BROOKES, BEATA ANN (1930 - 2015), gwleidydd

Enw: Beata Ann Brookes
Dyddiad geni: 1930
Dyddiad marw: 2015
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Matthew W. Day

Ganwyd Beata Brookes ar 21 Ionawr 1930 yn Rhuddlan, Sir y Fflint, yn ferch i George Brookes, ffermwr a datblygwr eiddo, a'i wraig Gwendoline. Cafodd ei haddysg yng Ngholeg Lowther yn Abergele a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Enillodd ysgloriaeth wedyn gan Weinyddiaeth Dramor America i astudio gwleidyddiaeth yn UDA. Dilynwyd hynny gan ymweliad byr ag Australia i astudio strwythurau llywodraeth leol yno. Bu'n weithgar mewn gwleidyddiaeth leol o oedran ifanc, ac yn gadeirydd Ceidwadwyr Ifainc Cymru. Bu'n briod am gyfnod byr ag Anthony Arnold, ond cawsant ysgariad yn 1963.

Cafodd Beata Brookes yrfa amrywiol, gan weithio ar fferm y teulu, fel ysgrifennydd i gwmni twristiaeth ac arlwyo, ac yn ddiweddarach fel gweithiwr cymdeithasol i Gyngor Sir Ddinbych, ac fel ymchwilydd teledu gyda HTV yng Nghaerdydd. Fe'i cofir yn bennaf am ei rhan weithgar ac amrywiol yng ngwleidyddiaeth gogledd Cymru.

Ei swydd wleidyddol gyntaf oedd fel gweithredwr etholedig Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Ceidwadol ac Unoliaethol, adain wirfoddol y Blaid Geidwadol. Fe'i hetholwyd hefyd yn Geidwadwr ar Gyngor Ardal Drefol y Rhyl yn 1955, yr unig gynghorydd benywaidd ar y cyngor yr adeg honno.

Fel Ceidwadwraig weithgar heb deulu, ystyrid Beata Brookes yn ymgeisydd benywaidd ardderchog mewn etholiadau i Dŷ'r Cyffredin, a safodd nifer o weithiau heb lwyddiant. Yn etholiad cyffredinol 1955 safodd yn Widnes, sedd Lafur ymylol, gan golli o 1,449 o bleidleisiau yn unig, a safodd yn aflwyddiannus hefyd yn is-etholiad Warrington yn 1961 a dros Manchester Exchange yn etholiad cyffredinol 1964. Yn 1970 fe'i trechwyd am enwebiad Gorllewin Fflint gan Syr Anthony Meyer.

Etholwyd Brookes yn Aelod o Senedd Ewrop dros Ogledd Cymru yn 1979. Serch hynny, gwnaeth un ymgais olaf i fynd i Dŷ'r Cyffredin yn etholiad cyffredinol 1983 yn sedd newydd Gogledd-orllewin Clwyd. Arweiniodd hyn at broses hirfaith o ddethol ymgeisydd i'r Blaid Geidwadol rhwng Beata Brookes, Geraint Morgan, AS Dinbych ar y pryd, a Syr Anthony Meyer, AS Gorllewin Fflint ar y pryd. Brookes oedd yr ymgeisydd poblogaidd gyda chefnogaeth actifyddion lleol, a hi enillodd y bleidlais ddethol ym Mawrth 1983. Ond yn y pen draw Meyer oedd yr enillydd ym mis Mai wedi i'r penderfyniad gwreiddiol gael ei wyrdroi yn y llys.

Daliodd Brookes sedd Gogledd Cymru yn Senedd Ewrop o 1979 tan 1989. Roedd yn un o ychydig o Geidwadwyr benywaidd a ddaliai swyddi o awdurdod ar y pryd. Yn Senedd Ewrop bu'n aelod o sawl pwyllgor gan gynnwys y Pwyllgor Addysg, y Pwyllgor Amaeth, a Phwyllgor Materion Ewropeaidd y Cyngor Proffesiynau Atodol i Feddygaeth, gan dynnu ar ei phrofiad o waith gwirfoddol ac fel cyn-aelod o Fwrdd Ysbytai Cymru. Roedd Brookes yn frwd ei chefnogaeth i Ewrop a phoenai am yr effaith ar swyddi petai Prydain byth yn gadael yr Undeb, yn enwedig gan fod rhai diwydiannau yng ngogledd Cymru yn ddibynnol ar arian o Ewrop. Collodd y sedd yn etholiad Senedd Ewrop 1989 i'r ymgeisydd Llafur; dyna fyddai'r tro olaf iddi ddal swydd wleidyddol etholedig.

Y tu allan i wleidyddiaeth, cofir Brookes am ei gwaith gwirfoddol ar draws gogledd Cymru. Gwasanaethodd yn aelod o Fwrdd Ysbytai Cymru o 1963 i 1974. Yn 1973 daeth yn aelod o Awdurdod Iechyd Ardal Clwyd, Pwyllgor yr Ymarferwyr Teulu, a gwasanaethodd ar Bwyllgor Gwasanaeth Cymdeithasol Cyngor Sir Clwyd. Bu'n weithgar gydag elusennau a gefnogai bobl ag anableddau a chydag amryw gyrff ym maes iechyd yng Nghlwyd. Bu hefyd yn gadeirydd ar Gyngor Defnyddwyr Cymru. Dyfarnwyd CBE iddi yn 1996.

Parhaodd Brookes i fod yn weithgar yng ngwleidyddiaeth y Ceidwadwyr ar ôl ei chyfnod fel ASE, a bu'n gadeirydd Plaid Geidwadol Cymru yn y 1990au. Cefnogodd John Major yn 1993 ar adeg pan oedd Major yn colli cefnogaeth gan graidd ei blaid. Yn ei blynyddoedd olaf cafodd ei dadrithio gan y Blaid Geidwadol o dan David Cameron, dros faterion megis y glymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol. O ganlyniad, ym Mai 2013 ymunodd â Phlaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig, UKIP. Cafodd y llysenw achlysurol 'Celtic Iron Lady,' oherwydd ambell debygolrwydd rhyngddi a Margaret Thatcher, yn enwedig ei meddylfryd digyfaddawd pan oedd yn ASE.

Bu Beata Brookes farw ar 17 Awst 2015 mewn cartref gofal yn Wrecsam.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-04-18

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.