Ganwyd Betty Campbell ar 6 Tachwedd 1934 yn 6 Stryd Maria, Tre-biwt, Caerdydd, a'i bedyddio'n Rachel Elizabeth Johnson. Roedd ei mam, Honora (g. O'Leary), a elwid yn Nora, wedi ei geni yng Nghymru o dras Farbadaidd, a daeth ei thad, Simon Vickers Johnson (1903-1942), morwr, i'r DU o Jamaica yn bymtheg oed. Cafodd ei thad ei ladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan drawyd ei long gan dorpido. Bu'n anodd i'w mam gynnal y teulu'n ariannol ar ôl ei farwolaeth, a gweithiodd yn achlysurol fel bwci stryd anghyfreithlon. Er gwaethaf diffygion ei theulu, roedd Betty ar frig ei dosbarth yn Ysgol Gynradd Mount Stuart, a llwyddodd i ennill ysgoloriaeth i Ysgol Uwchradd i Ferched y Foneddiges Margaret yng Nghaerdydd. Aeth yn feichiog pan oedd yn gwneud ei Safon-A, ac yn 1953 priododd dad y plentyn, Rupert Campbell, cynorthwyydd ffitiwr ar y pryd. Aethant ymlaen i gael pedwar o blant, ac yn y pen draw bedwar ar ddeg o wyrion a dau ar bymtheg o orwyrion.
Ers yn ifanc iawn roedd gan Betty Campbell uchelgais i fod yn athrawes, er i brifathrawes ddweud wrthi un tro fod athro du yn syniad amhosibl. Pan glywodd Campbell hyn aeth yn ôl i'w desg a llefain, y tro cyntaf erioed iddi lefain yn yr ysgol. Serch hynny, bu'r geiriau hynny'n sbardun iddi fynd ati'n benderfynol o herio rhagfarn a chyflawni ei huchelgais. Yn 1960 roedd yn un o'r myfyrwyr benywaidd cyntaf i fynychu Coleg Hyfforddi Athrawon Caerdydd. Ymgymhwysodd yn athrawes yn 1963, gan ddysgu'n gyntaf yn Llanrhymni, ac wedyn yn ei hen ysgol gynradd, Mount Stuart, lle byddai'n dysgu am wyth mlynedd ar hugain.
Roedd Tre-biwt yn un o gymunedau amlddiwylliannol cyntaf Prydain, ond byddai tensiynau'n aml yn codi o fewn y gymuned am y rheswm hwnnw. Fel menyw ddu deallai Campbell y profiad o ddioddef rhagfarn yn ei herbyn, ac roedd wedi profi gelyniaeth gan rai o'r rhieni. 'They hadn't seen a black teacher before', meddai. 'It was as if you could do a job, but if you are black, you were not quite as good.' Nid oedd Campbell am weld pobl ifainc yr ardal yn mynd trwy'r un profiadau, ac felly sicrhaodd fod y plant lleol yn teimlo bod croeso iddynt yn ei hysgol. Hyrwyddodd fuddion cymdeithas amrywiol, ac roedd yn awyddus i oleuo ei disgyblion am brofiadau mewnfudo, yr holl hanes da a drwg a ddaethai yn ei sgil.
Ar daith i'r Unol Daleithiau, mynychodd Campbell seminar lle dysgodd am weithredwyr gwrth-gaethwasiaeth a'r mudiad hawliau sifil. Pan ddaeth yn bennaeth du cyntaf Cymru yn Mount Stuart yn y 1970au, dechreuodd ddysgu'r plant am gaethwasiaeth, hanes pobl ddu a'r system apartheid a oedd yn weithredol ar y pryd yn Ne Affrica. Dysgodd gyfres o weithdai ar y rhan a chwaraeodd dinasyddion Tre-biwt a gwledydd eu geni yn yr Ail Ryfel Byd. Dan ei harweiniad, enillodd Ysgol Mount Stuart gryn amlygrwydd ar draws y Deyrnas Unedig a daeth yn fodel ar gyfer addysg amlddiwylliannol. Ymwelodd y Tywysog Charles ag Eisteddfod Gŵyl Ddewi'r ysgol yn 1994, ac yn 1998 gwahoddwyd Campbell i gwrdd â Nelson Mandela ar ei unig ymweliad â Chymru. Daeth ei safbwynt cynhwysol a'i syniadau blaengar i sylw pwerau y tu hwnt i Gymru, ac yn y 1990au fe'i penodwyd i bwyllgor hil ymgynghorol y Swyddfa Gartref ac i'r Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol. Yn 2007 chwaraeodd ran allweddol yn lansiad Mis Hanes Du Cymru.
Gwasanaethodd Campbell fel cynghorydd annibynnol dros Dre-biwt ar gyngor dinas Caerdydd o 1991 i 1995, ac o 1999 i 2004. Yn 2003 dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaeth i addysg a bywyd cymunedol.
Bu Betty Campbell farw yn ddwy a phedwar ugain oed ar 13 Hydref 2017. Daeth cannoedd o bobl allan ar strydoedd Caerdydd i dalu teyrnged iddi yn ei hangladd. Bu iddi gyffwrdd â llawer o fywydau ac ysbrydoli nifer fawr o bobl. Fe'i disgrifiwyd gan Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones fel 'gwir arloeswraig' ac 'ysbrydoliaeth i bobl ddu eraill a lleiafrifoedd ethnig'.
Yn 2019 cynhaliodd BBC Cymru bleidlais gyhoeddus i benderfynu pwy ddylai gael ei chynrychioli gan y cerflun cyntaf yng Nghaerdydd o fenyw wedi ei henwi, a Betty Campbell a ddaeth ar y brig. Ym Medi 2021 dadorchuddiwyd cerflun ohoni gan y cerflunydd Eve Shepherd y tu allan i bencadlys y BBC yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 2022-06-22
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.