Ganwyd Arthur Davies ar 11 Tachwedd 1913 yn y Barri, Sir Forgannwg, yr ail o blant Garfield Brynmor Davies, athro ysgol, a'i wraig Mary Jane (g. Michael, 1881-1974). Roedd ganddo un brawd, William Brynmor Davies (1911-1970). Cafodd ei addysg yn Ysgol Elfennol Heol Gladstone ac Ysgol Sir y Barri, ac aeth ymlaen i Brifysgol Cymru, Caerdydd, lle graddiodd gyda dosbarth cyntaf mewn mathemateg a ffiseg yn 1936. Priododd ei gyd-fyfyriwr Mary Shapland (1912-1992) yn 1938, a chawsant un mab, Michael (g. 1939), a dwy ferch, Rosalind (1945-2016) a Margaret (g. 1952).
Dilynodd ei ddiddordeb mewn meteoroleg, ac o 1936 i 1939 gweithiodd fel swyddog technegol yn Swyddfa Feteorolegol y Weinyddiaeth Awyr. O 1939 i 1947 gwasanaethodd yn yr RAF lle daeth yn Uwch-swyddog Meteorolegol gyda Byddin Ymdeithiol Prydain. Cynorthwyodd i gydlynu hediadau'r RAF ar draws gogledd Môr Iwerydd a darparodd y wybodaeth feteorolegol i alluogi arwyrennau i gyrraed cynhadledd hollbwysig Yalta yn 1945.
Yn 1947 dychwelodd i'r Gwasanaeth Meteorolegol fel Prif Swyddog Gwyddonol. O 1949 i 1955 gweithiodd yn Nwyrain Affrica, gan ennill enw mawr am ei ymchwil a ddangosai gysylltiadau rhwng patrymau hinsawdd a datblygiad cymdeithasau dynol. Yn 1955 etholwyd ef gan gynrychiolwyr Cyfundrefn Meteoroleg y Byd (WMO) yn Ysgrifennydd Cyffredinol, swydd a gymerodd yn 1956 a'i dal hyd 1979, gan wasanaethu am chwe thymor yn olynol. Yn y swydd honno hyrwyddodd gydweithio rhyngwladol eang ar faterion hinsawdd a sicrhaodd fod y WMO yn gweithio gydag asiantaethau eraill y Cenhedloedd Unedig. Gwelai feteoroleg yn wedd ar yr astudiaeth o effaith y ddynoliaeth ar yr amgylchedd naturiol. Bu'n gyfrifol am gychwyn y 'World Weather Watch Programme' yn 1963, a hefyd y 'Global Atmospheric Research Programme' (1967-82).
Ar ei ymddeoliad yn 1979 cydnabuwyd ei gyfraniad trwy Fedal Heddwch y Cenhedloedd Unedig, ac yn 1980 fe'i hurddwyd yn farchog. Derbyniodd nifer o fedalau ac anrhydeddau eraill gan sefydliadau meteorolegol a phrifysgolion ar draws y byd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Hwngari, Sweden, y Swistir a'r Weriniaeth Tsiec. Yn ystod ei ymddeoliad golygodd gyfrol ar hanes y WMO, Forty Years of Progress and Achievement (1990), a bu'n weithgar gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
Bu Arthur Davies farw ar 13 Tachwedd 1990 yn Brighton. Fe'i coffhawyd yn ei dref enedigol trwy blac glas yn Heol Gladstone, y Barri.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-09-28
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.