn ferch i haearnfeistr o Gymru.

Roedd Florence yn gerddor dawnus ac roedd ganddi uchelgais i ddilyn galwedigaeth ei thad, ond pan oedd hi'n naw mlwydd oed bu farw ei mam ac fe'i hanfonwyd i fyw gyda dwy fodryb yn Llundain nes i'w thad ailbriodi. Roedd newydd lwyddo yn ei harholiad olaf yn yr ysgol pan aeth yn ymwelydd i gyfarfod Byddin yr Iachawdwriaeth yn Whitechapel gyda'i modrybedd. Wedi iddi glywed Catherine Booth yn siarad penderfynodd ddilyn Crist a darganfod mwy am Fyddin yr Iachawdwriaeth, er nad oedd ei modrybedd a'i thad yn hapus ei bod yn ymwneud â'r mudiad cymharol anhysbys ac amharchus ac yn ymgysylltu â meddwon a phechaduriaid eraill. Daeth yn gyfeillgar â'r teulu Booth, gan gynnwys eu mab Bramwell (1856-1929). Erbyn 1881 roedd wedi ei dyrchafu'n Is-gapten yn y Fyddin ac aeth gyda merch hynaf y Booths, Catherine, i gychwyn gwaith y Fyddin yn Ffrainc, lle denodd sylw gan awdurdodau Paris wrth iddi geisio gwerthu En Avant! ar strydoedd y ddinas.

Yr adeg honno y gofynnodd Bramwell iddi ei briodi. Gan nad oedd eto'n un ar hugain gwrthododd ei thad roi ei ganiatâd, ond o'r diwedd, ar 12 Hydref 1882, priododd Capten Florence Soper â'r Prifswyddog Bramwell Booth yn Neuadd Gyngres Clapton o flaen torf o 6,000 o Iachawdwriaethwyr, mewn seremoni a gynhaliwyd gan y Cadfridog William Booth. Cafodd Florence a Bramwell saith o blant, ac er mwyn osgoi dylanwadau allanol dysgodd Florence y pedwar hynaf gartref am o leiaf ddwy awr bob dydd. Wedi iddi dderbyn etifeddiaeth gan un o'i modrybedd cyflogodd athrawes gartref i ddysgu'r tri ieuengaf yn yr un modd. Ymgartrefodd y teulu yn The Homestead, Hadley Wood, Barnet, Llundain, a chyfrannodd y plant i gyd i waith Byddin yr Iachawdwriaeth.

Nid oedd Florence Booth yn un i aros dan gysgod ei gŵr, ac aeth ati i wneud ei chyfraniad ei hun i ddatblygiad cynnar gwaith cymdeithasol Byddin yr Iachawdwriaeth. Gofidiai o'r cychwyn cyntaf am y puteiniaid truenus a welodd ar strydoedd yr East End yn Llundain, ac yn 1884 cychwynnodd The Women's Social Work mewn tŷ bychan yn 194 Stryd Hanbury yn Whitechapel. Parhaodd i arwain y wedd arloesol hon ar waith Byddin yr Iachawdwriaeth am wyth mlynedd ar hugain, nes i Bramwell ddod yn Gadfridog. Fe'i gwnaed yn gomisiynydd yn 1888, a chyfarwyddodd y Gwaith Achub wrth iddo ledu ar draws y byd. Gwelodd y Fyddin yr angen am fwy o ofal ar gyfer merched beichiog, ac aeth ati i agor tai lloches ledled y byd.

Teimlai Florence gyfrifoldeb gwirioneddol dros ferched a phlant o fewn y Fyddin a thu hwnt. Yn 1907 lansiwyd adran i ferched dan yr enw 'Home League', gyda rhaglen gynhwysfawr yn darparu addysg mewn bywyd teuluol, cwmnïaeth ar gyfer pobl oedrannus ac unig, a chyfle i wasanaethu'r anghennus. 'A happy home is the surest safeguard against all evil,' meddai Florence yn y cyfarfod cychwynnol, 'and where a home is not happy the devil enters and generally finds his hands full.' Wrth i'r gynghrair ledu i wledydd eraill, amrywiodd y cyfarfodydd yn ôl gofynion yr ardal. Dysgodd merched i goginio, i wnïo ac i ofalu am eu babanod. Heddiw, dros ganrif yn ddiweddarach, erys yr Home League yn rhan o etifeddiaeth Florence Booth.

Pan fu William Booth farw yn 1912, dyrchafwyd ei fab Bramwell yn Gadfridog a derbyniwyd Florence yn brif foneddiges. Yn Ebrill 1913, yn ei swyddogaeth newydd, ymwelodd â Paris, lle roedd wedi gwasanaethu gyda Catherine, a siaradodd yn gyhoeddus mewn Ffrangeg rhugl. Arweiniodd Gyngres y Ffindir ym Mehefin y flwyddyn honno, ac adroddwyd mai hwnnw oedd 'the mightiest thing in the history of the Territory.' Cafwyd Cyngres yn yr Almaen ym mis Gorffennaf. Dros y misoedd dilynol arweiniodd ymgyrch fuddugoliaethus yng Ngwlad Belg ac fe'i derbyniwyd gan y Frenhines Wilhelmina yn Amsterdam mewn gwrandawiad anarferol o hir.

Yn 1915, cyflwynodd Florence y syniad o 'Lifesaving Guards' i ferched fel estyniad o'r 'Lifesaving Scouts' i fechgyn. Er bod rhai o'r farn y byddai gweithgareddau athletaidd yn gwneud i ferched ymddangos yn llai benywaidd, cafwyd cychwyn brwd i'r mudiad ac ymffurfiodd y 120 o ferched cyntaf yn wyth trŵp yn Neuadd Regent, Llundain. Yn 1921, cyhoeddodd Florence fudiad newydd i ferched iau, y 'Sunbeams', a fyddai'n wyth neu naw oed yr adeg honno. Erbyn hyn mae merched mewn llawer o wledydd yn elwa o brosiectau hamdden, gwasanaeth a sgiliau y grwpiau hyn.

Pan ymddeolodd y Comisiynydd Henry Howard fel Prifswyddog yn 1921, a'i olynu gan y Comisiynydd Edward Higgins, daeth Florence yn Gomisiynydd Prydain gyda chyfrifoldeb dros holl waith efengylu'r Fyddin yn y Deyrnas Unedig. Daliodd y swydd honnno tan Dachwedd 1921, ac eto o Fehefin 1922 i Fawrth 1925. Bu ei llwyddiant yn fodd i hwyluso'r ffordd i dderbyn merched eraill mewn swyddi awdurdod uchel.

Tua 1925, dechreuodd rhai carfanau yn y Fyddin gwyno am amod y Weithred Unran mai'r Cadfridog fyddai'n penodi ei olynydd. Roeddent o'r farn y dylai'r dewis fod yn fater i Gyngor Uchel yr arweinwyr byd-eang. Mewn ymgais i ddwyn anfri ar Bramwell Booth, cafodd ei wraig a'i blant eu beirniadu am fod â gormod o ddylanwad dros ei benderfyniadau.

Yn ystod teithiau tramor blaenorol y Cadfridog, roedd Mrs Booth wedi aros yn Lloegr gyda phŵer atwrnai i lofnodi dogfennau yn ei absenoldeb. Ar ei daith i America yn 1926 aeth y Cadfridog â Florence gydag ef, ac arweiniodd hi rai o'r sesiynau. Yn 1927 aeth ar ei daith olaf, i Japan trwy Ganada, lle cafodd groeso brwd ond amserlen feichus. Parhaodd yr aflonyddwch o fewn y Fyddin i bwyso ar ei feddwl, ac o ganlyniad torrodd ei iechyd a mynnodd ei feddygon iddo roi'r gorau i'w waith.

Yn ystod ei salwch byddai Florence yn mynd yn achlysurol i'r pencadlys i gyfarfod â'r Prifswyddog ac eraill, ac arweiniodd gynadleddau blynyddol swyddogion Gwaith Cymdeithasol y Merched. Ailgydiodd yng ngwaith y Merched cyn trosglwyddo'r rheolaeth i'w merch Catherine. Parhaodd yn arweinydd y Guards a'r Sunbeams ac yn gyfrifol am hyfforddiant swyddogion y Fyddin yn fyd-eang, a bu hefyd yn Ynad Heddwch, a'r ynad cyntaf i ymweld â Charchar Holloway.

Yn Ionawr 1929 diswyddwyd Bramwell Booth gan y Cyngor Uchel, ac etholwyd y Prifswyddog yn Gadfridog newydd. Bu Bramwell Booth farw ar 16 Mehefin 1929, ac ymddeolodd Florence wedyn o wasanaeth gweithredol, gan roi terfyn ar ei gyrfa fel menyw fwyaf dylanwadol Byddin yr Iachawdwriaeth ryngwladol.

Bu Florence Booth farw ar 10 Mehefin 1957. Cynhaliwyd ei hangladd yn Neuadd Gyngres Clapton ac fe'i claddwyd gyda'i gŵr ym mynwent Abney Park, Stoke Newington. Agorwyd Florence Booth House, lloches argyfwng i ferched digartref, yn Toronto yn 2000.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-05-31

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.