Ganwyd Rhys Davies yn Llangynidr, Sir Frycheiniog, yn Ionawr 1795. Gweithiwr haearn oedd ei dad, ac efallai mai ef oedd y Rees Davies o Langynidr a adeiladodd dair ffwrnais ar gyfer Cwmni Tredegar yn Sir Fynwy o 1800 ymlaen.
Dechreuodd Rhys Davies weithio yng ngweithfeydd haearn Tredegar yn 11 oed. Rywbryd yn y 1820au, ymunodd â Chorfflu'r Peirianwyr Brenhinol. Cynorthwyodd i adeiladu melinau rholio yn Ffrainc ar ddiwedd y 1820au a dechrau'r 1830au, gan gynnwys un a archebwyd gan Louis-Philippe I. Yn gynnar yn y 1830au, ymfudodd Davies i'r Unol Daleithiau a goruchwyliodd adeiladu Gweithfeydd Haearn Samsondale yn Haverstraw, Efrog Newydd. Yn 1832, symudodd Davies a'i wraig a'u pum plentyn (na wyddys dim yn eu cylch) i Richmond, Virginia, lle gofynnwyd iddo sefydlu ffowndri a gweithfeydd haearn. Ynghyd â'i dad a nifer o weithwyr haearn eraill o ardal Tredegar, bu Rhys Davies yn gyfrifol am adeiladu'r felin gyntaf ar gyfer rholio haearn yng ngweithfeydd haearn y Virginia Foundry Company yn Richmond. Davies oedd goruchwyliwr cyntaf y felin. Dechreuodd y Tredegar Forge and Rolling Mill weithredu yn Richmond yn 1837. Ar 6 Chwefror 1838, adroddwyd yn y Richmond Enquirer, 'the works are admirably constructed under a most skilful engineer, Mr Reese Davies... The iron is of excellent quality, and is in demand in different markets in the United States.'
Roedd arlywydd gweithfeydd Richmond wedi sgrifennu at faer Tredegar i gael caniatâd i ddefnyddio'r enw Tredegar. Efallai mai bwriad y cais oedd anrhydeddu'r dre haearn yng Nghymru, neu fanteisio ar ei henw a'i bri, neu anrhydeddu Rhys Davies ei hun. Yn 1890, esboniodd perchennog y Tredegar Iron Works yn Richmond fod cyn-berchennog wedi ei enwi 'in compliment to Mr Davis who was educated at the celebrated Welsh establishment'.
O fewn wythnosau ar ôl dechrau gwaith ar felin rolio newydd dros y Belle Isle Manufacturing Company, ger Richmond, trywanwyd Rhys Davies yn farw gan gydweithiwr. Ar 18 Medi 1838, cofnododd papur newydd y Richmond Compiler, 'He gave way to his passion and fell its victim.' Dywedwyd i'r lleiddiad gan ei holi a'i ryddhau, sy'n awgrymu bod Rhys Davies yn cael ei ystyried yn euog. Yn ôl yr Hereford Times bu farw ar 9 Medi 1838.
Mewn ysgrif goffa yn yr Hereford Times (lle nodir ei eni yn Ionawr 1795) disgrifiwyd Rhys Davies fel 'mechanical genius'. Ar y cyd â Chymry eraill a oedd wedi ymfudo gydag ef, defnyddiodd Davies ei arbenigedd Cymreig i sefydlu gweithfeydd haearn a oedd erbyn 1840 yn cynhyrchu'r mwyaf yn yr Unol Daleithiau. Gwnaeth y gweithfeydd haearn hyn gyfraniad arbennig o bwysig i dwf y system reilffordd a oedd yn prysur chwyldroi gwladychu, cyfathrebu a diwydiant Americanaidd, gan chwarae rhan allweddol wrth gyflenwi'r Cydffederasiwn yn ystod Rhyfel Cartref America. Yn eironig ddigon, o gofio cyfraniad Cymru i'w sefydlu, roedd hwn yn un o'r gweithfeydd haearn Americanaidd a roddodd derfyn ar oruchafiaeth gweithfeydd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 2022-04-22
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.