DAVIES, DAVID JACOB (1916 - 1974), gweinidog, llenor a darlledwr

Enw: David Jacob Davies
Dyddiad geni: 1916
Dyddiad marw: 1974
Priod: Ann Lee Davies (née Lewis)
Plentyn: Amlyn Davies
Plentyn: Einir Davies
Plentyn: Hawys Davies
Plentyn: Heini Davies
Rhiant: David Davies
Rhiant: Mary Davies (née Lewis)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog, llenor a darlledwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Perfformio

Ganwyd Jacob Davies ar 5 Medi 1916 ym mwthyn Pen-lôn, Tre-groes ger Llandysul, Ceredigion, yn un o bump o blant i David Davies, saer maen, a'i wraig Mary (g. Lewis). Roedd ganddo un brawd, John Herbert (Jac) a thair chwaer, Annie, Hannah a Maria (May).

Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Tre-groes ac enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg Llandysul (1929-36), gan arbenigo mewn gwyddoniaeth ar gyfer ei dystysgrif uwch. Torrodd ei fraich dde wrth chwarae rygbi yn 1933 ac oherwydd peth esgeuluster methai ysgrifennu am gyfnod. Parodd hyn iddo droi cefn ar addysg heb gwblhau'r cwrs, a bu'n was fferm yn ardal Dihewyd ac yn gweithio gyda'i dad.

Yn 1937, ymaelododd fel myfyriwr am y weinidogaeth Undodaidd yn y Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin, lle bu'r Prifathro, John David Jones (1898-1959) yn ddylanwad arno, a llwyddodd i gael mynediad i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1941 gan astudio Addysg a Chymraeg a graddio yn 1945. Bu'n olygydd cylchgrawn Y Wawr, ac etholwyd ef yn llywydd myfyrwyr Aberystwyth yn 1944. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n weinidog ar Gapel Undodaidd New Street yn Aberystwyth, gan bregethu yno ddwywaith bob Sul, a dyma'r cyfnod y dechreuodd ysgrifennu sgriptiau a darlledu. Cychwyn y darlledu oedd iddo ennill cystadleuaeth bwrlésg yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yng Nghaerdydd tra'n fyfyriwr yng Nghaerfyrddin yn 1941.

Priododd Ann Lee Lewis o Dalgarreg yng Nghapel Bwlchyfadfa yn 1944, a ganwyd iddynt bedwar o blant, Amlyn (1946-1965), Einir (g. 1948) a'r efeilliaid Hawys a Heini (g. 1965). Derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar Eglwys Undodaidd Saesneg Highland Place, Aberdâr yn 1945 a dyma pryd y dechreuodd gymryd mwy o ddiddordeb mewn gwaith cymdeithasol. Yn ddiweddarach (1952) ychwanegwyd gofalaeth yr Hen Dŷ Cwrdd, y Capel Undodaidd Cymraeg yn y dref. Roedd y teulu yn byw yn 2 Tudor Terrace ar y Gadlys.

Ymgyrchodd gyda Lilian Davies, athrawes Gymraeg yn Ysgol Ramadeg y Merched ac aelod yn yr Hen Dŷ Cwrdd, i gael Ysgol Gymraeg yn yr ardal, ac agorwyd yr ysgol yng Nghwmdâr yn 1949. Sefydlodd Gymdeithas y Carw Coch yn y dref ac o'r gymdeithas honno y daeth y brwdfrydedd dros wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i'r ardal yn 1956. Cyfarwyddodd a chyflwynodd y ffilm 'Aberdâr, Brenhines y Bryniau' fel cyflwyniad i Gwm Cynon ar gyfer yr Eisteddfod. Bu'n weithgar yn y cyfnod hwn gyda Mudiad Pensiynwyr Cymru a bu'n annerch cyfarfodydd y gymdeithas honno yn flynyddol.

Wedi deuddeng mlynedd yn Aberdâr, daeth yr awydd i symud yn ôl i Geredigion ac yn 1957 derbyniodd alwad i gapeli Undodaidd Alltyblaca, Capel y Bryn Cwrtnewydd, a Chwmsychbant. Ymgartrefodd y teulu yn y Mans, Alltyblaca. Gweithiodd Jacob yn ddygn i wella cyflwr adeiladau'r capeli. Ni flinai bregethu ym mhulpudau ei ofalaeth ar hanfodion heddychiaeth, gan rybuddo rhag peryglon rhyfel niwclear. Bu galw mawr arno hefyd fel darlithydd i wahanol gymdeithasau ar hyd a lled Cymru, a daeth cyfleoedd i ysgrifennu mwy ar gyfer y radio ac i ddarlledu.

Daeth i amlygrwydd hefyd fel arweinydd llwyfan mewn eisteddfodau, gan gynnwys y Genedlaethol, yr Urdd ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Roedd yn aelod o'r Orsedd ac o Fwrdd yr Orsedd, ac yn aelod o bwyllgor Drama a phwyllgor Llenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd nifer o wobrwyon yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn enwedig ar straeon byrion. Bu'n aelod o Lys Llywodraethol Coleg Aberystwyth a Choleg Manceinion, Rhydychen. Er iddo gael cynigion i fod yn ymgeisydd seneddol dros y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, gwrthod a wnaeth.

Daeth yn adnabyddus ym myd darlledu ar raglenni radio fel 'Sut Hwyl' o 1941 ymlaen, a rhaglenni ar gyfer ysgolion. Bu'n sgriptio cyfresi fel 'Teulu Tŷ-coch' a 'Teulu'r Mans' ynghyd â nifer o raglenni eraill, gan lunio dros dair mil o sgriptiau. Ym myd teledu, ef a gyflwynodd y rhaglen gyntaf a ddaeth allan o stiwdio Teledu Cymru yn 1962. Yn ei flynyddoedd olaf ef oedd cadeirydd y gyfres radio boblogaidd 'Penigamp'. Cyhoeddwyd recordiau o'i ddarlithiau 'Dyn bach o'r Wlad' (1968) a 'Jacob ar ei Orau' (1971) gan Gwmni Cambrian.

Adeg y rhyfel, cyhoeddwyd llyfrau yn cynnwys deunydd ar gyfer cyngherddau milwyr ganddo ef a'i frawd Jack, a hefyd y gyfrol Cerddi'r Ddau Frawd (1940). Defnyddid ei straeon digri mewn eisteddfodau lleol, gyda 'Plwm Pwdin' a 'Cynhaea Gwair ym Mhwllygeletsh' yn ffefrynau. Roedd yn arbenigwr ar y stori fer a cheir enghreifftiau godidog yn ei gyfrol Dyddiau Main (1967), a sawl un yn dangos ei ddawn fel digrifwr dychanol a'i ddefnydd o dafodiaith gyfoethog. Bu'n olygydd Yr Ymofynnydd, cylchgrawn misol Yr Undodiaid o 1949 tan ei farw, yn ogystal â bod yn olygydd y Pensioner of Wales am ddeunaw mlynedd o 1955.

Colled enfawr i'r teulu oedd marwolaeth eu mab Amlyn yn ddeunaw oed yn 1965 tra'n fyfyriwr yn Aberystwyth. Roedd Jacob wedi cynnwys soned o waith Amlyn, 'un o blant Aberdâr', yn y gyfrol Cyfoeth Cwm a gyhoeddwyd yn yr un flwyddyn.

Etholwyd Jacob Davies yn Llywydd y Mudiad Undodaidd dros wledydd Prydain yn Ebrill 1973, ond bu farw o drawiad y galon yn ei gartref ar 11 Chwefror 1974. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Bwlchyfadfa, Talgarreg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-07-26

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.