Ganwyd John Davies ar 25 Ebrill 1938 yn Ysbyty Llwynypia, Sir Forgannwg, yn fab i Daniel Davies (m. 1950), saer coed, a'i wraig Mary (g. Potter), athrawes, o Heol Dumfries, Treorci. Bu farw ei dad-cu, William Davies, yn Nhanchwa Maerdy yn 1885 ac roedd ei gysylltiad teuluol â Chwm Rhondda a'i ddiwylliant glofaol yn gyfan gwbl allweddol i'w weledigaeth o Gymru a'r byd. Enwyd John ar ôl brawd ei dad, John Davies, sosialydd, undebwr a hyrwyddwr addysg dosbarth gweithiol nodedig. Saesneg oedd prif iaith yr aelwyd am resymau teuluol.
Yn sgil gwaeledd ei dad, a pholisi lleol yn gwahardd cyflogi athrawesau priod, pan oedd John yn saith oed symudodd y teulu i Fwlch-llan yn Sir Aberteifi - bro deuluol ei dad - lle roedd ei fam wedi llwyddo i gael swydd fel prifathrawes yr ysgol gynradd, gan ymgartrefu yn nhŷ'r ysgol. Daeth John Davies yn adnabyddus i lawer yn nes ymlaen fel John Bwlch-llan.
Aeth John i'r ysgol gynradd yn Nhreorci a Bwlch-llan cyn ennill lle yn Ysgol Ramadeg Tregaron. Daeth yn rhugl yn y Gymraeg, er bod staff yr Ysgol Ramadeg yn gymysg eu hagwedd at yr iaith. Tra yn yr ysgol, yn ogystal â darllen yn eang daeth i ymserchu'n fwyfwy yn niwylliant Cymru, ei hanes a'i llenyddiaeth yn bennaf.
Ar ôl gadael yr ysgol teithiodd yn helaeth ym Mhrydain ac Ewrop am flwyddyn cyn mynd i Goleg y Brifysgol Caerdydd i astudio hanes yn 1956. Graddiodd gyda dosbarth cyntaf yn 1959, ac enillodd ysgoloriaeth i astudio am ddoethuriaeth yng Ngholeg y Drindod, Prifysgol Caergrawnt. Yn ystod ei gyfnod yng Nghaergrawnt cryfhawyd ei ymwybyddiaeth o'i gefndir dosbarth gweithiol trwy gyfeillgarwch gyda myfyrwyr o ogledd Lloegr. Ar y llaw arall, yng Nghaerdydd dylanwadwyd arno gan genedlaetholdeb Cymreig. Ar yr un pryd daeth i gysylltiad â myfyrwyr o wledydd tramor, yn enwedig India. Enillodd ddoethuriaeth ar y testun 'Cardiff and the Marquesses of Bute' (a gyhoeddwyd yn llyfr yn 1981) o Brifysgol Cymru yn 1968 (roedd y traethawd yn rhy hir i gael ei dderbyn yn ôl rheolau Prifysgol Caergrawnt).
Ymaelododd â Phlaid Cymru tra yn y Brifysgol a threfnodd gyfarfod yng Nghynhadledd y Blaid ym Mhontarddulais yn 1962 a esgorodd ar Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1963. John Davies oedd ysgrifennydd cenedlaethol cyntaf y Gymdeithas a bu'n gefnogol iawn iddi drwy gydol ei oes. Chwaraeodd ran flaenllaw yn yr ymgyrch dros arwyddion ffyrdd dwyieithog.
Yn 1963 penodwyd ef i'w swydd gyntaf yn Adran Hanes Coleg y Brifysgol Abertawe i ddarlithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Priododd yn 1966 â Janet Mackenzie, myfyrwraig ymchwil o Fryn-mawr, gan symud i Ddryslwyn i fyw. Daeth hithau yn ei thro'n hanesydd ac awdur llwyddiannus. Ganwyd iddynt bedwar o blant, Anna, Beca, Guto ac Ianto.
Penodwyd ef yn ddarlithydd yn Adran Hanes Cymru yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1973 ac fe'i dyrchafwyd yn uwch-ddarlithydd yno yn 1981. Ef oedd warden cyntaf neuadd Gymraeg newydd Pantycelyn yn 1974, ac arhosodd yno tan 1992.
Daeth John Davies yn bresenoldeb cyson ar y cyfryngau fel sylwebydd craff a bywiog ar gwestiynau hanes a gwleidyddiaeth, a hyd yn oed ar raglenni cwis, gan ddod â ffraethineb a ffresni i bob pwnc. Ymddangosodd fel cyflwynydd teledu ar gyfresi fel History Hunters ar HTV ac Yr Hen Ogledd a ddarlledwyd ar S4C a Channel 4. Darllenai'n rhyfeddol o eang ac roedd ar dân i rannu ei wybodaeth helaeth. Roedd ei sylwadau yn wastad yn llawn cyfeiriadau llenyddol ac wedi eu bywiogi gan storïau digrif, yn aml gyda gogwydd personol.
Dywedodd ei fod ef a'i wraig wedi ystyried allfudo yn dilyn methiant y refferendwm ar ddatganoli ac ethol Margaret Thatcher yn brif weinidog yn 1979. Teithiodd y ddau yn gyson, yn bell ac yn agos, ac ambell waith fel teulu cyfan. Ond hefyd crwydrodd John y byd ar ei ben ei hun, yn enwedig wrth lunio rhai o'i gyfrolau dwysaf, megis ei lyfr pwysicaf, efallai, sef Hanes Cymru (1990; fersiwn Saesneg A History of Wales 1993). Roedd y gwaith ymchwil ar gyfer hwnnw yn hynod o drwyadl gan gynnwys llenwi deg cyfrol enfawr o nodiadau. Nid rhyfedd bod yr awdur Jan Morris wedi dweud bod dal y llyfr 700 tudalen fel dal Cymru gyfan ar gledr eich llaw.
Yn sgil ei deithio a'i ddarllen helaeth roedd ganddo weledigaeth graff fel hanesydd a sylwebydd. Ac roedd ei fagwraeth gynnar yn y Gymru ddiwydiannol ddwyieithog a'r Fro Gymraeg wledig wedi cynnig persbectifau arbennig iddo ar wlad ei febyd. Ymwelodd â phob plwyf yng Nghymru a dangosodd ei waith y berthynas agos rhwng iaith a thir.
Yn Nhachwedd 1998, ar adeg helynt rhywioldeb Ron Davies, penderfynodd John, wedi ymgynghori gyda Janet, ddatgan ei ddeurywioldeb ei hun mewn cyfweliad teledu. Efallai fod y ffaith hon hefyd wedi ychwanegu at ei graffter fel awdur ac arsyllydd cymdeithasol. Roedd ef a Janet wedi symud i Gaerdydd yn 1992, a hyd yn oed ar ôl gwahanu bu'r ddau yn byw mewn strydoedd agos i'w gilydd yn Nhrelluest, gan aros yn bâr clòs.
John Davies oedd hanesydd swyddogol y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig yng Nghymru, gan lunio'r gyfrol Broadcasting and the BBC in Wales (1994) tra bu hefyd yn cyhoeddi am hanes Plaid Cymru mewn llyfrau a phamffledi. Roedd yn un o olygyddion Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig (2008) sy'n cynnwys 5,000 o erthyglau a John wedi ysgrifennu llawer o'r rhai mwyaf swmpus ei hunan. Yn 2010 enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn am Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw (2009), taithlyfr ysblennydd o gwmpas y wlad a garai, gyda ffotograffiaeth gan Marian Delyth.
Yn 2013 John Davies oedd testun y rhaglen ddogfen gofiannol gignoeth Gwirionedd y Galon a enillodd wobr BAFTA Cymru. A'r flwyddyn ganlynol, ychydig cyn ei farwolaeth, cyhoeddwyd ei hunangofiant, doniol ac agored, Fy Hanes i.
Bwriad John Davies fel awdur oedd creu canon o waith hanesyddol er mwyn dadansoddi a dathlu ei genedl o ran ei diwylliant, ei thirlun a'i gwleidyddiaeth. Roedd yn un o genhedlaeth o haneswyr, ac efallai'r disgleiriaf yn eu plith, a daniodd adfywiad yn hanesyddiaeth Cymru. Saif ei gasgliad o gyfrolau fel testament i'w ymroddiad a'i ymhyfrydwch yn y dasg, ac fel rhodd i'w bobl.
Bu John Davies farw o gancr yng Nghaerdydd ar 16 Chwefror 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-10-18
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.