Ganwyd Youhannah El Karey yn 1843/4 yn Nablus, Palesteina, yn fab i Saleh El Karey a mam anhysbys. Cafodd ei addysg gynnar yn yr ysgol Roegaidd Uniongred yn Nablus, cyn symud i Jerwsalem pan oedd tua phedair ar ddeg oed. Cwrddodd â grwp o genhadon Bedyddwyr Americanaidd yno a chafodd ei fedyddio gan un ohonynt yn 1859, gan symud wedyn i Brydain i barhau â'i addysg.
Dan nawdd y gweinidog Methodistaidd o Gymru John Mills, a oedd wedi cael cymorth gan El Karey i ddarllen Arabeg yn Jerwsalem, derbyniodd El Karey addysg ddiwinyddol yng Nghymru ac yn Lloegr, wedi ei ariannu gan gyfeillion i Mills. Astudiodd yng Ngholeg y Bedyddwyr ym Mhontypwl yn 1863-64 ac yng Ngholeg Regent's Park yn 1865. Erbyn i El Karey gwblhau ei astudiaethau, roedd Mills wrthi'n sefydlu cenhadaeth ym Mhalesteina, ac El Karey oedd y cenhadwr cyntaf. Ar ôl cael ei ordeinio yng Nghapel Regent's Park yng Ngorffennaf 1867, dychwelodd El Karey i Nablus yn Hydref y flwyddyn honno, gyda'i wraig gyntaf, Saesnes o'r enw Rachel Dawkins. Yno y dechreuodd ar waith mawr ei fywyd fel cenhadwr, gan bregethu yn Saesneg ac yn Arabeg ymhlith y boblogaeth Fwslemaidd yn bennaf. Mae'n debyg mai ef oedd yr unig genhadwr o Fedyddiwr ym Mhalesteina yn ystod ei oes. Sefydlodd ysgolion hefyd yn Nablus lle bu ef a'i deulu'n dysgu. Er bod llawer o'i incwm yn dod o roddion i'r achos cenhadol o Loegr a Chymru, ymddengys ei fod yn ddyn cefnog, efallai yn sgil etifeddiaeth deuluol. Roedd yn berchen ar dir ac eiddo helaeth yn Nablus a'r cyffiniau, yn Al Gazawi, Abd Al Nur, Al Tubaneh, Al Mansheyeh, Sebastiya ac Al Yasmineh, lle'r adeiladodd blasty mawr o'r enw 'Al Barsh House'.
Dychwelodd El Karey i Loegr ac i Gymru nifer o weithiau yn ystod ei fywyd. Mae'n amlwg i'w gyfnod ym Mhontypwl wneud argraff ffafriol arno, ac ymgymerodd â theithiau darlithio yng Nghymru yn 1866 a 1882, gan deithio ar hyd a lled y wlad. Ymhlith y mannau y bu'n darlithio roedd Dolgellau, Porthmadog, Caernarfon, Bangor, Conwy, Mostyn, Dinbych, Treffynnon, Llangollen, Arberth, Hwlffordd, Glyn-nedd, Tredegar, Llanelli, Glynebwy, Merthyr Tudful, ac Aberdâr. Nodwyd ei ddarlithiau mewn nifer o bapurau newydd ar y pryd, gan amlaf â pharch mawr a diddordeb brwd, a sonnir amdano fel un a oedd yn adnabyddus iawn yng Nghymru. Siaradodd am ei waith cenhadol ac am ei fywyd ym Mhalesteina, a diddanodd ei gynulleidfaoedd gyda gwisgoedd a chaneuon. Cafwyd sawl sylw am ei bryd a'i wedd, ac mae ffynonellau eraill yn ei ddisgrifio fel dyn pwerus, cydnerth, tal a golygus gyda barf hir.
Cyfrannodd ei wraig gyntaf, Rachel, at y gwaith cenhadol, a ganwyd iddynt ddau o blant, Percy a Marian, ond bu hi farw yn 1881. Yn 1883, yng Nghapel Bethania y Bedyddwyr yn Rhisga, Sir Fynwy, priododd El Karey ag Alice Mary Maud Roper (g. 1853), athrawes ysgol a merch i'r cyn-gaethwas ac ymgyrchwr rhyddid Moses Roper (1815-1892), a oedd wedi dianc o Ogledd Carolina i Brydain yn 1835 ac a fu'n byw ac yn gweithio yng Nghymru am gyfnod. Disgrifir Roper fel 'Baptist Missionary' ar y dystysgrif briodas, a dichon iddo ddod i adnabod El Karey yn ystod ei ymweliadau cynharach â Chymru a rhannau eraill o Brydain, er nad oes tystiolaeth bendant iddynt gwrdd. Symudodd y pâr priod i Nablus yn fuan wedyn, ynghyd â chwaer Alice, Ada Victoria Roper (g. 1850), hithau hefyd yn athrawes. Ganwyd iddynt un mab, Victor, a dwy ferch, Gladys a Betty.
Chwaraeodd Alice, Ada ac un o'r merched - nid yw'n glir pa un ai Gladys neu Betty - rannau allweddol yng nghenhadaeth Nablus, gan weithio gyda menywod a phobl ifainc, dysgu yn yr ysgol Sul, ymweld â chleifion, gweithio fel cyfieithwyr a chynrychioli El Karey pan fyddai i ffwrdd.
Wynebodd El Karey a'i deulu nifer o anawsterau yn rhan olaf ei fywyd. Bu ef ei hun yn wael yn aml â salwch stumog hirfaith, a bu'n rhaid iddo ddychwelyd i Loegr sawl gwaith am driniaeth feddygol. Yn 1892, cafwyd epidemig o'r dwymyn yn Nablus a bu farw mab hynaf El Karey. Achosodd gwrthdaro gwleidyddol a chrefyddol drafferthion hefyd i'r teulu ar ddiwedd y 1890au. Soniodd El Karey yn ei ddyddiadur am wrthdaro rhwng Mwslemiaid a Christnogion yn ardal Nablus, gan honni na allai fynd i'w waith heb ddioddef ymosodiadau a chlywed 'Marwolaeth i Gristnogion' yn y strydoedd. Gwaethygodd pethau yn 1899, a nododd El Karey fod y llywodraeth wedi anfon heddlu i ysgolion y genhadaeth gan orchymyn i bob Mwslem adael a gwahardd Mwslemiaid rhag mynychu y cyfarfodydd mamau a gynhelid gan Alice. Aeth un barnwr mor bell â gorchymyn llosgi El Karey yn fyw am ganiatáu i Fwslemiaid fynychu cyfarfodydd Alice, a dim ond drwy ymyrraeth Swyddfa Dramor Prydain y llwyddodd i ddianc rhag y ddedfryd.
Bu Youhannah El Karey farw o drawiad ar y galon yn Nablus ar 17 Mawrth 1907. Dywedir bod llawer o Fwslemiaid, Cristnogion ac estroniaid yn bresennol yn ei angladd yn eglwys Efengylaidd Nablus; fe'i claddwyd ym mynwent yr eglwys honno. Ni wyddys beth yn union a ddigwyddodd i'w wraig a'i blant ar ôl ei farwolaeth, ond ymddengys bod Alice wedi parhau â'i gwaith cenhadol, gan iddi sgrifennu:
'I am now left alone with five young children to bring up and educate, but God has promised to be a Husband to the widow and a Father to the fatherless… with God's help, I shall go on with the work, as it was his last wish I should do so.'
Dyddiad cyhoeddi: 2024-04-08
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.